Mae'r radd hon mewn Cyfrifeg a Chyllid Ryngwladol hon yn radd ategol blwyddyn o hyd i alluogi myfyrwyr i gwblhau BSc (Anrh) Cyfrifeg a Chyllid Rhyngwladol. Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol os oes gennych ddiploma o unrhyw le yn y byd ac eisiau ei droi'n radd anrhydedd yn ogystal â deall mwy am y pwnc.
Mae'r flwyddyn ategol yn trafod cysyniadau allweddol cyfrifeg a chyllid ac yn rhoi dealltwriaeth fanylach i fyfyrwyr o'r maes pwnc mewn cyd-destun ymarferol a damcaniaethol. Bydd y cwrs yn rhoi’r adnoddau a’r medrau dadansoddol sydd eu hangen ar fyfyrwyr i adnabod a datrys problemau cymhleth mewn ffordd ddeinamig a strategol. Yn ogystal, bydd y rhaglen yn rhoi sgiliau hynod drosglwyddadwy i fyfyrwyr, ynghyd â gwybodaeth drylwyr am amrywiaeth eang o feddalwedd ariannol.
Bydd y rhaglen yn gwella eich dealltwriaeth o gyfrifeg a chyllid. Bydd y semester cyntaf yn cael ei rannu â'r radd Bancio a Chyllid Rhyngwladol ategol a bydd yr ail semester yn canolbwyntio mwy ar arferion ac egwyddorion cyfrifeg, megis cyfrifeg ac adroddiadau ariannol.
Bydd y dulliau addysgu’n cynnwys darlithoedd, gweithdai a seminarau, a fydd yn cynnwys gwybodaeth academaidd a phrofiad ymarferol. Bydd y profiad ymarferol yn cynnwys defnyddio meddalwedd ariannol, er mwyn i chi ddysgu’r sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer y gweithle neu astudiaeth bellach ar ôl graddio.
Cynnwys y Cwrs
Mae'r rhaglen radd hon yn cynnwys nifer o fodiwlau craidd sy'n dod i gyfanswm o 120 credyd.
Mae'r holl fodiwlau a restrir yn rhai craidd ac yn 20 credyd.
- Rheoli Perfformiad a Chyfrifyddu
- Rheolaeth Ariannol ar gyfer Gwneud Penderfyniadau
- Cyllid Rhyngwladol
- Cysyniadau'r Farchnad Fuddsoddi
- Materion Corfforaethol a Chyfrifyddu Cyfoes
- Cyllid Corfforaethol a Risg
Dysgu ac Addysgu
Anogir dull dysgu ac addysgu sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr drwy ddefnyddio strategaethau addysgu penodol, astudiaethau achos, prosiectau, tiwtorialau, ymarferion ymarferol, wedi'u hategu gan y defnydd o ddeunyddiau cymorth priodol, darlithoedd gan arbenigwyr busnes, fideos a meddalwedd gyfrifiadurol. Mae ymgysylltu'n weithredol â'r deunydd pwnc yn gwella dysgu ac mae llawer o'r strategaethau dysgu a ddefnyddir yn ceisio hyrwyddo hyn.
Darlithoedd
Mae darlithoedd yn rhan bwysig o'r strategaeth addysgu ar gyfer y rhaglen. Mae darlithoedd yn ffordd effeithiol o gyflwyno deunydd craidd a sefydlu fframwaith ar gyfer modiwl y gellir gosod deunydd arall yn ei erbyn.
Seminarau
Mewn seminarau mae myfyriwr neu fyfyrwyr yn cyflwyno gwaith y maent wedi'i baratoi o flaen llaw i gyfoedion a darlithydd. Defnyddir y strategaeth hon i ymestyn cysyniadau damcaniaethol neu ymarferol penodol yn ogystal â chyflwyno ymarferion datrys problemau. Defnyddir seminarau yn y rhan fwyaf o fodiwlau ac maent yn rhoi profiad gwerthfawr i fyfyrwyr o sgiliau cyflwyno yn ogystal â rhoi dull i staff asesu dysgu sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr.
Gweithdai Ymarferol
Defnyddir gweithdai ymarferol yn helaeth mewn nifer o fodiwlau drwy gydol y rhaglen. Yn y dosbarthiadau hyn gall myfyrwyr ymarfer a mireinio eu sgiliau mewn amgylchedd cefnogol lle gallant gael adborth gan aelod o'r staff academaidd. Mae gweithdai ymarferol yn ddull gwerthfawr o bontio rhwng theori ac ymarfer.
Astudiaethau Achos
Strategaeth addysgu a dysgu yw astudiaethau achos, a ddefnyddir mewn amrywiaeth o fodiwlau; maent yn offeryn asesu defnyddiol hefyd. Cyflwynir problemau cymhleth go iawn neu ffug i fyfyrwyr neu gofynnir iddynt ddatblygu rhai eu hunain ac yna mae gofyn iddynt eu dadansoddi'n fanwl ac yna cyfosod/cyflwyno eu datrysiad eu hunain yn ysgrifenedig neu ar lafar.
Arbenigwyr Busnes
Elfen allweddol o'r profiad dysgu yw'r bwriad i wahodd arbenigwyr busnes, academaidd ac mewn ymarfer, i roi cipolwg ar eu gwaith ymchwil neu weithgarwch busnes. Bydd rhwydwaith o arbenigwyr o'r fath yn helpu i ddarparu gwybodaeth arbenigol yn ogystal ag atgyfnerthu a hyrwyddo cymwysterau'r rhaglen. Gellid gwahodd arbenigwyr o'r fath fel siaradwyr gwadd neu ofyn iddynt ddarparu profiad gweithdy mwy rhyngweithiol lle bo'n briodol.
Tiwtorialau Pwnc Modiwlaidd
Cyfarfodydd rhwng myfyriwr neu grŵp o fyfyrwyr a darlithydd neu ddarlithwyr yw tiwtorialau ac fe'u defnyddir mewn dwy ffordd yn y rhaglen:
- Ehangu ar ddeunydd a gwmpesir mewn darlithoedd trwy ddull datrys probelmau a yrrir gan ymholiad
- Cynnig cymorth ychwanegol i wella gwybodaeth gefndir.
Asesu
Mae'r strategaeth asesu ar gyfer y rhaglen yn amrywio er mwyn sicrhau'r dull mwyaf priodol ar gyfer pob modiwl a maes pwnc penodol. Bydd hyn yn gyfuniad o arholiadau ffurfiol, aseiniadau ymarferol, aseiniadau ysgrifenedig, adroddiadau technegol, cyflwyniadau, profion yn y dosbarth, asesiadau gan gymheiriaid a lleoliadau seiliedig ar waith. Felly, yn ogystal ag arholiadau ac asesiadau ffurfiol ar ddiwedd y flwyddyn academaidd, byddwch yn cael eich asesu'n barhaus ac yn cael adborth ar eich cynnydd a'ch datblygiad drwy gydol y flwyddyn h.y. drwy asesiad ffurfiannol a chrynodol. Asesir llawer o fodiwlau drwy gyfuniad o aseiniadau gwaith cwrs ymarferol ac arholiadau ysgrifenedig nas gwelir ar ddiwedd y tymor neu'r flwyddyn.
Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd
Prif nod y rhaglen radd hon yw datblygu dealltwriaeth ddamcaniaethol o gysyniadau allweddol cyfrifeg a chyllid. Bydd yn galluogi myfyrwyr i benderfynu a ydynt am barhau â'u hastudiaethau i ddod yn gyfrifydd cymwysedig.
Bydd graddedigion yn gweld bod ganddynt bob math o gyfleoedd gyrfa yn y sector cyfrifeg a chyllid, yn ogystal â'r rhan fwyaf o'r sectorau diwydiannol eraill (cyhoeddus a phreifat), gan gynnwys gwasanaethau ariannol a phroffesiynol, dadansoddi risg, a chyfleoedd rheoli neu gyfrifyddu ariannol.
Ar ôl cwblhau'r rhaglen radd hon yn llwyddiannus, mae rhagor o opsiynau astudio ôl-raddedig a addysgir ym meysydd Cyfrifo, Bancio, Economeg a Chyllid yma ym Met Caerdydd hefyd, yn ogystal â rhaglenni ymchwil a PhD.
Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais
Y prif feini prawf ar gyfer dethol ymgeiswyr yw bod yn rhaid iddynt ddangos y gallant lwyddo ar raglen radd mewn Cyfrifeg a Chyllid Rhyngwladol.
Mae'r rhaglen BSc (Anrh) Cyfrifo a Chyllid Rhyngwladol yn gwrs gradd blwyddyn "Ategol" sy'n galluogi myfyriwr sydd â Diploma Cenedlaethol Uwch priodol, er enghraifft, Gwasanaethau Ariannol, Gradd Sylfaen neu gymhwyster cyfatebol (NARIC) sy'n cyfateb i 240 o gredydau, symud ymlaen tuag at gymhwyster gradd drwy astudio'n llawn amser am flwyddyn arall. Dylai myfyrwyr fod wedi astudio Cyfrifeg i Lefel 4 o leiaf.
Ymgeiswyr Rhyngwladol
Bydd angen i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth o ruglder i safon IELTS 6.0 neu gyfwerth o leiaf. I gael manylion llawn am sut i wneud cais a chymwysterau Saesneg Iaith ewch i'r
tudalennau Rhyngwladol ar y wefan.
Rheolir y broses dderbyn gan Dderbyniadau Rhyngwladol Prifysgol Metropolitan Caerdydd mewn ymgynghoriad â Chyfarwyddwr y Rhaglen.
Mae'r rhaglen yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr o bob cefndir. Bydd ymgeiswyr sydd â phroffiliau mynediad ansafonol yn cael eu hystyried ar sail unigol.
Caiff ymgeiswyr heb gymwysterau mynediad gofynnol arferol eu hystyried ar sail unigol gan aelodau o dîm y cwrs.
Sut i Wneud Cais:
Dylid gwneud ceisiadau ar gyfer y cwrs hwn i'r Brifysgol yn uniongyrchol. I gael rhagor o wybodaeth ewch i'n
tudalennau Sut i Wneud Cais Rhyngwladol.
Cysylltu â Ni