Skip to main content

Angela Joseph

Prif Ddarlithydd yn y Gyfraith | Pennaeth y Adran Busnes, Rheolaeth a'r Gyfraith

Adran: Busnes, Rheolaeth a'r Gyfraith

Rhif/lleoliad swyddfa: O1.41A, Adeilad Ogwr, Ysgol Reoli Caerdydd, Campws Llandaf

Rhif ffôn:+44 (0)29 2041 7156

Cyfeiriad e-bost: ajoseph@cardiffmet.ac.uk​

Trosolwg/bywgraffiad byr

​​​​​Mae gan Angela radd israddedig yn y Gyfraith a LLM yn y Gyfraith a Chysylltiadau Cyflogaeth ac mae ganddi brofiad o redeg ei busnes ei hun cyn dechrau gweithio'n llawn amser yn y byd academaidd.

Ers ymuno â'r Brifysgol, mae Angela wedi dal nifer o swyddi rheoli gan gynnwys Pennaeth y Adran Busnes a Rheolaeth a Chyfarwyddwr Rhaglen ar ystod o raglenni israddedig sy'n gysylltiedig â busnes. Mae ganddi hefyd brofiad eang o gadeirio byrddau arholi mewnol ac allanol a chymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau dilysu. Ar hyn o bryd hi yw Cadeirydd Grŵp Maes y Gyfraith, swydd y mae hi wedi'i chynnal ers sawl blwyddyn.

Rhan bwysig o'r gwaith y mae Angela wedi'i wneud ar ran y Brifysgol yn y gorffennol yw gweithio gyda cholegau rhyngwladol ar draws y byd. Drwy hyn mae wedi ennill sylfaen gadarn ar gyfer rhannu arfer gorau a chreu gwell dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o bwysigrwydd amrywiaeth ddiwylliannol y mae wedi ei hymgorffori yn ei harferion addysgu. Mae hi'n parhau i fod yn rhan weithredol o gyflwyno a datblygu ystod o fodiwlau ar draws nifer o raddau busnes a phroffesiynol.

Addysgu.

Ymchwil

Cyhoeddiadau allweddol

Prosiectau a gweithgareddau eraill

Dolenni allanol