Ysgol Reoli Caerdydd>Ymchwil>Moeseg ymchwil

Moeseg ymchwil

​Mae Ysgol Reoli Caerdydd wedi ymrwymo i sicrhau bod yr holl waith ymchwil a wneir o fewn yr ysgol yn cydymffurfio â pholisi moeseg y brifysgol. 

Mae ein polisi moeseg ymchwil ysgolion yn arwain ac yn cefnogi staff a myfyrwyr er mwyn sicrhau bod yr ysgol yn cydymffurfio â'r arferion moesegol cywir fel yr amlinellir o dan system foeseg y brifysgol. Mae'r fframwaith yn berthnasol i holl raglenni a myfyrwyr Ysgol Reoli Caerdydd boed yn astudio gartref neu dramor.

Mae gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd gyfrifoldeb i sicrhau bod yr holl ymchwil a wneir gan ei staff a'i myfyrwyr yn cydymffurfio â'r safonau moesegol uchaf. Yn y cyd-destun hwn, diffinnir ymchwil fel gweithgaredd i gasglu gwybodaeth i'w lledaenu, naill ai drwy gyhoeddi, traethawd hir, thesis neu adroddiad. 

At ddibenion y canllawiau hyn mae'n cynnwys pob gweithgaredd menter sy'n ymwneud â chyfranwyr dynol Pwyllgor Moeseg y Brifysgol (UEC) sy'n gyfrifol am hyn ac mae ganddo gylch gwaith i sicrhau bod y sefydliad yn gweithredu mewn ffordd foesegol bob amser, gan ddilyn egwyddorion Fframwaith Moeseg y Brifysgol. 

Mae craffu rheolaidd ar geisiadau am gymeradwyaeth moeseg wedi'i ddirprwyo i bwyllgorau moeseg yr Ysgolion sy'n adrodd yn uniongyrchol i'r Pwyllgor Moeseg.

Gallwch weld ein Fframwaith Moeseg Ymchwil yma: CSM Ethics Committee Framework​

Bydd yn ofynnol i'r holl staff a myfyrwyr sy'n ymgymryd â gwaith ymchwil ddilyn protocol moeseg yr ysgol. Mae'r broses hon yn dechrau gyda'r holl staff a myfyrwyr yn cael hyfforddiant gan Gydlynydd Moeseg yr Ysgol (ar gyfer staff) a'r Arweinydd/Goruchwyliwr Modiwl (ar gyfer myfyrwyr) o ran sut i gwblhau'r broses foeseg. 

Ar ôl cael hyfforddiant, bydd angen i'r holl staff/myfyrwyr sy'n ymwneud â phrosiect ymchwil lenwi'r ffurflen moeseg ymchwil briodol sy'n amlinellu natur eu gwaith ac unrhyw faterion moesegol a fydd yn deillio o'r gwaith hwn.

Mae pecynnau enghreifftiol moeseg ymchwil ar gael isod:

Ethics Exemplar Pack Undergraduate Taught Postgraduate PGR Staff Research

Dogfennau Defnyddiol gyda dolenni:

Cysylltu

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Dr Nasir Aminu, Cydlynydd Moeseg Ymchwil.