Bydd y radd hon mewn Rheoli Busnes Rhyngwladol yn eich galluogi i ddilyn gyrfa ym maes rheoli busnes rhyngwladol a chael mantais gystadleuol yn y farchnad swyddi fyd-eang sydd ohoni.
Wrth i fusnesau barhau i weithredu ar draws ffiniau, mae yna alw mawr yn y farchnad swyddi am raddedigion sydd wedi cael addysg busnes rhyngwladol amlddisgyblaethol. Mae'r radd yn cynnig cyfuniad unigryw i chi o safbwyntiau rhyngwladol ar fusnes a rheoli, sgiliau rheoli trawsddiwylliannol a chymwyseddau ieithoedd tramor.
Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi graddedigion sydd wedi datblygu safbwyntiau busnes byd-eang. Mae gwerth meddylfryd byd-eang graddedigion i'w weld yn y gallu i ddangos amrywiaeth o gymwyseddau sy'n rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol iddynt weithio mewn amgylchedd busnes cynyddol fyd-eang, gweithio gyda thimau amlddiwylliannol, bod ag ymwybyddiaeth ryngddiwylliannol a meddu ar sgiliau iaith dramor.
Byddwch yn datblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau ym meysydd y ddisgyblaeth megis rheoli, marchnata, adnoddau dynol, strategaeth, cyllid, entrepreneuriaeth a rheolaeth drawsddiwylliannol. Yn ogystal â hyn, mae ieithoedd yn elfen graidd drwy gydol y rhaglen gyfan a rhaid i fyfyrwyr astudio un iaith dramor (Sbaeneg / Ffrangeg / Tsieinëeg Mandarin)
Cynigir Sbaeneg a Ffrangeg naill ai ar lefel dechreuwyr neu lefel ôl Safon Uwch.
Sylwer bod y cynnig Safon Uwch ar gyfer Sbaeneg a Ffrangeg yn dibynnu ar y galw.
Cynigir Tsieinëeg Mandarin ar lefel dechreuwyr.
Mae'r radd amlddisgyblaethol hon yn cynnig amrywiaeth eang o fodiwlau dewisol ym mlynyddoedd dau a thri a fydd yn eich galluogi i adeiladu eich proffil academaidd i gyd-fynd â'ch diddordebau addysgol a'ch dyheadau gyrfa. Bydd hyn yn rhoi cyfle i chi arbenigo mewn maes penodol neu astudio'r pwnc yn fwy cyffredinol.
Mae modiwlau blwyddyn un yn canolbwyntio ar feysydd busnes a rheoli sylfaenol, gan osod y sylfaen ar gyfer modiwlau diweddarach. Mae blynyddoedd dau a thri yn ychwanegu mwy o ddyfnder academaidd at y pynciau, ac maent yn fwy cymhwysol, ymarferol, ymchwiliol a dadansoddol eu natur.
Byddwch yn datblygu casgliad o sgiliau trosglwyddadwy hefyd, sy'n hanfodol yn y farchnad swyddi fyd-eang gystadleuol sydd ohoni. Maent yn cynnwys sgiliau cyfathrebu, gwaith tîm, sgiliau rhyngddiwylliannol, datrys problemau, meddwl beirniadol a dadansoddol, sgiliau digidol a sgiliau entrepreneuraidd.
Mae cyrsiau academaidd yn Ysgol Reoli Caerdydd yn canolbwyntio ar yrfaoedd ac wedi'u cynllunio ar y cyd â busnes a diwydiant. Nod ein cyrsiau yw hyrwyddo cyflogadwyedd myfyrwyr, trosglwyddo gwybodaeth ac ymchwil gymhwysol. Caiff cynllun y rhaglen ei lywio gan ymchwil ac ymarfer proffesiynol cyfredol i sicrhau bod cynnwys y cwrs yn berthnasol i'ch gyrfa yn y dyfodol.
Yn ail flwyddyn y radd, byddwch yn cyflawni modiwl lleoliad gwaith gorfodol (15 diwrnod o leoliad gwaith) gan fod hyn yn cael ei ystyried yn ofyniad hanfodol i bob myfyriwr yn Ysgol Reoli Caerdydd. Mae cyfle ychwanegol i gymryd blwyddyn ryngosod, rhwng blynyddoedd dau a thri y rhaglen, i gyflawni lleoliad blwyddyn o hyd mewn diwydiant. Bydd hyn yn eich hefyd i gael profiad gwaith gwerthfawr mewn diwydiant a sefyll allan ymhlith ymgeiswyr eraill pan fyddwch yn gwneud cais am swyddi.
Cynnwys y Cwrs
Blwyddyn Sylfaen (Blwyddyn 0):
Mae’r rhaglen yn cynnwys blwyddyn sylfaen ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau ymrestru ar y radd anrhydedd tair blynedd ac sy’n perthyn i un o’r categorïau canlynol:
1. Myfyrwyr nad ydynt wedi cael y nifer gofynnol o bwyntiau Safon Uwch (neu gyfwerth) i ddechrau ar flwyddyn gyntaf y rhaglen radd.
2. Myfyrwyr hŷn sydd wedi bod allan o’r system addysg ffurfiol ers peth amser.
Gellir gweld rhagor o wybodaeth am y flwyddyn sylfaen drwy
glicio yma.
Gradd:
- Mae'r rhaglen yn cynnig paratoad academaidd a phroffesiynol ar gyfer rolau rheoli byd-eang mewn mentrau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae'r cwrs yn rhoi'r canlynol i fyfyrwyr:
- Craffter rheoli busnes rhyngwladol a sgiliau rheoli busnes allweddol
- Ymwybyddiaeth o amrywiaeth ddiwylliannol a sgiliau sylfaenol mewn rheoli trawsddiwylliannol a
- Cymwyseddau ieithoedd tramor i gyfathrebu mewn iaith dramor gyda'u cymheiriaid rhyngwladol. Mae ieithoedd yn elfen graidd drwy gydol y cwrs cyfan a rhaid i fyfyrwyr astudio un iaith dramor.
Addysgir yr holl fodiwlau yn Saesneg ac mae darpariaeth ar gyfer deunydd Cymraeg cyfatebol mewn nifer o fodiwlau yn Lefelau 4, 5 a 6. Nodir y rhain isod * ac er y gwneir pob ymdrech i sicrhau eu bod yn cael eu cynnal bob blwyddyn, nid oes modd gwarantu hyn yn anffodus.
Blwyddyn Un (Lefel 4)
Mae pob modiwl yn orfodol (120 credyd)
- Busnes mewn Cyd-destun Byd-eang (20 credyd)
- Cyflwyniad i Farchnata (20 credyd)*
- Cyllid i Reolwyr (20 credyd)*
- Modiwl Iaith Dramor: Ffrangeg/Tsieinëeg Mandarin/Sbaeneg (20 credyd)
- Rheoli Pobl yn y Gwaith (20 credyd)*
- Systemau Gwybodaeth Busnes (20 credyd)
Blwyddyn Dau (Lefel 5) (Cyfanswm 120 credyd)
Modiwlau Gorfodol (100 credyd)
- Rheoli o Safbwynt Busnes Rhyngwladol (20 credyd)
- Ymwybyddiaeth Ryngddiwylliannol ar gyfer Busnes (20 credyd)
- Modiwl iaith: Ffrangeg/ Sbaeneg / Tsieinëeg Mandarin (20 credyd)
- Rheoli Creadigrwydd ac Arloesedd (20 credyd)
- Profiad Gwaith (20 credyd)
Modiwlau Dewisol (20 credyd)
- Rheoli ac Ymgysylltu â Phobl (20 credyd)
- Ymddygiad Defnyddwyr (20 credyd)
- Arian a Buddsoddi (20 credyd)
- Cyfraith Busnes ar gyfer yr Oes Ddigidol (20 credyd)
- Busnes Digidol (20 credyd)
Blwyddyn Tri / Blwyddyn Pedwar (Lefel 6)
Modiwlau Gorfodol (60 credyd)
- Rheoli Busnes Rhyngwladol (20 credyd)
- Busnes Rhyngwladol ac Amrywiaeth Ddiwylliannol (20 credyd)
- Modiwl iaith: Ffrangeg/Tsieinëeg Mandarin/Sbaeneg (20 credyd)
Modiwlau Dewisol (60 credyd)
- Rheoli Adnoddau Dynol Rhyngwladol a Chymharol (20 credyd)
- Materion Cyfoes a Rhyngwladol mewn Moeseg Busnes (20 credyd)
- Marchnata Rhyngwladol a Byd-eang (20 credyd)
- Rhwymedigaethau Busnes (20 credyd)
- Arloesi ac Entrepreneuriaeth (20 credyd)
- Gweledigaeth o Gynaliadwyedd ar gyfer Newid (20 credyd)
- Rheoli Buddsoddi (20 credyd)
- Rheoli Prosiect Technoleg (20 credyd)
- Iaith Dramor (2il iaith dramor)
- Traethawd hir (40 credyd)
- Lansio Menter (40 credyd)
- Lleoliad Gwaith Diwydiannol (20 credyd)
Llwybrau Iaith
Mae dau lwybr mynediad ar gyfer iaith:
- Dechreuwyr/Llwybr ôl-TGAU (Ffrangeg, Sbaeneg a Tsieinëeg Mandarin - Yn amodol ar ddigon o alw). Mae'r llwybr hwn yn rhoi gwybodaeth weithredol am yr iaith i fyfyrwyr a fydd yn eu galluogi i gyfathrebu fel defnyddiwr annibynnol mewn lleoliadau personol a busnes. (Lefel B1/B2 o'r Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd).
- Llwybr ôl-Safon Uwch (Ffrangeg a Sbaeneg - Yn amodol ar ddigon o alw). Mae'r llwybr hwn yn galluogi myfyrwyr sydd â Safon Uwch neu gymhwysedd cyfatebol yn yr iaith i wella eu sgiliau ieithyddol ymhellach. Mae'r llwybr hwn yn rhoi lefel uchel o sgiliau iaith i fyfyrwyr a fydd yn eu galluogi i gyfathrebu fel defnyddiwr medrus mewn lleoliadau cysylltiedig â busnes. (Lefel C2 o'r Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd).
Gall myfyrwyr sydd â diddordeb mewn ieithoedd astudio ar gyfer modiwl iaith ychwanegol ar sail ddewisol (h.y. modiwl heb gredyd). Gellir gwneud hyn yn unrhyw un o'r ieithoedd a restrir ar unrhyw lefel yn ystod eu hastudiaethau (yn amodol ar ddigon o alw). Mae hyn yn gyfle unigryw i ddechrau gweithio tuag at asedau cyflogadwyedd.
Mae'r radd yn defnyddio dull modiwlaidd; mae gofyn i fyfyrwyr astudio nifer penodol o fodiwlau ym mhob blwyddyn (120 credyd y flwyddyn). Er bod rhaid i bob myfyriwr gymryd modiwlau craidd, gall myfyrwyr ar y radd BA (Anrh) Rheoli Busnes Rhyngwladol ddewis modiwlau dewisol ym mlynyddoedd dau a 3, gan roi mwy o hyblygrwydd i fyfyrwyr ddilyn eu diddordebau academaidd/proffesiynol.
Mae’r cwrs yn cyfuno modiwlau craidd a dewisol o ddisgyblaethau busnes a rheoli, astudiaethau rhyngddiwylliannol ac ieithoedd. Mae'r modiwlau gorfodol yn cynrychioli'r wybodaeth a'r sgiliau craidd hanfodol sydd eu hangen ar gyfer pob maes astudio.
Dysgu ac Addysgu
Darlithoedd
Mae darlithoedd yn rhan bwysig o'r strategaeth addysgu ar gyfer y rhaglen. Mae darlithoedd yn ffordd effeithiol o gyflwyno deunydd craidd a sefydlu fframwaith ar gyfer modiwl y gellir gosod deunydd arall yn ei erbyn.
Seminarau
Mewn seminarau mae myfyrwyr yn cyflwyno gwaith y maent wedi'i baratoi o flaen llaw i gyfoedion a darlithydd. Defnyddir y strategaeth hon i ymestyn cysyniadau damcaniaethol neu ymarferol penodol yn ogystal â chyflwyno ymarferion datrys problemau. Defnyddir seminarau yn y rhan fwyaf o fodiwlau ac maent yn rhoi profiad gwerthfawr i fyfyrwyr mewn sgiliau cyfathrebu, sgiliau datrys problemau a dadansoddi, yn ogystal â rhoi dull i staff asesu dysgu sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr.
Gweithdai Ymarferol
Defnyddir gweithdai ymarferol yn helaeth mewn nifer o fodiwlau drwy gydol y rhaglen. Yn y dosbarthiadau hyn, gall myfyrwyr ymarfer a mireinio eu sgiliau mewn amgylchedd cefnogol lle gallant gael adborth gan aelod o'r staff academaidd. Mae gweithdai ymarferol yn ddull gwerthfawr o bontio rhwng theori ac ymarfer.
Arbenigwyr Busnes
Elfen allweddol o'r profiad dysgu yw gwahodd arbenigwyr busnes neu academyddion eraill i roi cipolwg ar eu gweithgarwch busnes neu eu gwaith ymchwil. Mae rhwydwaith o arbenigwyr yn helpu i ddarparu gwybodaeth arbenigol yn ogystal ag atgyfnerthu a hyrwyddo cymwysterau'r rhaglen. Gellid gwahodd arbenigwyr o'r fath fel siaradwyr gwadd neu ofyn iddynt ddarparu profiad gweithdy mwy rhyngweithiol lle bo'n briodol.
Cymorth i fyfyrwyr wrth ddysgu:
Tiwtoriaid Personol
Mae'r holl fyfyrwyr sy'n astudio yn Ysgol Reoli Caerdydd yn elwa ar y tîm o diwtoriaid ymroddedig sy'n darparu pwynt cyswllt personol a rheolaidd i fyfyrwyr. Maent yn rhoi myfyrwyr ar ben ffordd gyda materion megis cyllid, lles, datblygu gyrfa yn ogystal â helpu gyda chynllunio patrymau astudio effeithiol, paratoi ar gyfer arholiadau ac amrywiaeth o faterion pwysig eraill lle bo angen. Mae'r Tiwtoriaid Personol yn gweithio'n agos gyda Chyfarwyddwr y Rhaglen a Thiwtoriaid Blwyddyn i sicrhau bod anghenion y myfyrwyr yn cael eu diwallu'n effeithiol a bod eu hamser ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn brofiad dymunol a llwyddiannus.
Yn ogystal â'r Tiwtoriaid Personol, bydd Cyfarwyddwr y Rhaglen a'r Tiwtor Blwyddyn yn darparu cymorth ac arweiniad unigol gydag unrhyw agweddau academaidd. Mae hyn yn arbennig o bwysig o ran y dewis o fodiwlau dewisol sydd ar gael ar lefel 5 a 6. Cefnogir arweiniad ar fodiwlau dewisol ymhellach gan sesiynau llawn ynghyd â Ffair Opsiynau i gynnig arweiniad unigol pellach.
Mae'r rhaglen yn cynnig cymorth cyffredinol pellach i'r myfyrwyr drwy'r canlynol:
- Rhaglen sefydlu ar gyfer myfyrwyr lefel 4, lefel 5 a lefel 6
- Llawlyfr myfyrwyr, llawlyfr rhaglen a llawlyfrau modiwlau unigol
- Amgylchedd Dysgu Rhithwir Moodle
- Llyfrgell a phecynnau sgiliau astudio
- Llyfrgell ac adnoddau dysgu ar ddau gampws Prifysgol Metropolitan Caerdydd
- Cyfleusterau cyfrifiadura arbenigol gan gynnwys labordai rhyngweithiol ac aml-gyfrwng
- Cyfleuster TG mynediad agored 24 awr ar gampysau Cyncoed a Llandaf
- Mynediad diderfyn i'r we fyd-eang
- Mynediad at wasanaethau myfyrwyr gan gynnwys y rhai a gynigir gan y gwasanaethau gyrfaoedd, lles, anabledd, cwnsela, caplaniaeth a'r ganolfan feddygol.
Mae gennym dîm arbenigol o staff academaidd ym meysydd busnes a rheoli, rheolaeth drawsddiwylliannol ac ieithoedd tramor. Mae eu gweithgareddau ymchwil, eu profiadau rhyngwladol a'u cydweithrediadau'n llywio addysgu israddedig ac ôl-raddedig ac yn cyfrannu at brofiad dysgu'r myfyrwyr.
Asesu
Mae'r strategaeth asesu'n cwmpasu sbectrwm eang o ddulliau sy'n galluogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau dadansoddi, beirniadol a gwneud penderfyniadau drwy gymhwyso gwybodaeth i astudiaethau achos go iawn a senarios ymarferol sy'n gysylltiedig â busnes a rheoli. Mae gan bob modiwl ei nodau, ei amcanion, ei ddeilliannau dysgu a'i ddulliau cyflwyno ac asesu ei hun. Felly, gall asesiadau fod ar ffurf traethodau neu adroddiadau ysgrifenedig, cyflwyniadau llafar, prosiectau ymchwil grŵp ac unigol, portffolios, ac astudiaethau achos a asesir yn ogystal ag arholiadau ffurfiol llyfrau agored/caeedig.
Mae paratoadau a chymorth ar gael ar gyfer asesu drwy weithgareddau amrywiol wedi'u cynllunio gan arweinwyr modiwlau, tiwtoriaid personol a'r gwasanaethau llyfrgell.
Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd
Mae'r rhan fwyaf o'n myfyrwyr yn llwyddo i gael swydd chwe mis ar ôl graddio. Mae rhagolygon gyrfa'n wych, gyda chyfleoedd lleol, cenedlaethol a rhyngwladol ym mhob maes o reoli busnes a masnach.
Mae graddedigion llwyddiannus wedi cael swyddi ar lefel goruchwylio/rheoli yn y sectorau preifat a chyhoeddus. Mae safbwynt byd-eang y rhaglen yn caniatáu i'n cyn-fyfyrwyr gael gwaith mewn amrywiaeth o yrfaoedd rheoli a phroffesiynol ym meysydd recriwtio rhyngwladol, ymgynghoriaeth busnes a rheoli, datblygu busnes, adnoddau dynol, marchnata rhyngwladol, rheoli ariannol a masnachu rhyngwladol i enwi dim ond rhai.
Lleoliad gwaith a chyflogadwyedd
Nod ein rhaglenni yw gwella cyflogadwyedd myfyrwyr mewn gwahanol ffyrdd. Yn ail flwyddyn y radd, mae myfyrwyr yn cyflawni modiwl lleoliad gwaith gorfodol (15 diwrnod o leoliad gwaith) gan fod hyn yn cael ei ystyried yn ofyniad hanfodol i bob myfyriwr yn Ysgol Reoli Caerdydd.
At hynny, ar ôl cwblhau blwyddyn dau'n llwyddiannus, i'r myfyrwyr hynny sy'n dymuno gwella eu cyflogadwyedd mae cyfle ychwanegol i dreulio blwyddyn ryngosod yn cyflawni lleoliad blwyddyn o hyd mewn diwydiant rhwng blynyddoedd dau a thri. Caiff y lleoliad ei achredu ym mlwyddyn olaf y radd gydag 20 credyd. Gellir naill treulio'r lleoliad blwyddyn o hyd dramor neu mewn cwmni sydd wedi'i leoli yn y DU.
Mae gan Ysgol Reoli Caerdydd dîm lleoliadau gwaith pwrpasol i'ch helpu i ddod o hyd i leoliad. Mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd yn cynnig cymorth i fyfyrwyr ddod o hyd i leoliadau gwaith ac interniaethau hefyd. Platfform ar-lein yw MetHub y brifysgol sy'n caniatáu i sefydliadau hysbysebu pob math o gyfleoedd i'n myfyrwyr a'n graddedigion megis swyddi gwag i raddedigion, interniaethau â thâl, lleoliadau a phrofiad gwaith, cyfleoedd gwirfoddoli, cyfleoedd rhyngwladol a swyddi rhan-amser.
Mae Gwasanaethau Gyrfaoedd eraill yn cynnwys Ffeiriau Gyrfaoedd a digwyddiadau rhwydweithio cymdeithasol gyda chyflogwyr. Yn ogystal â hyn, os ydych yn bwriadu dod yn Entrepreneur ifanc a dechrau eich busnes eich hun, bydd y Ganolfan Entrepreneuriaeth Myfyrwyr yn eich helpu gydag ymarfer busnes ac yn helpu i ddatblygu eich syniad busnes tra byddwch yn fyfyriwr prifysgol.
Mae'r Brifysgol yn gweithredu rhaglen symudedd allanol ac mae arian ar gael i astudio a gweithio dramor. Ewch i
Astudio, Gweithio neu Wirfoddoli Dramor gyda Chyfleoedd Byd-eang i gael rhagor o wybodaeth.
Noder: mae statws cynllun Erasmus+ yn dibynnu ar ganlyniad trafodaethau Brexit.
Mynd ymlaen i Astudiaethau Ôl-raddedig:
Ar ôl cwblhau'r rhaglen israddedig hon, mae cyfleoedd ar gael i ddilyn cyrsiau lefel ôl-raddedig gydag Ysgol Reoli Caerdydd, fel MSc Rheoli Busnes Rhyngwladol, LLM Busnes Rhyngwladol, MSc Marchnata Strategol, MSc Rheoli Marchnata Ffasiwn, MSc Rheoli Adnoddau Dynol, MSc Rheoli Entrepreneuriaeth ac Arloesi, MSc Rheoli Cadwyni Cyflenwi a Logisteg Rhyngwladol, MSc Bancio a Chyllid a'r MBA. Yn ogystal, bydd graddedigion wedi'u paratoi'n dda i ymgymryd â chymwysterau neu raglenni proffesiynol.
Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais
Cynigion Nodweddiadol
-
Pwyntiau tariff: 112
-
Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen
cynigion cyd-destunol.
-
TGAU: Pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
-
Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
-
Pynciau Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch i gynnwys Graddau CCC. Does dim angen pynciau penodol. Bagloriaeth Cymru – Ystyrir Tystysgrif Her Sgiliau Uwch fel trydydd pwnc.
-
Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: DMM
-
Lefel T: Teilyngdod.
-
Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Does dim angen pynciau penodol.
-
Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): 2 x H5. Does dim angen pynciau penodol.
-
Tystysgrif Gadael Iwerddon: 2 x gradd H2. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
-
Advanced Highers yr Alban: Graddau DD. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers.
Os nad ydych yn bodloni’r gofyniad mynediad uchod, rydym hefyd yn cynnig
Rhaglen Sylfaen sy’n caniatáu gwneud cynnydd i Flwyddyn 1.
Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â
Derbyniadau neu cyfeiriwch at
Chwiliad Cwrs UCAS.
Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld
yma.
Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu
RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.
Sut i Ymgeisio
Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld
yma.
Cysylltu â Ni