Nod y rhaglen radd BA (Anrh) Rheoli ac Arweinyddiaeth yw meithrin a gwella sgiliau a galluoedd myfyrwyr i ddod yn arweinwyr a rheolwyr busnes effeithiol y dyfodol yn yr 21ain ganrif. Mae'r radd mewn Rheoli ac Arweinyddiaeth yn canolbwyntio ar gymwyseddau personol a rhyngbersonol allweddol y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, gan gynnwys: hunangred, ymwybyddiaeth a chymhelliant, sgiliau deallusol mewn perthynas â rheoli ac arwain, hyblygrwydd, ymateb i heriau'n gyflym ac yn bendant, mabwysiadu meddylfryd twf a meithrin gwydnwch.
Y nod yw darparu gradd datblygu arweinyddiaeth sy'n heriol yn academaidd, yn ysbrydoledig yn ymarferol, ac yn datblygu twf personol. Ethos y cwrs yw y bydd gwybodaeth ddamcaniaethol drylwyr ac arloesol yn cael ei chyfuno â ffocws arbennig ar ddatblygu'r sgiliau ymarferol a datblygu sydd eu hangen i ddod yn rheolwyr ac arweinwyr effeithiol yn yr 21ain Ganrif mewn byd sy'n fyd-eang.
Mae'r radd mewn Rheoli ac Arweinyddiaeth yn cyfoethogi gwybodaeth myfyrwyr mewn amrywiaeth o feysydd arweinyddiaeth, rheoli a busnes, gan gynnwys strategaeth, marchnata, cyllid, rheoli adnoddau dynol, entrepreneuriaeth a datblygiad personol.
Mae'r cwrs gradd hwn yn cyfrannu at ddatblygu gyrfa drwy gyfuno addysgu, busnes bywyd go iawn ac arweinyddiaeth gyda datblygu sgiliau allweddol y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Bydd y rhaglen yn galluogi myfyrwyr i ddysgu am heriau arweinyddiaeth yn yr 21ain ganrif. Bydd gan fyfyrwyr fynediad at siaradwyr ysbrydoledig a rhwydwaith amrywiol o arweinwyr busnes, ymarferwyr ac entrepreneuriaid llwyddiannus a fydd yn cyflwyno gweithdai a darlithoedd drwy gydol eu gradd. Bydd y rhaglen Rheoli ac Arweinyddiaeth hon yn cyfuno theori academaidd gyfoes â dysgu am ei chymhwyso yn y byd go iawn gan dîm amrywiol o academyddion, arweinwyr busnes a gweithwyr proffesiynol achrededig sydd gyda'i gilydd yn cynnig arbenigedd a degawdau o brofiad o reoli ac arwain – gan ddod â theori'n fyw.
Cynnwys y Cwrs
Amcan penodol y radd mewn Rheoli ac Arweinyddiaeth yw rhoi'r gallu i fyfyrwyr weithio ac ymchwilio, gyda mwy o annibyniaeth, drwy ddod i gysylltiad â damcaniaethau, modelau a dulliau rheoli ac arweinyddiaeth. Bydd myfyrwyr yn cael gwybodaeth hefyd am sut i lunio atebion a strategaethau ar gyfer senarios rheoli ac arwain penodol a sut i feddwl mewn modd creadigol er mwyn datblygu atebion a chanlyniadau creadigol a phwrpasol i faterion a phroblemau penodol. Mae'r modiwlau yn y rhaglen hon yn defnyddio amrywiaeth eang o ddulliau addysgu a dysgu.
Ategir darlithoedd gan drafodaethau grŵp ac ymarferion datrys problemau grŵp er mwyn atgyfnerthu dysgu a chymhwyso theori i amrywiaeth o amgylcheddau busnes ffug.
Mae'r prosiect arweinyddiaeth ar Lefel 6 yn annog myfyrwyr i weithio o fewn sefydliad er mwyn cymhwyso eu gwaith ymchwil i leoliad go iawn. Bydd angen i fyfyrwyr wneud cryn dipyn o waith drwy ddysgu annibynnol a hunan-astudio. Hefyd, bydd dysgu myfyrwyr yn cael ei ategu gan amgylchedd dysgu rhithwir Moodle lle bydd testunau allweddol a phapurau ymchwil ar gael iddynt eu defnyddio. Bydd tîm y Rhaglen dan arweiniad Cyfarwyddwr y Rhaglen yn rhoi arweiniad a chyfeiriad strategol i'r rhaglen a bydd y tîm yn ysgwyddo cyfrifoldeb i weithredu fel Tiwtor Personol i grwpiau myfyrwyr drwy ddarparu cymorth bugeiliol i bob myfyriwr.
Lefel 4 - Blwyddyn 1af (120 Credyd)
Cyflwyniad i Reoli ac Arweinyddiaeth (20 credyd)
Egwyddorion Arweinyddiaeth a Rheoli (20 credyd)
Cyllid i Reolwyr (20 credyd)
Cyflwyniad i Farchnata (20 credyd)
Rheoli Pobl yn y Gwaith (20 credyd)
Yr Entrepreneur sy'n Canolbwyntio ar Werthoedd (20 credyd)
Lefel 5 - 2il Flwyddyn (120 Credyd)
Rheoli ac Arweinyddiaeth: Theori ac Ymarfer (20 credyd)
Arwain mewn Byd sy'n Newid (20 credyd)
Busnes ar Waith (20 credyd)
Rheoli ac Ymgysylltu â Phobl (20 credyd)
Arferion Busnes Moesegol a Chynaliadwy (20 credyd)
Profiad Gwaith (20 credyd)
Lefel 6 -3edd Flwyddyn (120 credyd)
Prosiect Arweinyddiaeth (40 credyd)
Datblygu'r Arweinydd Byd-eang (20 credyd)
Arwain Newid (20 credyd)
Rheoli Strategol (20 credyd)
Entrepreneuriaeth, Strategaeth a Diwylliant (20 credyd)
Dysgu ac Addysgu
Seminarau
Mewn seminarau mae myfyrwyr yn cyflwyno gwaith y maent wedi'i baratoi o flaen llaw i gyfoedion a darlithydd. Defnyddir y strategaeth hon i ymestyn cysyniadau damcaniaethol neu ymarferol penodol yn ogystal â chyflwyno ymarferion datrys problemau. Defnyddir seminarau yn y rhan fwyaf o fodiwlau ac maent yn rhoi profiad gwerthfawr i fyfyrwyr o sgiliau cyflwyno, blogiau, wicis neu bodlediadau, yn ogystal â rhoi dull i staff asesu dysgu sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr, tra bydd amgylcheddau dysgu rhithwir fel Moodle, gweminarau, darlithoedd wedi'u recordio, yn caniatáu i gynnwys cwrs gael ei lanlwytho, mewn achosion lle gallai hyn ddigwydd bydd myfyrwyr yn parhau i elwa ar gyswllt/arbenigedd staff.
Gweithdai Ymarferol
Defnyddir gweithdai ymarferol yn helaeth mewn nifer o fodiwlau drwy gydol y rhaglen. Yn y dosbarthiadau hyn gall myfyrwyr ymarfer a mireinio eu sgiliau mewn amgylchedd cefnogol lle gallant gael adborth gan aelod o'r staff academaidd. Mae gweithdai ymarferol yn ddull gwerthfawr o bontio rhwng theori ac ymarfer.
Astudiaethau Achos
Strategaeth addysgu a dysgu yw astudiaethau achos, a ddefnyddir mewn amrywiaeth o fodiwlau; Maent yn offeryn asesu defnyddiol hefyd. Cyflwynir problemau cymhleth go iawn neu ffug i fyfyrwyr neu gofynnir iddynt ddatblygu rhai eu hunain ac yna mae gofyn iddynt eu dadansoddi'n fanwl ac yna cyfosod/cyflwyno eu datrysiad eu hunain yn ysgrifenedig neu ar lafar.
Arbenigwyr Busnes
Elfen allweddol o'r profiad dysgu yw gwahodd arbenigwyr busnes, academaidd ac mewn ymarfer, i roi cipolwg ar eu gwaith ymchwil neu weithgarwch busnes. Mae rhwydwaith o arbenigwyr yn helpu i ddarparu gwybodaeth arbenigol yn ogystal ag atgyfnerthu a hyrwyddo cymwysterau'r rhaglen. Gellid gwahodd arbenigwyr o'r fath fel siaradwyr gwadd neu ofyn iddynt ddarparu profiad gweithdy mwy rhyngweithiol lle bo'n briodol.
Cymorth i fyfyrwyr wrth ddysgu:
Tiwtoriaid Personol
Mae'r holl fyfyrwyr sy'n astudio yn Ysgol Reoli Caerdydd yn elwa ar y tîm o diwtoriaid ymroddedig sy'n darparu pwynt cyswllt personol a rheolaidd i fyfyrwyr. Maent yn rhoi myfyrwyr ar ben ffordd gyda materion megis cyllid, lles, datblygu gyrfa yn ogystal â helpu gyda chynllunio patrymau astudio effeithiol, paratoi ar gyfer arholiadau ac amrywiaeth o faterion pwysig eraill lle bo angen. Mae'r Tiwtoriaid Personol yn gweithio'n agos gyda Chyfarwyddwr y Rhaglen a Thiwtoriaid Blwyddyn i sicrhau bod anghenion y myfyrwyr yn cael eu diwallu'n effeithiol a bod eu hamser ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn brofiad dymunol a llwyddiannus.
Mae'r rhaglen yn cynnig cymorth cyffredinol pellach i'r myfyrwyr drwy'r canlynol:
Rhaglen sefydlu ar gyfer myfyrwyr lefel 4, lefel 5 a lefel 6
Llawlyfr myfyrwyr, llawlyfr rhaglen a llawlyfrau modiwlau unigol
Amgylchedd Dysgu Rhithwir Moodle
Llyfrgell a phecynnau sgiliau astudio
Llyfrgell ac adnoddau dysgu ar ddau gampws Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Cyfleusterau cyfrifiadura arbenigol gan gynnwys labordai rhyngweithiol ac aml-gyfrwng
Cyfleuster TG mynediad agored 24 awr ar gampysau Cyncoed a Llandaf
Mynediad diderfyn i'r we fyd-eang
Mynediad at wasanaethau myfyrwyr gan gynnwys y rhai a gynigir gan y gwasanaethau gyrfaoedd, lles, anabledd, cwnsela, caplaniaeth a'r ganolfan feddygol.
Dr Catherine Wilson:
Cyfarwyddwr y Rhaglen ar gyfer y BA (Anrh) Rheoli ac Arweinyddiaeth yn Ysgol Reoli Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd.
Ymunodd Catherine ag Ysgol Reoli Caerdydd yn 2010, ac mae'n Uwch Ddarlithydd mewn Rheoli Adnoddau Dynol. Mae Catherine wedi gweithio ym maes Rheoli Adnoddau Dynol ers deng mlynedd mewn dwy ysgol fusnes. Mae hi wedi addysgu myfyrwyr lleol, cenedlaethol a rhyngwladol ar lefelau ôl-raddedig, israddedig a sylfaen. Mae hi wedi addysgu a hyfforddi Arweinyddiaeth a Rheoli yn y Sectorau Cyhoeddus, Preifat a Chymdeithasol hefyd.
Mae meysydd addysgu allweddol yn cynnwys:
Rheoli Adnoddau Dynol, arweinyddiaeth a rheoli, perfformiad, rheoli pobl a newid, cydraddoldeb ac amrywiaeth, diwylliant ac ymddygiad sefydliadol, cysylltiadau gweithwyr, cyfraith cyflogaeth, rheoli pobl yn strategol, ymarfer proffesiynol a sgiliau ymchwil.
Asesu
Mae'r strategaeth asesu'n cwmpasu sbectrwm eang o ddulliau. Mae gan bob modiwl ei nodau, ei amcanion, ei ddeilliannau dysgu a'i ddulliau cyflwyno ac asesu ei hun. Felly, gall asesiadau fod ar ffurf papurau/traethodau/adroddiadau ysgrifenedig, cyflwyniadau llafar, prosiectau ymchwil grŵp ac unigol, posteri, Flog, Blog ac astudiaethau achos a asesir.
PMae paratoadau a chymorth ar gael ar gyfer asesu drwy weithgareddau amrywiol wedi'u cynllunio gan arweinwyr modiwlau, tiwtoriaid personol a'r llyfrgell.
Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd
O ddechrau'r radd anogir myfyrwyr i feddwl am yrfa, gwaith a sgiliau. Mae'r ail flwyddyn yn cynnig cyfle pellach i gael profiad gwaith gorfodol. Nod y modiwl profiad gwaith ym mlwyddyn 2 (lefel 5) yw cynnig profiad byd go iawn i chi. Gall y swyddogion lleoliad gwaith eich helpu i ddod o hyd i leoliad addas.
Ochr yn ochr â'r radd a'r sgiliau ymarferol y bydd myfyrwyr yn eu cael, mae EDGE Met Caerdydd yn helpu myfyrwyr i ffynnu yn y byd modern hefyd. Drwy gydol y radd bydd myfyrwyr yn cael profiad o amrywiaeth o gyfleoedd i ddatblygu eich cymwyseddau moesegol, digidol, byd-eang ac entrepreneuraidd drwy ddysgu seiliedig ar broblemau, astudiaethau achos go iawn o'r diwydiant, a chyfleoedd ar gyfer lleoliadau dysgu seiliedig ar waith oddi ar y campws. Bydd EDGE Met Caerdydd yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael amrywiaeth o gyfleoedd i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy fel cyfathrebu, gwaith tîm ac arweinyddiaeth.
Disgwylir y bydd llawer o raddedigion y cwrs hwn yn mynd ymlaen i gael swyddi rheoli yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector/sector gwirfoddol. Mae'r cwrs yn galluogi myfyrwyr i wneud cais am raglenni datblygu arweinyddiaeth gyda chwmnïau fel Network Rail, Deloitte a Dunelm ac ati hefyd.
Mae cyfle i fyfyrwyr barhau i astudio ar lefel ôl-raddedig ar gyrsiau gydag Ysgol Reoli Caerdydd, fel yr MSc Rheoli Adnoddau Dynol, MSc Rheoli Entrepreneuriaeth ac Arloesi, MSc Rheoli Cadwyni Cyflenwi a Logisteg Rhyngwladol a'r MBA.
Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais
Dylai fod gan ymgeiswyr bum gradd TGAU gan gynnwys Iaith Saesneg, Mathemateg neu Fathemateg - Rhifedd gradd C/4 neu'n uwch ynghyd â 112 pwyntiau o 2 Safon Uwch o leiaf (neu gyfwerth).
Gall cynigion nodweddiadol gynnwys:
- 112 pwynt o ddwy Safon Uwch o leiaf i gynnwys graddau CC; Bagloriaeth Cymru - Tystysgrif Her Sgiliau Uwch yn cael ei hystyried fel y trydydd pwnc
- Diploma Estynedig Cenedlaethol RQF BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt DMM
- 112 pwynt o ‘Advanced Highers’ yr Alban i gynnwys graddau DD
- 112 pwynt o'r ‘Irish Leaving Certifiicate’ Lefel Uwch i gynnwys 2 radd H2. Dim ond gydag isafswm gradd H4 y caiff pynciau Lefel Uwch eu hystyried
- 112 pwynt o'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch
Os na fyddwch yn cwrdd â'r gofynion mynediad uchod, mae'r Rhaglen Sylfaen ar gael. Bydd yn caniatáu i chi symud ymlaen i'r radd hon ar ôl ei chwblhau.
Os ydych chi'n astudio cyfuniadau o'r uchod neu os nad yw'ch cymhwyster wedi'i restru, cysylltwch â Derbyniadau neu ewch i dudalen Chwilio am Gwrs UCAS i gael y gofynion mynediad. Amwybodaeth bellach am ein gofynion mynediad, gellir cynnwys cymwysterau o'r UE trwy glicio yma.
Mae ymgeiswyr nad oes ganddynt gymhwyster mynediad arferol yn cael eu cyfweld a'u hystyried yn unigol ar sail eu cefndir dysgu blaenorol neu waith.
Ymgeiswyr Rhyngwladol
Bydd angen i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth o ruglder i safon IELTS 6.0 neu gyfwerth o leiaf. I gael manylion llawn am sut i wneud cais am gymwysterau Iaith Saesneg ewch i’r tudalennau Rhyngwladol ar y wefan.
Y Broses Ddethol:
Mae'r dewis fel arfer ar sail cais UCAS wedi'i gwblhau a chyfweliad lle bo hynny'n berthnasol.
Sut i Wneud Cais:
Dylid gwneud ceisiadau ar gyfer y cwrs hwn ar-lein i UCAS yn www.ucas.com. I gael rhagor o wybodaeth ewch i'n tudalennau Sut i Wneud Cais.
Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL) a Throsglwyddo Credydau i flwyddyn 2 a 3
Os oes gennych ddiddordeb mewn trosglwyddo credyd o sefydliad arall i astudio yn Met Caerdydd ar gyfer cwrs sy'n derbyn mynediad ar gyfer blwyddyn 2 a/neu 3, gallwch ddod o hyd i wybodaeth bellach am hyn a gwybodaeth ar sut i wneud cais ar y dudalen RPL. Cysylltwch â Derbyniadau gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych am RPL.
Myfyrwyr hŷn
Mae unrhyw un dros 21 oed nad aeth i'r brifysgol ar ôl ysgol neu goleg yn ymgeisydd hŷn. Mae Met Caerdydd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn ac mae rhagor o gyngor a gwybodaeth ar gael yma.
Cysylltu â Ni