Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE>Newyddion>Cynnig cefnogaeth ar gyfer gwella cynaliadwyedd i wneuthurwyr bwyd a diod o Gymru

Cynnig cefnogaeth ar gyfer gwella cynaliadwyedd i wneuthurwyr bwyd a diod o Gymru

​Mae cwmnïau bwyd a diod o Gymru yn cael cynnig cymorth wedi'i ariannu i helpu i wella eu cynaliadwyedd. Gall cwmnïau cymwys dderbyn cymorth gyda lleihau gwastraff, effeithlonrwydd/gwella prosesau, datblygu cynnyrch newydd yn gynaliadwy a chydymffurfio â safonau bwyd cynaliadwy trwy Brosiect HELIX a gefnogir gan Lywodraeth Cymru a’r UE.

Mae'r alwad am gwmnïau o Gymru yn cyd-fynd â'r Wythnos Taclo Gwastraff Bwyd gyntaf a gynhelir rhwng 1af a’r 7fed Mawrth 2021. Nod yr wythnos yw codi ymwybyddiaeth a gweithredu prydlon ledled y DU am yr effaith y mae gwastraffu bwyd yn ei chael ar ein planed. Daw hefyd wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi eu gweledigaeth strategol newydd yn ddiweddar ar gyfer sector bwyd a diod Cymru, sydd â’r nod o greu diwydiant â chynaliadwyedd sy’n arwain y byd.

Mae Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE ym Mhrifysgol Met Caerdydd yn un o dair Canolfan Arloesi Bwyd Cymru sydd wedi'u lleoli ledled Cymru a all gynnig cefnogaeth a ariennir gan Brosiect HELIX. Mae ZERO2FIVE eisoes wedi gweithio gyda nifer o gwmnïau o Gymru ar brosiectau cynaliadwyedd gan gynnwys Castell Howell, a gafodd gefnogaeth i edrych ar reoli gwastraff yn eu ffatri.

Dywedodd Edward Morgan, Rheolwr Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol (CSR) Grŵp a Rheolwr Hyfforddi, Castell Howell:

“Fe wnaethon ni ymgysylltu â ZERO2FIVE ar raglen i nodi gwastraff cynhyrchu bwyd, o’r cam ‘nwyddau i mewn’ i’r cam ‘anfon’. Yn ystod deg ymweliad, bu ZERO2FIVE yn gweithio gyda'r tîm yn Farm Fresh i fapio ardaloedd lle gellid dileu gwastraff. Datblygwyd system archwilio gwastraff bwyd gyda’r tîm, sy’n gweithio tuag at weithredu diwylliant ‘dim gwastraff bwyd’.”

Dywedodd yr Athro David Lloyd, Cyfarwyddwr Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE:
“Mae pobl yng Nghymru a ledled y byd yn chwilio fwyfwy am ffyrdd mwy cynaliadwy o fyw, iddyn nhw eu hunain a chenedlaethau’r dyfodol, ac mae’n bwysig bod diwydiant bwyd a diod Cymru yn cynnal y safon. Os yw'ch cwmni chi am wella ei gynaliadwyedd yna rydym yn eich annog i gysylltu, p'un a oes angen cymorth arnoch i leihau gwastraff ffatri neu ddatblygu cynhyrchion newydd gan ddefnyddio cynhwysion gwastraff. "

I gael rhagor o wybodaeth am gefnogaeth a ariennir gan Brosiect HELIX, ewch i https://www.metcaerdydd.ac.uk/health/zero2five/services/Pages/default.aspx