Ymchwil yn Ysgol Reoli Caerdydd

Cardiff School of Management Research


Nod cyffredinol Ysgol Reoli Caerdydd yw bod yn ddarparwr addysg busnes a rheoli o'r radd flaenaf sydd wedi'i wreiddio mewn ymchwil ac sy'n diwallu anghenion y gymuned fusnes yn rhanbarthol, yn genedlaethol (Cymru a'r DU) ac yn rhyngwladol, gan gyfrannu at adfywio rhanbarthol a thwf economaidd drwy ei gwaith addysgu, menter ac ymchwil gymhwysol.

Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 diweddaraf, cafodd 100% o effaith ymchwil Ysgol Reoli Caerdydd ei chydnabod yn rhagorol yn rhyngwladol, gan ddangos cyfredolrwydd ac effaith gadarnhaol ein hymgysylltiad â busnesau, y llywodraeth a chymdeithas. 

Mae gweithgareddau ymchwil yr Ysgol yn seiliedig ar nifer o themâu gyda chanolfannau ymchwil a grwpiau yn llywio'r gweithgareddau ymchwil hyn.

Mae llawer o'n gwaith ymchwil yn aml yn amlddisgyblaethol a gynhelir gydag ymchwilwyr o ysgolion eraill o fewn y brifysgol a, thrwy ystod o rwydweithiau gwybodaeth rhyngwladol a ddatblygwyd gan ein staff academaidd. 

Ystyriwyd 93% o'r gweithgarwch ymchwil a gyflwynwyd i'r Uned Asesu Busnes a Rheoli o ansawdd a gydnabyddir yn rhyngwladol ac ystyriwyd 89% o'r allbynnau ymchwil o ansawdd a gydnabyddir yn rhyngwladol neu uwch o ran gwreiddioldeb, arwyddocâd a thrylwyredd.

Byddem yn eich croesawu ac yn eich annog i gysylltu â ni os hoffech gydweithio â ni ar brosiectau ymchwil neu os ydych yn ystyried dilyn un o'n graddau ymchwil.