Mae Dean Way yn Ddarlithydd mewn Rheoli Lletygarwch ac yn Gymrawd o'r Academi Addysg Uwch (HEA). Ymunodd Dean â'r Adran Twristiaeth, Lletygarwch a Rheoli Digwyddiadau yn llawn amser yn gynnar yn 2018 ar ôl gweithio fel Tiwtor Cysylltiol yn Ysgol Reoli Caerdydd. Symudodd Dean i addysg uwch ar ôl astudio ar gyfer BA ac MSc mewn Rheoli Lletygarwch a TAR ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Ar ôl gweithio i gwmni manwerthu mawr mewn gwahanol swyddi rheoli a rhanbarthol, aeth Dean i'r diwydiant lletygarwch i ddilyn ei angerdd mewn bwyd a diod. Ar ôl gweithio mewn nifer o fwytai a gwestai proffil uchel, mae Dean wedi gweithio ar ddigwyddiadau mawr fel cynhadledd NATO, Cynghrair y Pencampwyr, amryw o ddigwyddiadau chwaraeon a cherddoriaeth ac wedi coginio ar gyfer pwysigion uchel eu proffil gan gynnwys y Frenhines a Thywysog Cymru. Ar ôl gweithio gyda myfyrwyr ar nifer o brosiectau lletygarwch a digwyddiadau cymunedol lleol, penderfynodd Dean ei fod yn angerddol am ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o staff lletygarwch a dechreuodd weithio gyda Phrifysgol Metropolitan Caerdydd yn rhan-amser.