Skip to main content
Ysgol Reoli Caerdydd>Cyrsiau>Rheoli Cysylltiadau Cyhoeddus a Marchnata – Gradd BA (Anrh)

Rheoli Cysylltiadau Cyhoeddus a Marchnata – Gradd BA (Anrh)

Blwyddyn Mynediad

Mae'r radd BA (Anrh) Rheoli Cysylltiadau Cyhoeddus a Marchnata ym Met Caerdydd yn cynnig ffocws diffiniedig ar ddod yn arbenigwr Cysylltiadau Cyhoeddus gyda gradd marchnata. Datblygwyd y radd ar y cyd â'r Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus (CIPR)gan sicrhau bod y cynnwys addysgu'n gweddu'n dda i ddisgwyliadau'r diwydiant. Mae gan ein holl gyrsiau marchnata enw da am eu pwyslais galwedigaethol - bydd dod yn 'Farchnatwr Met' yn eich galluogi i ennill y wybodaeth academaidd a'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i lwyddo mewn gyrfa cysylltiadau cyhoeddus a marchnata.

Bydd y radd newydd yn ceisio achrediad gan y Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus (CIPR) ac felly bydd yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu'r sgiliau a'r gallu i feddwl yn greadigol a mabwysiadu'r adnoddau diweddaraf ym maes Cysylltiadau Cyhoeddus modern. Mae'r dirwedd cysylltiadau cyhoeddus yn newid yn sylweddol wrth i ddefnyddwyr a sefydliadau fel ei gilydd ddibynnu llai a llai ar gyfryngau traddodiadol i ledaenu a derbyn gwybodaeth a mwy a mwy ar gyfathrebu digidol sydyn – mae mwy o alw nag erioed am ymarferwyr cysylltiadau cyhoeddus â'r sgiliau priodol.

Mae'r cwrs hwn yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ddatblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau yn nisgyblaethau cydgysylltiedig cysylltiadau cyhoeddus, y cyfryngau a marchnata. Bydd myfyrwyr yn datblygu eu talent ar gyfer cyfathrebu ac yn dysgu sut i adnabod cynulleidfa darged, paratoi negeseuon effeithiol a dewis sianeli cysylltiadau cyhoeddus priodol. Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol a datblygu sgiliau dylunio creadigol mewn ymateb i anghenion yr amgylchedd marchnata presennol. Bydd myfyrwyr yn elwa ar ddull amlddisgyblaethol, a addysgir gan arbenigwyr academaidd, ymarferwyr profiadol a siaradwyr gwadd, sef dull 'dysgu drwy wneud'.

Yn ogystal â hyn, fel Marchnatwr Met byddwch yn gallu cymryd rhan yng nghymdeithas Myfyriwr y Sefydliad Marchnata siartredig (CIM) a dilyn yn ôl traed ein myfyrwyr llwyddiannus drwy gymryd rhan yn y gweithgareddau entrepreneuraidd a chreadigol y CIM. Bydd y gystadleuaeth yn eich galluogi i gael blas ar sut beth yw gweithio i asiantaeth farchnata drwy weithio ar ymgyrch ar gyfer brand adnabyddus yn y diwydiant, gyda'r 12 sy'n cyrraedd y brig yn cael eu gwahodd i gyflwyno eu syniadau i'r cleient wyneb yn wyneb.

Mae gan ein darlithwyr wybodaeth academaidd a phrofiad mewn diwydiant i addysgu'r sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer y gweithle ar ôl graddio. Byddwch yn cyflawni lleoliad gwaith gorfodol yn yr ail flwyddyn oherwydd ystyrir hyn yn ofyniad hanfodol ar gyfer pob myfyriwr marchnata. I'r rhai sy'n dymuno, mae cyfle ychwanegol i wneud gradd ryngosod lle gellid treulio'r drydedd flwyddyn yn gwneud lleoliad priodol yn y diwydiant marchnata. Mae gan Ysgol Reoli Caerdydd dîm lleoliadau gwaith pwrpasol i'ch helpu.

Bydd y rhaglen hon yn ddarostyngedig ar adolygiad cyfnodol yn 2023/4 i sicrhau bod cynnwys y cwrs yn gyfredol ac yn parhau i fod. Os bydd unrhyw newidiadau i gynnwys y cwrs yn cael eu gwneud o ganlyniad i'r adolygiad, bydd pob ymgeisydd yn cael gwybod unwaith y bydd newidiadau'n cael eu cadarnhau.


Blwyddyn Sylfaen

​Gellir astudio’r radd hon fel gradd amser llawn tair blynedd neu radd pedair blynedd sy’n cynnwys blwyddyn o astudio sylfaenol. Bwriad ein blwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer eich blynyddoedd dilynol o astudio, gan gynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch hyder.

Bydd y flwyddyn sylfaen yn berthnasol i:

  1. Myfyrwyr nad ydynt wedi cael y nifer gofynnol o bwyntiau Safon Uwch (neu gyfwerth) i ddechrau ar flwyddyn gyntaf y rhaglen radd.
  2. Myfyrwyr hŷn sydd wedi bod allan o’r system addysg ffurfiol ers peth amser.


Darganfyddwch fwy am y flwyddyn sylfaen.

Nodwch: Bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio cod UCAS penodol os ydych yn dymuno ymgymryd â’r 4 blynedd gan gynnwys sylfaen. Cyfeiriwch at Wybodaeth Gwrs Allweddol ar waelod y dudalen hon.

Cynnwys y Cwrs

Gradd

Mae'r cwrs yn integreiddio profiad 'byd go iawn' yn ein harferion addysgu er mwyn galluogi dealltwriaeth glir o'r broses Rheoli Marchnata. Mae aseiniadau'n seiliedig ar enghreifftiau o'r diwydiant ac mae darlithwyr gwadd o blith ymarferwyr o gwmnïau hefyd.

Byddwch yn cael cyfle hefyd i astudio iaith fel gweithgaredd allgyrsiol ac i astudio dramor am semester i ehangu eich profiad a'ch sgiliau; pob un yn fantais o ran sicrhau llwyddiant mewn gyrfa Cysylltiadau Cyhoeddus a Marchnata.

Blwyddyn Un

Byddwch yn cyflawni 120 credyd o fodiwlau craidd:

  • Cyflwyniad i Farchnata (20 credyd)
  • Cyfryngau Digidol i Farchnatwyr (20 credyd)
  • Brandio a Chysyniadau Cysylltiadau Cyhoeddus (20 credyd)
  • Cyllid i Reolwyr (20 credyd) 
  • Y Gyfraith a’r Byd Busnes (20 credyd)
  • Sylfeini'r Gyfraith (20 credyd)

Blwyddyn Dau

Byddwch yn cyflawni 100 credyd o fodiwlau craidd a gallwch ddewis 20 credyd o fodiwlau dewisol:

Modiwlau craidd:

  • Ymddygiad Defnyddwyr (20 credyd)
  • Cyfathrebu Marchnata Creadigol ar gyfer Cysylltiadau Cyhoeddus (20 credyd)
  • Dadansoddeg Ddigidol (20 credyd)
  • Dulliau Ymchwil Marchnata (20 credyd)
  • Cysylltiadau Cyhoeddus Ar Waith gan gynnwys Lleoliad Gwaith (20 credyd)

Modiwlau dewisol:

  • Marchnata Chwilio: Cynnwys, SEO + PPC (20 credyd)
  • Marchnata Symudol a Chyfryngau Cymdeithasol (20 credyd)
  • Marchnata Chwaraeon, Digwyddiadau a Nawdd (20 credyd)

Ym mlwyddyn dau yno cewch eich cynorthwyo i ddod o hyd i leoliad gwaith perthnasol a defnyddiol. Mae'r lleoliad gwaith yn cynnig y profiad o roi'r theori ar waith a gweld sut mae'r theori'n cael ei defnyddio mewn sefydliad, yn uniongyrchol. Mae hyn wedi cael derbyniad da iawn gan gyflogwyr a bydd yn rhoi mantais i chi wrth wneud cais am swyddi ar ôl graddio.


Blwyddyn mewn Diwydiant: Mae'r opsiwn o dreulio blwyddyn mewn diwydiant rhwng yr 2il flwyddyn a'r flwyddyn olaf wedi'i gynnwys i'ch galluogi i gwblhau'r radd gyda lefel o brofiad ymarferol. Gellir ymgorffori'r opsiwn hwn o brofiad ymarferol yn y cwrs gradd tair blynedd drwy wneud gwaith ymarferol mewn diwydiant yn ystod y tymor neu adeg gwyliau yn ystod y cwrs.


Blwyddyn Tri/Blwyddyn Pedwar

Blwyddyn tri i fyfyrwyr nad ydynt yn dewis yr opsiwn blwyddyn o brofiad, neu Flwyddyn Pedwar i'r myfyrwyr hynny sy'n dewis yr opsiwn profiad ymarferol.

Mae myfyrwyr yn dilyn 60 credyd o fodiwlau craidd ac yna'n dewis 60 credyd o fodiwlau dewisol.

Modiwlau craidd:

  • Marchnata Rhyngwladol a Byd-eang (20 credyd)
  • Rheoli Cysylltiadau Cyhoeddus Strategol (20 credyd)
  • Dylanwadu Marchnata (20 credyd)
  • Traethawd Hir NEU Cynllun Marchnata (40 credyd)

Modiwlau dewisol**:

  • Rheoli Hysbysebu Strategol (20 credyd)
  • Rheoli Brand Strategol (20 credyd)
  • Cynnwys, Hawlfraint a Chreadigrwydd (20 credyd)
  • Digwyddiadau Chwaraeon Byd-eang (20 credyd)
  • Arloesi ac Entrepreneuriaeth (20 credyd)
  • Profiad Gwaith mewn Diwydiant (20 credyd)

**Sylwer bod modiwlau dewisol yn cael eu cyflwyno yn dibynnu ar y galw ac argaeledd.


Dysgu ac Addysgu

Bydd y dull dysgu ac addysgu sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr yn cael ei annog drwy ddefnyddio strategaethau addysgu penodol, astudiaethau achos, prosiectau, tiwtorialau, ymarferion ymarferol, wedi'u hategu gan y defnydd o ddeunyddiau cymorth priodol, darlithoedd gan arbenigwyr busnes, fideos a meddalwedd gyfrifiadurol. Mae ymgysylltu'n weithredol â'r deunydd pwnc yn gwella dysgu ac mae llawer o'r strategaethau dysgu a ddefnyddir yn hyrwyddo hyn.

Darlithoedd
Mae darlithoedd yn rhan bwysig o'r strategaeth addysgu ar gyfer y rhaglen. Mae darlithoedd yn ffordd effeithiol o gyflwyno deunydd craidd a sefydlu fframwaith ar gyfer modiwl y gellir gosod deunydd arall yn ei erbyn.

Tiwtorialau Pwnc Modiwlaidd
Cyfarfodydd rhwng myfyriwr neu grŵp o fyfyrwyr a darlithydd neu ddarlithwyr yw tiwtorialau ac fe'u defnyddir mewn dwy ffordd yn y rhaglen:

  • Ehangu ar ddeunydd a drafodir mewn darlithoedd drwy ddull datrys problemau a gaiff ei lywio gan ymholi
  • Gwaith adfer i oresgyn unrhyw ddiffygion yng ngwybodaeth gefndir myfyriwr.

Seminarau
Mewn seminarau mae myfyriwr neu fyfyrwyr yn cyflwyno gwaith y maent wedi'i baratoi o flaen llaw i gyfoedion a darlithydd. Defnyddir y strategaeth hon i ymestyn cysyniadau damcaniaethol neu ymarferol penodol yn ogystal â chyflwyno ymarferion datrys problemau. Defnyddir seminarau yn y rhan fwyaf o fodiwlau ac maent yn rhoi profiad gwerthfawr i fyfyrwyr o sgiliau cyflwyno yn ogystal â rhoi dull i staff asesu dysgu sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr.

Gweithdai Ymarferol
Defnyddir gweithdai ymarferol yn helaeth mewn nifer o fodiwlau drwy gydol y rhaglen. Yn y dosbarthiadau hyn gall myfyrwyr ymarfer a mireinio eu sgiliau mewn amgylchedd cefnogol lle gallant gael adborth gan aelod o'r staff academaidd. Mae gweithdai ymarferol yn ddull gwerthfawr o bontio rhwng theori ac ymarfer.

Astudiaethau Achos
Strategaeth addysgu a dysgu yw astudiaethau achos, a ddefnyddir mewn amrywiaeth o fodiwlau; maent yn offeryn asesu defnyddiol hefyd. Cyflwynir problemau cymhleth go iawn neu ffug i fyfyrwyr neu gofynnir iddynt ddatblygu rhai eu hunain ac yna mae gofyn iddynt eu dadansoddi'n fanwl ac yna cyfosod/cyflwyno eu datrysiad eu hunain yn ysgrifenedig neu ar lafar.

Arbenigwyr Busnes
Elfen allweddol o'r profiad dysgu yw'r bwriad i wahodd arbenigwyr busnes, academaidd ac mewn ymarfer, i roi cipolwg ar eu gwaith ymchwil neu weithgarwch busnes. Bydd rhwydwaith o arbenigwyr o'r fath yn helpu i ddarparu gwybodaeth arbenigol yn ogystal ag atgyfnerthu a hyrwyddo cymwysterau'r rhaglen. Gellid gwahodd arbenigwyr o'r fath fel siaradwyr gwadd neu ofyn iddynt ddarparu profiad gweithdy mwy rhyngweithiol lle bo'n briodol.

Bydd pob myfyriwr yn elwa o'r tîm o diwtoriaid personol ymroddedig sy'n darparu pwynt cyswllt personol a rheolaidd. Mae'r Tiwtoriaid Personol yn gweithio'n agos gyda Chyfarwyddwyr y Rhaglen a Thiwtoriaid Blwyddyn i sicrhau bod anghenion myfyrwyr yn cael eu diwallu'n effeithiol a bod eu hamser ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn brofiad dymunol a llwyddiannus.

Yn ogystal â'r Tiwtoriaid Personol, darperir y cymorth a'r arweiniad academaidd penodol ar gyfer y cwrs unigol gan Gyfarwyddwr y Rhaglen a'r Tiwtor Blwyddyn perthnasol. Mae hyn yn arbennig o bwysig o ran y dewis o opsiynau sydd ar gael ym mlwyddyn dau a thri a dewis llwybrau.


Asesu

Cewch eich asesu'n barhaus drwy gydol y cwrs ar sail gwaith cwrs, cyflwyniadau ac arholiadau. Bydd asesiadau ar ffurf arholiadau (a welir/nas gwelir, llyfr agored, traethodau/atebion byr), traethodau, asesiad ymarferol, gwaith gweledol, cyflwyniadau, adroddiadau unigol a grŵp, gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn canolbwyntio ar astudiaethau achos bywyd go iawn.


Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd​

Mae cysylltiadau cyhoeddus yn esblygu'n gyflym wrth i ddefnyddwyr a rhanddeiliaid gymryd rheolaeth gynyddol ar sianelau cyfathrebu byd-eang y gellir eu cyrchu ar unwaith, ac mae sefydliadau'n dibynnu llai a llai ar bapurau newydd a chyfryngau traddodiadol i ledaenu gwybodaeth. Gyda thechnolegau newydd a chyfryngau cyfathrebu cymdeithasol ar gynnydd, mae galw mwy am ymarferwyr cysylltiadau cyhoeddus nag erioed.

Yn ystod y cwrs byddwch yn datblygu'r sgiliau a'r ddealltwriaeth allweddol sydd eu hangen ar gyfer busnes gydag arbenigedd mewn rheoli marchnata sy'n ganolog i bob swyddogaeth fusnes. Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus bydd y sgiliau gennych i gael swydd ym maes rheoli marchnata, gan roi eich sgiliau ar waith mewn swyddi hysbysebu, ymchwil marchnata, rheoli gwerthu, rheoli cynnyrch, gwasanaeth cwsmeriaid, cysylltiadau cyhoeddus a rheoli busnes.

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio ar y cyd â'r Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus, er mwyn rhoi cyfle i chi gael eich eithrio o'i gymwysterau proffesiynol. Byddwch hefyd yn gallu ymuno â'n grŵp myfyrwyr CIM sy'n annog pob myfyriwr i gymryd rhan yn ein cymuned dysgu marchnata drwy drefnu siaradwyr gwadd a rheoli digwyddiadau sy'n canolbwyntio ar farchnata. Bydd cynnwys siaradwyr deinamig a digwyddiadau rhwydweithio defnyddiol yn gwella eich profiad dysgu. Yn olaf, byddwch yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau entrepreneuraidd fel cystadlu yn y CIM Pitch.

Mae'r opsiwn o gynnwys blwyddyn o brofiad mewn diwydiant ym mlwyddyn tri wedi'i gynnwys i'ch galluogi i gwblhau'r radd gyda lefel o brofiad ymarferol. Gellir ymgorffori'r opsiwn hwn o brofiad ymarferol yn y cwrs gradd tair blynedd drwy wneud gwaith ymarferol mewn diwydiant yn ystod y tymor neu adeg gwyliau yn ystod y cwrs.

Nod y cwrs yw bod astudio a phrofiad ymarferol yn rhoi'r gobaith gorau o gyflogadwyedd ar ddiwedd y cwrs gradd. O'r herwydd, cewch gyfle i raddio gyda sylfaen eang o wybodaeth farchnata a'r potensial i fod yn arbenigwr ar ddefnydd strategol o gysylltiadau cyhoeddus, marchnata, marchnata digidol, cyfathrebu marchnata integredig, brandio a marchnata byd-eang. At hynny, byddwch wedi cael profiad 'byd go iawn', y cyfle i gymryd rhan yn ein cymuned ddysgu CIM. Dylai myfyrwyr Marchnata Met Caerdydd fod yn eithriadol oherwydd eu gallu i gymhwyso gwybodaeth ddamcaniaethol mewn amgylchedd ymarferol.


Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais

Cynigion Nodweddiadol

​Mae’r gofynion canlynol yn seiliedig ar gynigion nodweddiadol sy’n berthnasol i ddechrau ar flwyddyn 1 y radd.

Os nad ydych yn bodloni’r gofyniad mynediad uchod, rydym hefyd yn cynnig Flwyddyn Sylfaen sy’n caniatáu gwneud cynnydd i Flwyddyn 1.​

  • Pwyntiau tariff: 112
  • Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
  • TGAU: Pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
  • Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
  • Pynciau Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch i gynnwys Graddau CCC. Does dim angen pynciau penodol. Bagloriaeth Cymru – Ystyrir Tystysgrif Her Sgiliau Uwch fel trydydd pwnc.
  • Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: DMM
  • Lefel T: Teilyngdod.
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Does dim angen pynciau penodol.
  • Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): 2 x H5. Does dim angen pynciau penodol.
  • Tystysgrif Gadael Iwerddon: 2 x gradd H2. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
  • Advanced Highers yr Alban: Graddau DD. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers.

Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.

Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.

Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.


Sut i Ymgeisio

Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.

Cysylltu â Ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol ffoniwch y Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044, e-bostiwch askadmissions@cardiffmet.ac.uk neu anfonwch neges drydar @CMetAdmissions.

Ar gyfer ymholiadau am y cwrs yn benodol, cysylltwch â Joyce Costello:
E-bost: JCostello@cardiffmet.ac.uk





Rydyn ni’n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â’r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu’r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i’r brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae’n cadw’r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o’r fath yn angenrheidiol. Darllenwch ein Telerau ac Amodau i gael y wybodaeth lawn.

Gwybodaeth Allweddol Am Y Cwrs

Codau UCAS:
N504 - Gradd 3 blynedd
N54F - Gradd 4 blynedd (yn cynnwys flwyddyn sylfaen)

Place of Study:
Campws Llandaf

Ysgol:
Ysgol Reoli Caerdydd

Hyd y Cwrs:
Tair blynedd yn llawn amser.
Pedair blynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud lleoliad diwydiant blwyddyn o hyd.
Pedair blynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud blwyddyn sylfaen.
Pum mlynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud blwyddyn sylfaen a lleoliad diwydiant blwyddyn o hyd.​