Mae'r Sylfaen Rhyngwladol mewn Rheoli sy'n arwain at lwybrau amrywiol yn rhaglen blwyddyn lawn amser sydd â'r nod o ddatblygu sgiliau Saesneg ac academaidd i gynorthwyo dilyniant llwyddiannus i gwrs gradd israddedig arfaethedig. Fe'i bwriedir ar gyfer y myfyrwyr hynny nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ond sy'n gallu darparu tystiolaeth o iaith Saesneg i safon IELTS 6.0 (neu gyfwerth) o leiaf.
Mae'r rhaglen hon yn darparu llwybr astudio cyffredin sy'n galluogi myfyrwyr, ar ôl ei chwblhau'n llwyddiannus, i gael mynediad i flwyddyn gyntaf (Lefel 4) amrywiaeth eang o raglenni gradd yn Ysgol Reoli Caerdydd, Ysgol Gwyddorau Chwaraeon ac Iechyd Caerdydd ac Ysgol Technolegau Caerdydd. Bydd y myfyrwyr rhyngwladol yn elwa ar ddau fodiwl sy'n cael eu haddysgu gan academyddion y Ganolfan Hyfforddi Saesneg (ELTC) a fydd yn darparu cymorth gyda sgiliau Saesneg ac astudio.
Mae'n gyfle hefyd i ehangu mynediad i fyfyrwyr nad yw eu cymwysterau'n briodol ar gyfer mynediad arferol i gwrs gradd ac a allai fod wedi bod allan o fyd addysg am gyfnod ond sydd â phrofiad gwaith perthnasol. Bydd yn darparu sylfaen o wybodaeth graidd ac ar ôl ei chwblhau'n llwyddiannus gall myfyrwyr wneud cais i'r rhaglen radd o'u dewis yn y dyfodol. Rydym yn croesawu myfyrwyr sydd ag ystod eang o gefndiroedd a phrofiadau, gan gynnwys:
Cynnwys y Cwrs
Bydd y flwyddyn Sylfaen Rhyngwladol mewn Rheoli'n cynnwys y modiwlau canlynol:
Sgiliau Academaidd a Phroffesiynol (a addysgir gan ELTC)
Technoleg Gwybodaeth yn y Byd Modern
Cymhwyso Rhifedd
Datblygu Prosiect Ymchwil (Addysgir gan y Ganolfan Hyfforddi Saesneg)
Marchnata yn yr 21ain Ganrifain Ganrif
Gweithio ym maes Rheoli
Mae'r cwrs yn cysylltu â'r meysydd rhaglen gradd anrhydedd canlynol a gynigir yn Ysgol Reoli Caerdydd, Ysgol Gwyddorau Chwaraeon ac Iechyd Caerdydd ac Ysgol Technolegau Caerdydd. Felly, bydd myfyrwyr sy’n dilyn y llwybr sylfaen yn cymryd blwyddyn ychwanegol i gwblhau eu gradd anrhydedd. Byddwch yn ymdoddi'n llawn i fywyd prifysgol a'r gymuned myfyrwyr o'r diwrnod cyntaf, mae gennym gyfraddau dilyniant uchel, ac rydym yn gweithio'n galed i sicrhau bod pob myfyriwr yn cyflawni o'i orau. Mae lles ein myfyrwyr yn bwysig i ni, felly byddwn yn cynnig cymorth arbenigol ac ystod o weithgareddau cymdeithasol i chi eu mwynhau. Cewch eich addysgu ar ein campws yn Llandaf ac mae amrywiaeth o
ddewisiadau llety ar gael. Efallai y bydd y rhai ohonoch ar y llwybr Chwaraeon am ofyn am neuadd ar gampws Cyncoed lle mae ein Hysgol Gwyddor Chwaraeon ac Iechyd, sy'n daith fer
ar y bws o ble y cewch eich addysgu.
Cyfrifeg, Economeg a Chyllid:
Cyfrifeg - BA (Anrh)
Cyfrifeg a Chyllid - BA (Anrh)
Bancio a Chyllid - BA (Anrh)
Economeg - BSc (Anrh)
Economeg a Chyllid Rhyngwladol - BSc/BScEcon (Anrh)
Busnes a Rheoli:
Busnes a Rheoli (gyda llwybrau arbenigol) - BA (Anrh)
Rheoli Busnes Rhyngwladol - BA (Anrh)
Cyfrifiadureg a Systemau Gwybodaeth:
Systemau Gwybodaeth Busnes - BSc (Anrh)
Dylunio a Datblygu Gemau Cyfrifiadurol - BSc (Anrh)
Cyfrifiadureg - BSc (Anrh)
Peirianneg Meddalwedd - BSc (Anrh)
Marchnata:
Rheoli Hysbysebu a Marchnata - BA (Anrh)
Rheoli Brand a Marchnata - BA (Anrh)
Prynu Ffasiwn a Rheoli Brand – BA (Anrh)
Rheoli Marchnata Digidol - BA (Anrh)
Rheoli Marchnata Ffasiwn - BA (Anrh)
Rheoli Marchnata - BA (Anrh)
Rheoli Cysylltiadau Cyhoeddus a Marchnata – BA (Anrh)
Rheoli Gwerthu a Marchnata – BA (Anrh)
Chwaraeon:
Hyfforddi Chwaraeon - BSc (Anrh)
Cyfryngau Chwaraeon - BSc (Anrh)
Dadansoddi Perfformiad Chwaraeon - BSc (Anrh)
Chwaraeon, Addysg Gorfforol ac Iechyd (Dawns) - BSc (Anrh)
Chwaraeon, Addysg Gorfforol ac Iechyd - BSc (Anrh)
Rheoli Chwaraeon - BSc (Anrh)
Astudiaethau Chwaraeon ac Addysg Gorfforol (dwyieithog) - BSc (Anrh)
Twristiaeth, Lletygarwch a Digwyddiadau:
Rheoli Digwyddiadau - BA (Anrh)
Rheoli Lletygarwch a Digwyddiadau Rhyngwladol - BA (Anrh)
Rheoli Lletygarwch a Thwristiaeth Rhyngwladol - BA (Anrh)
Dysgu ac Addysgu
Amcan y cwricwlwm yw meithrin lefel o hyder a pharodrwydd mewn myfyrwyr sy'n eu galluogi i symud ymlaen i raglen radd o'u dewis. Bydd y rhaglen yn hwyluso datblygiad sgiliau trosglwyddadwy hefyd, sy'n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr y diwydiant ac yn cynorthwyo astudio pellach, er enghraifft: ymwybyddiaeth feirniadol drwy ymchwil a dadansoddi, cynllunio ac arloesi, sgiliau menter ac entrepreneuraidd a chyfathrebu llafar, ysgrifenedig a gweledol. Mae'n canolbwyntio ar daith y myfyriwr a'r broses o fyfyrwyr yn pontio i'r brifysgol o gefndiroedd ansafonol ac mae'n cefnogi dysgu gydol oes ymhlith y gymuned ehangach.
Defnyddir amrywiaeth o ddulliau cyflwyno addysgu yn y cwrs hwn gan gynnwys darlithoedd, gwaith grŵp, seminarau a gweithdai. Byddwch yn astudio chwe modiwl, bydd tri yn cael eu cyflwyno yn Nhymor 1 a 3 yn Nhymor 2. Bydd gan bob modiwl 48 awr o oriau wedi'u hamserlennu (amser cyswllt) a 152 awr ar gyfer hunan-astudio / amser dysgu annibynnol.
Cefnogir dysgu annibynnol gan ein hamgylchedd dysgu rhithwir (Moodle). Mae rhagor o gymorth ar gael gan eich Arweinwyr Modiwlau / tiwtoriaid seminar, Cyfarwyddwr y Rhaglen, a'r tîm tiwtora personol.
Asesu
Mae yna amrywiaeth eang o asesiadau ar y rhaglen hon gan gynnwys traethodau, cyflwyniadau, adroddiadau, profion yn y dosbarth, arholiadau, prosiectau ymchwil unigol a dyddiadur myfyriol. Mae paratoadau a chymorth ar gael ar gyfer asesiadau gan gynnwys sesiynau adolygu, tiwtora personol a gweithdai sgiliau a gaiff eu cynnal gan y Ganolfan Ddysgu. Bydd amrywiaeth o adborth yn cael ei roi i fyfyrwyr ar ffurfiau gwahanol fel; ysgrifenedig, llafar ac ar-lein yn dibynnu ar y dull cyflwyno.
Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd
Mae'r rhaglen yn cysylltu â'r rhaglenni gradd anrhydedd tair blynedd a ddarperir yn Ysgol Reoli Caerdydd, Ysgol Gwyddorau Chwaraeon ac Iechyd Caerdydd ac Ysgol Technolegau Caerdydd.
I gael gwybodaeth benodol am gyflogadwyedd a gyrfaoedd sy'n gysylltiedig â'r rhaglenni gradd hyn, cyfeiriwch at dudalennau'r cyrsiau unigol.
Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais
Rhaid i fyfyrwyr fodloni'r meini prawf mynediad gofynnol arferol, ar gyfer derbyn myfyrwyr, sydd wedi'u cynnwys yn Llawlyfr Academaidd Prifysgol Metropolitan Caerdydd a dylai'r canlynol fod ganddynt fel arfer:
- o leiaf bum TGAU neu gyfwerth (Graddau A-C) gan gynnwys Saesneg Iaith a Mathemateg* gradd C neu uwch (gradd 4 neu uwch ar gyfer ymgeiswyr sydd â TGAU newydd eu diwygio yn Lloegr)
- 32 pwynt tariff UCAS o 1 Safon Uwch neu gymhwyster cyfwerth o leiaf
- Tystiolaeth o iaith Saesneg o safon IELTS 6.0 (neu gyfwerth) o leiaf.
*Ar gyfer ymgeiswyr o Gymru sy'n sefyll y TGAU Mathemateg diwygiedig, byddwn yn derbyn naill ai TGAU
Mathemateg neu
Mathemateg – Rhifedd.
Caiff ymgeiswyr heb gymwysterau mynediad gofynnol arferol eu hystyried ar sail unigol gan Gyfarwyddwr y Rhaglen a bydd yn ofynnol iddynt gael cyfweliad fel arfer. Anfonir hysbysiad o dderbyn drwy fynediad eithriadol ynghyd â sail resymegol at Bwyllgor Dysgu ac Addysgu'r Ysgol a'r Gofrestrfa.
Os oes angen arweiniad pellach arnoch ar ofynion mynediad, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at
Chwiliad Cwrs UCAS. Mae rhagor o fanylion am ein gofynion mynediad, gan gynnwys cymwysterau o'r UE, ar gael drwy glicio
yma.
Ymgeiswyr Rhyngwladol:
Bydd angen i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth o ruglder i safon IELTS 6.0 neu gyfwerth o leiaf.
Sut i Wneud Cais:
Dylid gwneud ceisiadau ar gyfer y cwrs hwn i'r Brifysgol yn uniongyrchol. I gael rhagor o wybodaeth ewch i'n
tudalennau Sut i Wneud Cais Rhyngwladol.
Myfyrwyr hŷn:
Mae unrhyw un dros 21 oed nad aeth i'r brifysgol ar ôl ysgol neu goleg yn ymgeisydd hŷn. Mae Met Caerdydd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn ac mae rhagor o gyngor a gwybodaeth ar gael
yma.
Cysylltu â Ni