Mae'r radd BA (Anrh) Rheoli Gwerthu a Marchnata ym Met Caerdydd yn cynnig cyfle i fod yn arbenigwr ar Werthiant gyda gradd marchnata. Datblygwyd y radd ar y cyd â'r
Sefydliad Rheoli Gwerthu, gan sicrhau bod y cynnwys addysgu'n gweddu'n dda i ddisgwyliadau'r diwydiant. Mae gan ein holl gyrsiau marchnata enw da am eu cyfeiriadedd galwedigaethol - bydd dod yn 'Farchnatwr Met' yn eich galluogi i ennill y wybodaeth academaidd a'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i lwyddo mewn gyrfa Gwerthu a Marchnata.
Mae busnesau'n dibynnu ar werthu, ac mae ennill a chadw busnes newydd yn amgylchedd cystadleuol heddiw yn hanfodol, fel ag y mae graddedigion sydd â'r arbenigedd i gynyddu gwerthiant. Bydd y radd newydd yn ceisio achrediad gan y Sefydliad Rheoli Gwerthu (ISM) ac felly ei hamcan yw rhoi'r sgiliau a'r gallu i fyfyrwyr feddwl yn greadigol a mabwysiadu'r adnoddau diweddaraf mewn ymgyrchoedd gwerthu modern. Mae'r cwrs hwn yn cynnig cydbwysedd i fyfyrwyr rhwng gwybodaeth academaidd a'r profiadau ymarferol a ddisgwylir gan ddarpar reolwyr gwerthu i'w galluogi i fod yn gystadleuol yn y gweithle. Mae'r cyrsiau wedi'u cynllunio'n ofalus i ymgorffori'r wybodaeth, y sgiliau a'r ymddygiadau a ddisgwylir gan weithwyr gwerthu proffesiynol, gan sicrhau eich bod yn dod yn ymarferydd effeithiol, gyda phrofiad bywyd go iawn a chymwysterau academaidd a phroffesiynol.
Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol a datblygu sgiliau dylunio creadigol mewn ymateb i anghenion yr amgylchedd marchnata presennol. Bydd myfyrwyr yn elwa ar ddull amlddisgyblaethol, a addysgir gan arbenigwyr academaidd, ymarferwyr profiadol a siaradwyr gwadd, sef dull 'dysgu drwy wneud'. Yn ogystal â hyn, fel Marchnatwr Met byddwch yn gallu cymryd rhan yng nghymdeithas Myfyriwr y Sefydliad Marchnata siartredig (CIM) a dilyn yn ôl traed ein myfyrwyr llwyddiannus drwy
gymryd rhan yn y gweithgareddau entrepreneuraidd a chreadigol y CIM. Bydd y gystadleuaeth yn eich galluogi i gael blas ar sut beth yw gweithio i asiantaeth farchnata drwy weithio ar ymgyrch ar gyfer brand adnabyddus yn y diwydiant, gyda'r 12 sy'n cyrraedd y brig yn cael eu gwahodd i gyflwyno eu syniadau i'r cleient wyneb yn wyneb.
Mae gan ein darlithwyr wybodaeth academaidd a phrofiad mewn diwydiant i addysgu'r sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer y gweithle ar ôl graddio. Byddwch yn cyflawni lleoliad gwaith gorfodol yn yr ail flwyddyn oherwydd ystyrir hyn yn ofyniad hanfodol ar gyfer pob myfyriwr marchnata. I'r rhai sy'n dymuno, mae cyfle ychwanegol i wneud gradd ryngosod lle gellid treulio'r drydedd flwyddyn yn gwneud lleoliad priodol yn y diwydiant marchnata. Mae gan Ysgol Reoli Caerdydd dîm lleoliadau gwaith pwrpasol i'ch helpu.
Cynnwys y Cwrs
Blwyddyn Sylfaen (Blwyddyn 0)
Gall y rhaglen hon gynnwys Blwyddyn Sylfaen ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau ymrestru ar y radd anrhydedd tair blynedd ac sy'n perthyn i un o'r categorïau canlynol:
1. Myfyrwyr nad ydynt wedi cael y nifer gofynnol o bwyntiau Safon Uwch (neu gyfwerth) i ddechrau ar flwyddyn gyntaf y rhaglen radd.
2. Myfyrwyr hŷn sydd wedi bod allan o’r system addysg ffurfiol ers peth amser.
Gellir gweld rhagor o wybodaeth am y Flwyddyn Sylfaen drwy
glicio yma.
Gradd
Mae'r cwrs yn integreiddio profiad 'byd go iawn' yn ein harferion addysgu er mwyn galluogi dealltwriaeth glir o'r broses Rheoli Marchnata. Mae aseiniadau'n seiliedig ar enghreifftiau o'r diwydiant ac mae darlithwyr gwadd o blith ymarferwyr o gwmnïau hefyd.
Byddwch yn cael cyfle hefyd i astudio iaith fel gweithgaredd allgyrsiol ac i astudio dramor am semester i ehangu eich profiad a'ch sgiliau; pob un yn fantais o ran sicrhau llwyddiant mewn gyrfa Gwerthu a Marchnata.
Blwyddyn Un
Byddwch yn cyflawni 120 credyd o fodiwlau craidd:
- Cyflwyniad i Farchnata (20 credyd)
- Cyfryngau Digidol i Farchnatwyr (20 credyd)
- Technegau Hysbysebu a Gwerthu (20 credyd)
- Cyllid i Reolwyr (20 credyd)*
- Sylfeini Rheoli Adnoddau Dynol (HRM) (20 credyd)
- Sylfeini'r Gyfraith (20 credyd)
Blwyddyn Dau
Byddwch yn cyflawni 100 credyd o fodiwlau craidd a gallwch ddewis 20 credyd o fodiwlau dewisol:
Modiwlau craidd:
- Ymddygiad Defnyddwyr (20 credyd)
- Cyfathrebu Marchnata Creadigol (20 credyd)
- Dadansoddeg Ddigidol - Y We, Symudol a Marchnata (20 credyd)
- Dulliau Ymchwil Marchnata (20 credyd)
- Gwerthu Ar Waith gan gynnwys Lleoliad Gwaith (20 credyd)
Modiwlau dewisol:
- Marchnata Chwilio: Cynnwys, SEO + PPC (20 credyd)
- Marchnata Symudol a Chyfryngau Cymdeithasol (20 credyd)
- Marchnata Chwaraeon, Digwyddiadau a Nawdd (20 credyd)
- Rheoli Perfformiad Marchnata (20 credyd)
Ym mlwyddyn dau yno cewch eich cynorthwyo i ddod o hyd i leoliad gwaith perthnasol a defnyddiol sy'n gysylltiedig â ffasiwn. Mae'r lleoliad gwaith yn cynnig y profiad o roi'r theori ar waith a gweld sut mae'r theori'n cael ei defnyddio mewn sefydliad, yn uniongyrchol. Mae hyn wedi cael derbyniad da iawn gan gyflogwyr a bydd yn rhoi mantais i chi wrth wneud cais am swyddi ar ôl graddio.
Blwyddyn mewn Diwydiant: Mae'r opsiwn o dreulio blwyddyn mewn diwydiant rhwng yr 2il flwyddyn a'r flwyddyn olaf wedi'i gynnwys i'ch galluogi i gwblhau'r radd gyda lefel o brofiad ymarferol. Gellir ymgorffori'r opsiwn hwn o brofiad ymarferol yn y cwrs gradd tair blynedd drwy wneud gwaith ymarferol mewn diwydiant yn ystod y tymor neu adeg gwyliau yn ystod y cwrs.
Blwyddyn Tri/Blwyddyn Pedwar
Blwyddyn tri i fyfyrwyr nad ydynt yn dewis yr opsiwn blwyddyn o brofiad, neu Flwyddyn Pedwar i'r myfyrwyr hynny sy'n dewis yr opsiwn profiad ymarferol.
Mae myfyrwyr yn dilyn 60 credyd o fodiwlau craidd ac yna'n dewis 60 credyd o fodiwlau opsiwn.
Modiwlau craidd:
- Marchnata Rhyngwladol a Byd-eang (20 credyd)
- Rheoli Gwerthu Strategol (20 credyd)
- Rheoli Cyfrifon Allweddol ar gyfer Marchnatwyr (20 credyd)
Modiwlau dewisol:
- Traethawd hir (40 credyd)
- Cynllun Marchnata (40 credyd)
- Lansio Menter (40 credyd)
- Rheoli Hysbysebu Strategol (20 credyd)
- Rheoli Brand Strategol (20 credyd)
- Rheoli Cysylltiadau Cyhoeddus Strategol (20 credyd)
- Materion Cyfoes ym maes Marchnata (20 credyd)
- Cynnwys, Hawlfraint a Chreadigrwydd (20 credyd)
- Digwyddiadau Chwaraeon Byd-eang (20 credyd)
- Arloesi ac Entrepreneuriaeth (20 credyd)
- Gweledigaeth o Gynaliadwyedd ar gyfer Newid (20 credyd)
Bydd blwyddyn tri/pedwar yn rhoi dewis i chi ymchwilio, ysgrifennu a chyflwyno Cynllun Marchnata hefyd. Mae ein myfyrwyr wedi gweld hyn yn ddefnyddiol iawn, gan ddefnyddio eu sgiliau a'u gwybodaeth i fynd i'r afael â gofynion sefydliadau. Byddwch yn gweithio gyda sefydliadau i fynd i'r afael â materion marchnata penodol ac ennill lefel uchel o brofiad, yn ogystal â meithrin perthynas waith dda gyda'r sefydliadau. Bydd hyn o fudd mawr i'ch gyrfa.
Dysgu ac Addysgu
Bydd y dull dysgu ac addysgu sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr yn cael ei annog drwy ddefnyddio strategaethau addysgu penodol, astudiaethau achos, prosiectau, tiwtorialau, ymarferion ymarferol, wedi'u hategu gan y defnydd o ddeunyddiau cymorth priodol, darlithoedd gan arbenigwyr busnes, fideos a meddalwedd gyfrifiadurol. Mae ymgysylltu'n weithredol â'r deunydd pwnc yn gwella dysgu ac mae llawer o'r strategaethau dysgu a ddefnyddir yn hyrwyddo hyn.
Darlithoedd
Mae darlithoedd yn rhan bwysig o'r strategaeth addysgu ar gyfer y rhaglen. Mae darlithoedd yn ffordd effeithiol o gyflwyno deunydd craidd a sefydlu fframwaith ar gyfer modiwl y gellir gosod deunydd arall yn ei erbyn.
Tiwtorialau Pwnc Modiwlaidd
Cyfarfodydd rhwng myfyriwr neu grŵp o fyfyrwyr a darlithydd neu ddarlithwyr yw tiwtorialau ac fe'u defnyddir mewn dwy ffordd yn y rhaglen:
- Ehangu ar ddeunydd a drafodir mewn darlithoedd drwy ddull datrys problemau a gaiff ei lywio gan ymholi
- Gwaith adfer i oresgyn unrhyw ddiffygion yng ngwybodaeth gefndir myfyriwr.
Seminarau
Mewn seminarau mae myfyriwr neu fyfyrwyr yn cyflwyno gwaith y maent wedi'i baratoi o flaen llaw i gyfoedion a darlithydd. Defnyddir y strategaeth hon i ymestyn cysyniadau damcaniaethol neu ymarferol penodol yn ogystal â chyflwyno ymarferion datrys problemau. Defnyddir seminarau yn y rhan fwyaf o fodiwlau ac maent yn rhoi profiad gwerthfawr i fyfyrwyr o sgiliau cyflwyno yn ogystal â rhoi dull i staff asesu dysgu sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr.
Gweithdai Ymarferol
Defnyddir gweithdai ymarferol yn helaeth mewn nifer o fodiwlau drwy gydol y rhaglen. Yn y dosbarthiadau hyn gall myfyrwyr ymarfer a mireinio eu sgiliau mewn amgylchedd cefnogol lle gallant gael adborth gan aelod o'r staff academaidd. Mae gweithdai ymarferol yn ddull gwerthfawr o bontio rhwng theori ac ymarfer.
Astudiaethau Achos
Strategaeth addysgu a dysgu yw astudiaethau achos, a ddefnyddir mewn amrywiaeth o fodiwlau; maent yn offeryn asesu defnyddiol hefyd. Cyflwynir problemau cymhleth go iawn neu ffug i fyfyrwyr neu gofynnir iddynt ddatblygu rhai eu hunain ac yna mae gofyn iddynt eu dadansoddi'n fanwl ac yna cyfosod/cyflwyno eu datrysiad eu hunain yn ysgrifenedig neu ar lafar.
Arbenigwyr Busnes
Elfen allweddol o'r profiad dysgu yw'r bwriad i wahodd arbenigwyr busnes, academaidd ac mewn ymarfer, i roi cipolwg ar eu gwaith ymchwil neu weithgarwch busnes. Bydd rhwydwaith o arbenigwyr o'r fath yn helpu i ddarparu gwybodaeth arbenigol yn ogystal ag atgyfnerthu a hyrwyddo cymwysterau'r rhaglen. Gellid gwahodd arbenigwyr o'r fath fel siaradwyr gwadd neu ofyn iddynt ddarparu profiad gweithdy mwy rhyngweithiol lle bo'n briodol.
Bydd pob myfyriwr yn elwa o'r tîm o diwtoriaid personol ymroddedig sy'n darparu pwynt cyswllt personol a rheolaidd. Mae'r Tiwtoriaid Personol yn gweithio'n agos gyda Chyfarwyddwyr y Rhaglen a Thiwtoriaid Blwyddyn i sicrhau bod anghenion myfyrwyr yn cael eu diwallu'n effeithiol a bod eu hamser ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn brofiad dymunol a llwyddiannus.
Yn ogystal â'r Tiwtoriaid Personol, darperir y cymorth a'r arweiniad academaidd penodol ar gyfer y cwrs unigol gan Gyfarwyddwr y Rhaglen a'r Tiwtor Blwyddyn perthnasol. Mae hyn yn arbennig o bwysig o ran y dewis o opsiynau sydd ar gael ym mlwyddyn dau a thri a dewis llwybrau.
Asesu
Cewch eich asesu'n barhaus drwy gydol y cwrs ar sail gwaith cwrs, cyflwyniadau ac arholiadau. Bydd asesiadau ar ffurf arholiadau (a welir/nas gwelir, llyfr agored, traethodau/atebion byr), traethodau, asesiad ymarferol, gwaith gweledol, cyflwyniadau, adroddiadau unigol a grŵp, gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn canolbwyntio ar astudiaethau achos bywyd go iawn.
Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd
Mae gwerthu a marchnata yn faes deinamig a chyffrous i weithio ynddo. Gwerthu a marchnata, a ystyrir yn aml fel pwerdy sefydliadau, sydd wrth wraidd pob cwmni ac maent yn ymwneud â dod â'r cynhyrchion a'r gwasanaethau cywir i gleientiaid a chynhyrchu'r incwm a'r trosiant i gynnal sefydliadau a'u helpu i dyfu.
Gall swyddi nodweddiadol yn y sector gwerthu a marchnata gynnwys rheoli cyfrifon a rolau rheoli gwerthu a marchnata eraill. Yn ystod y cwrs byddwch yn datblygu'r sgiliau a'r ddealltwriaeth allweddol sydd eu hangen ar gyfer busnes gydag arbenigedd mewn rheoli marchnata sy'n ganolog i bob swyddogaeth fusnes. Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus bydd y sgiliau gennych i gael swydd ym maes rheoli marchnata, gan roi eich sgiliau ar waith mewn swyddi hysbysebu, ymchwil marchnata, rheoli gwerthu, rheoli cynnyrch, gwasanaeth cwsmeriaid, cysylltiadau cyhoeddus a rheoli busnes.
Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio ar y cyd â'r Sefydliad Rheoli Gwerthu (ISM), er mwyn rhoi cyfle i chi gael eich eithrio o'i gymwysterau proffesiynol. Byddwch hefyd yn gallu ymuno â'n grŵp myfyrwyr CIM sy'n annog pob myfyriwr i gymryd rhan yn ein cymuned dysgu marchnata drwy drefnu siaradwyr gwadd a rheoli digwyddiadau sy'n canolbwyntio ar farchnata. Bydd cynnwys siaradwyr deinamig a digwyddiadau rhwydweithio defnyddiol yn gwella eich profiad dysgu. Yn olaf, byddwch yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau entrepreneuraidd fel cystadlu yn y
CIM Pitch.
Mae'r opsiwn o gynnwys blwyddyn o brofiad mewn diwydiant ym mlwyddyn tri wedi'i gynnwys i'ch galluogi i gwblhau'r radd gyda lefel o brofiad ymarferol. Gellir ymgorffori'r opsiwn hwn o brofiad ymarferol yn y cwrs gradd tair blynedd drwy wneud gwaith ymarferol mewn diwydiant yn ystod y tymor neu adeg gwyliau yn ystod y cwrs.
Nod y cwrs yw bod astudio a phrofiad ymarferol yn rhoi'r gobaith gorau o gyflogadwyedd ar ddiwedd y cwrs gradd. O'r herwydd, cewch gyfle i raddio gyda sylfaen eang o wybodaeth farchnata a'r potensial i fod yn arbenigwr ar ddefnydd strategol o gysylltiadau cyhoeddus, marchnata, marchnata digidol, cyfathrebu marchnata integredig, brandio a marchnata byd-eang. At hynny, byddwch wedi cael profiad 'byd go iawn', y cyfle i gymryd rhan yn ein cymuned ddysgu CIM. Dylai myfyrwyr Marchnata Met Caerdydd fod yn eithriadol oherwydd eu gallu i gymhwyso gwybodaeth ddamcaniaethol mewn amgylchedd ymarferol.
Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais
Dylai fod gan ymgeiswyr bum gradd TGAU gan gynnwys Iaith Saesneg, Mathemateg neu Fathemateg - Rhifedd gradd C/4 neu'n uwch ynghyd â 112 pwyntiau o 2 Safon Uwch o leiaf (neu gyfwerth).
Gall cynigion nodweddiadol gynnwys:
- 112 pwynt o ddwy Safon Uwch o leiaf i gynnwys graddau CC; Bagloriaeth Cymru - Tystysgrif Her Sgiliau Uwch yn cael ei hystyried fel y trydydd pwnc
- Diploma Estynedig Cenedlaethol RQF BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt DMM
- 112 pwynt o ‘Advanced Highers’ yr Alban i gynnwys graddau DD
- 112 pwynt o'r ‘Irish Leaving Certifiicate’ Lefel Uwch i gynnwys 2 radd H2. Dim ond gydag isafswm gradd H4 y caiff pynciau Lefel Uwch eu hystyried
- 112 pwynt o'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch
Os na fyddwch yn cwrdd â'r gofynion mynediad uchod, mae'r Rhaglen Sylfaen ar gael. Bydd yn caniatáu i chi symud ymlaen i'r radd hon ar ôl ei chwblhau.
Os ydych chi'n astudio cyfuniadau o'r uchod neu os nad yw'ch cymhwyster wedi'i restru, cysylltwch â Derbyniadau neu ewch i dudalen Chwilio am Gwrs UCAS i gael y gofynion mynediad. Amwybodaeth bellach am ein gofynion mynediad, gellir cynnwys cymwysterau o'r UE trwy glicio yma.
Mae ymgeiswyr nad oes ganddynt gymhwyster mynediad arferol yn cael eu cyfweld a'u hystyried yn unigol ar sail eu cefndir dysgu blaenorol neu waith.
Ymgeiswyr Rhyngwladol
Bydd angen i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth o ruglder i safon IELTS 6.0 neu gyfwerth o leiaf. I gael manylion llawn am sut i wneud cais am gymwysterau Iaith Saesneg ewch i’r tudalennau Rhyngwladol ar y wefan.
Y Broses Ddethol:
Mae'r dewis fel arfer ar sail cais UCAS wedi'i gwblhau a chyfweliad lle bo hynny'n berthnasol.
Sut i Wneud Cais:
Dylid gwneud ceisiadau ar gyfer y cwrs hwn ar-lein i UCAS yn www.ucas.com. I gael rhagor o wybodaeth ewch i'n tudalennau Sut i Wneud Cais.
Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL) a Throsglwyddo Credydau i flwyddyn 2 a 3
Os oes gennych ddiddordeb mewn trosglwyddo credyd o sefydliad arall i astudio yn Met Caerdydd ar gyfer cwrs sy'n derbyn mynediad ar gyfer blwyddyn 2 a/neu 3, gallwch ddod o hyd i wybodaeth bellach am hyn a gwybodaeth ar sut i wneud cais ar y dudalen RPL. Cysylltwch â Derbyniadau gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych am RPL.
Myfyrwyr hŷn
Mae unrhyw un dros 21 oed nad aeth i'r brifysgol ar ôl ysgol neu goleg yn ymgeisydd hŷn. Mae Met Caerdydd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn ac mae rhagor o gyngor a gwybodaeth ar gael yma.
Cysylltu â Ni