Ysgol Reoli Caerdydd>Ymchwil>Value Flow Centre

Y Ganolfan Llif Gwerth

Croeso i'r Ganolfan Llif Gwerth (VFC). Nod y Ganolfan, a sefydlwyd yn 2013, yw cael ei chydnabod gan academyddion ac ymarferwyr yn rhyngwladol fel y brif ganolfan ymchwil gymhwysol, cymhwyso a gwerthuso Gweithrediadau Cyfoes a Chynlluniau Rheoli (COMPs) sydd â dull cyfannol o brosesu a gwella'r gadwyn gyflenwi yn gyffredin, ynghyd â rhoi pwyslais ar bwysigrwydd trefnu llif di-dor a di-rwystr o 'werth' i'r cwsmer i lawr y lein.  

Mae'r COMPs hyn yn cynnwys Meddwl yn Ddarbodus, Theori Cyfyngiadau (TOC), Six Sigma ac Ystwythder. Yn wir, mae enw'r ganolfan hon yn deillio o ddwy brif thema gyffredin y COMPs hyn.


​Yr Athro Mark Francis yn traddodi ei ddarlith gyntaf fel Athro

Y cyntaf yw eu ffocws allanol a'u pwyslais ar yr angen i ddeall cysyniad y cwsmer o werth fel y mewnbwn allweddol wrth ddylunio prosesau. Eu hail thema gyffredin yw'r pwyslais y maen nhw’n ei roi ar bwysigrwydd cynyddu llif (cyflymder neu symudiad) gwaith trwy'r broses ffocal fel yr allwedd i gyflawni'r gwerth yma i'r cwsmer.

Yr Athro​ Mark Francis
Cyfarwyddwr, Y Ganolfan Llif Gwerth