Cardiff School of Sport and Health Sciences>Cyrsiau>Professional Holistic Massage Training Course Continuing Education Award in Holistic Massage

Cwrs Hyfforddi Tylino Cyfannol Proffesiynol / Gwobr Addysg Barhaus mewn Tylino  Cyfannol

​​

​​​​

Cynnwys y Cwrs

Cynnwys y Cwrs

Mae Canolfan Met Caerdydd ar gyfer Gofal Iechyd Cyflenwol, yn cynnig 3 llwybr hyfforddi a achredir yn broffesiynol:

• Tylino Cyfannol
• Adweitheg Glinigol
• Aromatherapi Clinigol

Rydym yn ganolfan ragorol ar gyfer darparu addysg a hyfforddiant mewn Gofal Iechyd Cyflenwol.

Mae gan y Ganolfan offer clyweled a chymhorthion addysgu eraill yn llawn, y gwelyau tylino hydrolig trydan diweddaraf, gwelyau cludadwy, cadeiriau tylino a 12 ciwbicl dan len. Yn unol ag Adroddiad Pwyllgor Dethol Tŷ'r Arglwyddi ar Feddygaeth Gyflenwol ac Amgen yn 2000, a amlygodd yr angen i gynyddu'r sylfaen o dystiolaeth ar gyfer therapïau, mae gan ein holl raglenni ffocws cryf ar theori sy'n seiliedig ar ymchwil. Anogir a chefnogir pob myfyriwr i fod yn ymwybodol o ymchwil.
Yn ogystal â darlithoedd, mae'n ofynnol i fyfyrwyr gwblhau 60 awr o astudiaethau achos ar gyfer pob llwybr yn eu hamser eu hunain. Anogir integreiddio sgiliau ymchwil a therapi trwy gymhwyso offer casglu data cydnabyddedig yn yr astudiaethau achos hyn.

Mae gan bob myfyriwr fynediad i lyfrgell Met Caerdydd a chyfleusterau TG i gefnogi eu dysgu.

Tylino Cyfannol

Ochr yn ochr â sgiliau ymarferol, bydd myfyrwyr yn astudio anatomeg, ffisioleg a phatholeg, sgiliau ymchwil rhagarweiniol a sgiliau entrepreneuraidd ar gyfer therapyddion cyflenwol. Bydd cyfle hefyd i weithio gyda chleientiaid yng nghlinig gofal iechyd cyflenwol y brifysgol.

I gael trosolwg manylach o'r cynnwys ar gyfer pob modiwl, cysylltwch â Julie Duffy jduffy@cardiffmet.ac.uk

Datblygiad

  • Bydd cwblhau'r holl fodiwlau yn llwyddiannus yn galluogi'r myfyriwr i ymarfer fel Ymarferydd Tylino wedi'i gofrestru ag MTI. 
  • Yn dilyn astudio credydau pellach ar Lefelau 4 a 5, gall myfyrwyr hefyd wneud cais i symud ymlaen i unrhyw un o'r Llwybrau Addysg Uwch, gan gynnwys y BSc (Anrh) Gofal Iechyd Cyflenwol (gyda Statws Ymarferydd).


Potensial o ran Gyrfa

Byddai cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus yn galluogi'r ymarferydd i ymarfer fel therapydd tylino cofrestredig MTI. Mae'r cwrs hwn hefyd yn cwrdd â'r safon tylino rhagofynnol ar gyfer ymgymryd â Diploma achrededig IFPA mewn Aromatherapi.

Gofynion Mynediad:

I drafod y gofyniad mynediad, cysylltwch ag arweinydd y rhaglen o dan Cysylltu â Ni.
  
Mae mynediad i'r cyrsiau hefyd yn destun gwiriad cofnodion troseddol boddhaol. Mae mwy o fanylion am weithdrefnau cofnodion troseddol ar gael yma: www.cardiffmet.ac.uk/dbs.

Ffeithiau Allweddol

Wedi’i achredu gan:

Massage Training Institute (MTI)

Campws: Llandaf
Ysgol: Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd

Hyd/strong>

14 penwythnos ac 13 mis o astudio

* Sylwch y gall amseroedd newid.

Ffioedd Cwrs:
Cysylltwch â Julie Duffy (Cyfarwyddwr Rhaglen) i gael manylion am ffioedd cyfredol 
E-bost: jduffy@cardiffmet.ac.uk
Ffôn: 029 2020 5612 

Cysylltu â Ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â Thîm Ymholiadau Met Caerdydd ar 029 2041 6010 neu e-bostiwch courses@cardiffmet.ac.uk

Ar gyfer ymholiadau penodol i'r cwrs, cysylltwch â chydlynydd y diploma, Julie Duffy:
E-bost: jduffy@cardiffmet.ac.uk
Ffôn:029 2020 5612

Gweler Hefyd:
Gwefan Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd

Eich camau nesaf

Twneud cais ewch i'n system Hunan Wasanaeth ar-lein. Gellir cael canllawiau am sut i wneud cais yma.

​​​