Cynnwys y Cwrs
Blwyddyn Sylfaen (Blwyddyn 0):
Gall y rhaglen hon gynnwys blwyddyn sylfaen, sydd wedi'i bwriadu ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno cofrestru ar y radd anrhydedd tair blynedd, ac sy'n perthyn i un o'r categorïau canlynol:
1. Myfyrwyr nad ydynt wedi cael y nifer gofynnol o bwyntiau Safon Uwch (neu gyfwerth) i ddechrau ar flwyddyn gyntaf y rhaglen radd.
2. Myfyrwyr hŷn sydd wedi bod allan o'r system addysg ffurfiol ers peth amser.
Gellir gweld rhagor o wybodaeth am y flwyddyn sylfaen drwy glicio yma.
Gradd:
Blwyddyn Un (120 Credyd):
Modiwlau gorfodol:
- Yr Entrepreneur Gwerth-Ganolog (20)
- Adeiladu ar gyfer y We (20)
- Cyllid i Reolwyr (20)
- Cyflwyniad i Farchnata (20)
- Asesu Syniad Busnes (20)
- Mentora Dechrau Busnes (20)
Blwyddyn 2 (120 Credyd):
Modiwlau gorfodol:
- Cyfryngau Symudol a Chymdeithasol i Farchnatwyr (20)
- Cyfraith Busnes ar gyfer yr Oes Ddigidol (20)
- Cyllid i Entrepreneuriaid (20)
- Technolegau Symudol a Thechnolegau’r We (20)
- Lansio busnes newydd (40)
Blwyddyn 3 (120 credyd):
Modiwlau gorfodol:
- Rheoli'r Gadwyn Gyflenwi Foesegol (20)
- Datblygu Arweinydd Byd-eang (20)
- Gweithrediadau Busnes ac Arloesi er Twf (60)
- Busnes Cyfoes a Diogelu Defnyddwyr (20)
Dysgu ac Addysgu
Mae hon yn radd ymarferol ac felly bydd y modiwlau a geir yn y rhaglen hon yn defnyddio ystod eang o ddulliau addysgu a dysgu arloesol. Cyflwynir darlithoedd safonol mewn ystafelloedd darlithio priodol ac fe’u hategir gan weithdai rhyngweithiol ble bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn trafodaethau grŵp, dadleuon ac ymarferion datrys problemau. Mae cyfleusterau a chymorth arbenigol ar gyfer y rhaglen hon yn cynnwys:
Gofod Deor
Bydd pob myfyriwr yn cael gofod desg o fewn y cyfleuster deor pwrpasol ar gyfer y rhaglen, sef y Labordy Cychwyn Busnes. Bydd y Labordy yn cynnig cymorth, arbenigedd ac offer arbenigol sy'n helpu busnesau newydd i arloesi a thyfu yn y flwyddyn gyntaf o fasnachu. Bydd y Labordy hefyd yn meithrin amgylchedd cydweithio sy'n caniatáu dysgu rhwng cymheiriaid a chreu menter i greu cymuned o entrepreneuriaid o’r un anian sy’n cydweithio.
Mentora Dechrau Busnes
Bydd pob myfyriwr yn cael mentor entrepreneuraidd o'r gymuned fusnes leol. Bydd myfyrwyr yn cael cyfle i 'gysgodi' eu mentoriaid. Bydd hyn yn rhoi cyfleoedd i arsylwi a deall nodweddion cymeriad entrepreneur, yn ogystal â'r gweithrediadau busnes angenrheidiol ar gyfer dechrau llwyddiannus.
Cynllunio Datblygiad Personol
Yn ogystal â gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl o ddeunydd pwnc, un o amcanion allweddol y rhaglen yw datblygu effeithiolrwydd entrepreneuraidd myfyrwyr a'u gallu i fyfyrio'n feirniadol ar eu Syniadau a Chyfleoedd, Adnoddau a Gweithredu drwy wahanol lefelau o hyfedredd. Cyflawnir hyn drwy asesiadau o fewn modiwlau ar bob lefel astudio sy’n gofyn i fyfyrwyr fyfyrio a dangos eu dysgu a'u taith entrepreneuraidd.
Mae’r radd hon wedi’i datblygu gan arbenigwyr yn eu maes perthnasol a bydd yn cael ei chyflwyno ganddynt hefyd. Mae’r rhain yn cynnwys rheolwyr cychwyn busnes, cyfrifwyr, arbenigwyr y gyfraith ac entrepreneuriaid y mae eu harbenigedd a’u profiad o gychwyn busnes yn amhrisiadwy.
Asesu
Disgwylir i fyfyrwyr gymryd mwy o gyfrifoldeb am eu dysgu eu hunain wrth iddynt symud ymlaen drwy eu rhaglen. Mae strwythur y cwrs a'r strategaethau addysgu arfaethedig wedi'u cynllunio i gefnogi'r datblygiad hwn, tra'n cydbwyso dulliau traddodiadol ac arloesol. Bydd y dull sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr yn cael ei annog drwy ddefnyddio strategaethau addysgu penodol fel astudiaethau achos, prosiectau, ymarferion ymarferol, wedi'u hategu gan y defnydd o ddeunyddiau, fideos, meddalwedd gyfrifiadurol ac ati priodol. Mae ymgysylltu'n weithredol â'r deunydd pwnc yn gwella dysgu ac mae llawer o'r strategaethau dysgu a ddefnyddir yn ceisio hyrwyddo hyn.
Mae'r asesiadau'n amrywiol eu natur a byddant yn amrywio o gyflwyniadau, adroddiad diwydiant, cyfrifon busnes, flogiau a blogiau a chyfarfod bwrdd. Mae'r dulliau asesu i gyd wedi'u cynllunio i roi cyfle i fyfyrwyr ddangos eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o theori i’r byd diwydiant.
Mae'r prosiect mawr ar Lefel 6 'Gweithrediadau Busnes ac Arloesi er Twf' yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu, sefydlu a lansio menter newydd, ble gallant gymhwyso'r sylfeini academaidd a damcaniaethol a'r sgiliau busnes entrepreneuraidd allweddol a ddysgwyd o lefelau 4 a 5 y rhaglen. Bydd y broses hon yn caniatáu i fyfyrwyr ymgolli'n llwyr ym myd go iawn busnesau newydd. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth manwl gan diwtoriaid academaidd o fewn polisi 20 diwrnod safonol y brifysgol. Bydd myfyrwyr hefyd yn derbyn adborth gan weithwyr proffesiynol ac entrepreneuriaid y diwydiant ar rai elfennau yn ystod eu taith cychwyn busnes.
Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd
Bydd graddedigion BA (Anrh) Entrepreneuriaeth Gymhwysol a Rheoli Arloesedd yn sefyll allan am eu gallu i gymhwyso gwybodaeth ddamcaniaethol mewn amgylchedd ymarferol. Ar ôl cwblhau'r radd yn llwyddiannus bydd myfyrwyr yn graddio gyda'u busnes eu hunain a byddant wedi datblygu a sefydlu eu rhwydwaith busnes eu hunain. Bydd graddedigion hefyd yn meddu ar y sgiliau a'r arbenigedd i weithio mewn swyddi rheoli, cwmnïau newydd mewn hysbysebu, cyllid, cysylltiadau cyhoeddus yn ymwneud â brandio.
Mae’r cwrs yn paratoi’r ffordd at amrywiaeth eang o raglenni Gradd Meistr yn y Brifysgol, rhai ohonynt yn rhaglenni a addysgir a rhai’n rhaglenni ymchwil.
Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais
Dylai fod gan ymgeiswyr bum gradd TGAU gan gynnwys Iaith Saesneg, Mathemateg neu Fathemateg - Rhifedd gradd C/4 neu'n uwch ynghyd â 112 pwyntiau o 2 Safon Uwch o leiaf (neu gyfwerth).
Gall cynigion nodweddiadol gynnwys:
- 112 pwynt o ddwy Safon Uwch o leiaf i gynnwys graddau CC; Bagloriaeth Cymru - Tystysgrif Her Sgiliau Uwch yn cael ei hystyried fel y trydydd pwnc
- Diploma Estynedig Cenedlaethol RQF BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt DMM
- 112 pwynt o ‘Advanced Highers’ yr Alban i gynnwys graddau DD
- 112 pwynt o'r ‘Irish Leaving Certifiicate’ Lefel Uwch i gynnwys 2 radd H2. Dim ond gydag isafswm gradd H4 y caiff pynciau Lefel Uwch eu hystyried
- 112 pwynt o'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch
Os na fyddwch yn cwrdd â'r gofynion mynediad uchod, mae'r Rhaglen Sylfaen ar gael. Bydd yn caniatáu i chi symud ymlaen i'r radd hon ar ôl ei chwblhau.
Os ydych chi'n astudio cyfuniadau o'r uchod neu os nad yw'ch cymhwyster wedi'i restru, cysylltwch â Derbyniadau neu ewch i dudalen Chwilio am Gwrs UCAS i gael y gofynion mynediad. Amwybodaeth bellach am ein gofynion mynediad, gellir cynnwys cymwysterau o'r UE trwy glicio yma.
Mae ymgeiswyr nad oes ganddynt gymhwyster mynediad arferol yn cael eu cyfweld a'u hystyried yn unigol ar sail eu cefndir dysgu blaenorol neu waith.
Ymgeiswyr Rhyngwladol:
Bydd angen i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth o ruglder i safon IELTS 6.0 neu gyfwerth o leiaf. I gael manylion llawn am sut i wneud cais am gymwysterau Iaith Saesneg ewch i’r tudalennau Rhyngwladol ar y wefan.
Y Broses Ddethol:
Mae'r dewis fel arfer ar sail cais UCAS wedi'i gwblhau a chyfweliad lle bo hynny'n berthnasol.
Sut i Wneud Cais:
Dylid gwneud ceisiadau ar gyfer y cwrs hwn ar-lein i UCAS yn www.ucas.com. I gael rhagor o wybodaeth ewch i'n tudalennau Sut i Wneud Cais.
Ffioedd Dysgu, Cyllid Myfyrwyr a Chostau Ychwanegol
I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd dysgu a'r cymorth ariannol a allai fod ar gael tra byddwch yn y brifysgol, cyfeiriwch at
www.metcaerdydd.ac.uk/ffioedd. I gael gwybodaeth am unrhyw gostau cwrs ychwanegol posibl, cyfeiriwch at
www.metcaerdydd.ac.uk/costauychwanegol.
Bwrsariaethau ac Ysgoloriaethau:
Mae'r brifysgol hefyd yn cynnig cynllun bwrsariaeth ac ysgoloriaeth i helpu myfyrwyr tra byddant yn y brifysgol. I weld a ydych yn gymwys, ewch i
www.metcaerdydd.ac.uk/ysgoloriaethau.
Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL) a Throsglwyddo Credydau i flwyddyn 2 a 3
Os oes gennych ddiddordeb mewn trosglwyddo credydau o sefydliad arall i astudio ym Met Caerdydd ar gyfer cwrs sy'n derbyn mynediad ar gyfer blwyddyn 2 a/neu 3, mae rhagor o wybodaeth am hyn a gwybodaeth am sut i wneud cais ar y dudalen Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL). Cysylltwch â
Derbyniadau ar gyfer unrhyw ymholiadau sydd gennych am Gydnabod Dysgu Blaenorol.
Myfyrwyr hŷn:
Mae unrhyw un dros 21 oed nad aeth i'r brifysgol ar ôl ysgol neu goleg yn ymgeisydd hŷn. Mae Met Caerdydd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn ac mae rhagor o gyngor a gwybodaeth ar gael
yma.
Cysylltu â Ni