Cynnwys y Cwrs
Mae Canolfan Met Caerdydd ar gyfer Gofal Iechyd Cyflenwol, yn cynnig 3 llwybr hyfforddi a achredir yn broffesiynol:
• Tylino Cyfannol
• Adweitheg Glinigol
• Aromatherapi Clinigol
Rydym yn ganolfan ragorol ar gyfer darparu addysg a hyfforddiant mewn Gofal Iechyd Cyflenwol.
Mae gan y Ganolfan offer clyweled a chymhorthion addysgu eraill yn llawn, y gwelyau tylino hydrolig trydan diweddaraf, gwelyau cludadwy, cadeiriau tylino a 12 ciwbicl dan len.
Yn unol ag Adroddiad Pwyllgor Dethol Tŷ'r Arglwyddi ar Feddygaeth Gyflenwol ac Amgen yn 2000, a amlygodd yr angen i gynyddu'r sylfaen o dystiolaeth ar gyfer therapïau, mae gan ein holl raglenni ffocws cryf ar theori sy'n seiliedig ar ymchwil. Anogir a chefnogir pob myfyriwr i fod yn ymwybodol o ymchwil.
Yn ogystal â darlithoedd, mae'n ofynnol i fyfyrwyr gwblhau 60 awr o astudiaethau achos ar gyfer pob llwybr yn eu hamser eu hunain. Anogir integreiddio sgiliau ymchwil a therapi trwy gymhwyso offer casglu data cydnabyddedig yn yr astudiaethau achos hyn.
Mae gan bob myfyriwr fynediad i lyfrgell Met Caerdydd a chyfleusterau TG i gefnogi eu dysgu.
Aromatherapi Clinigol
Ochr yn ochr â sgiliau ymarferol ar gyfer pob therapi, bydd myfyrwyr yn astudio anatomeg, ffisioleg a phatholeg, sgiliau ymchwil rhagarweiniol a sgiliau entrepreneuraidd ar gyfer therapyddion cyflenwol. Bydd cyfle hefyd i weithio gyda chleientiaid yng nghlinig gofal iechyd cyflenwol y brifysgol.
Nod y gyfres hon o fodiwlau yw datblygu mewn myfyrwyr y wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau clinigol angenrheidiol ar gyfer ymarfer aromatherapi proffesiynol yn unol â chanllawiau'r corff proffesiynol achredu: International Federation of Professional Aromatherapists (IFPA) fel y gallant weithredu'n broffesiynol, yn effeithiol, yn foesegol ac yn fyfyriol yn y farchnad leol, genedlaethol a byd-eang.
I gael trosolwg manylach o'r cynnwys ar gyfer pob modiwl, cysylltwch â Julie Duffy jduffy@cardiffmet.ac.uk
Datblygiad:
- Bydd cwblhau'r holl fodiwlau yn llwyddiannus yn galluogi'r myfyriwr i ymarfer fel Ymarferydd Aromatherapi wedi'i gofrestru ag IFPA.
- Yn dilyn astudio credydau pellach ar Lefelau 4 a 5, gall myfyrwyr hefyd wneud cais i symud ymlaen i unrhyw un o'r Llwybrau Addysg Uwch, gan gynnwys y BSc (Anrh) Gofal Iechyd Cyflenwol (gyda Statws Ymarferydd).br/>
Wedi’i achredu gan:
International Federation of Professional Aromatherapists (IFPA)
Campws: Llandaf
Ysgol: Ysgol Gwyddorau Chwaraeon ac Iechyd Caerdydd
Hyd
14 penwythnos a 15 mis o astudio
* Sylwch y gall amseroedd newid.
Ffioedd y Cwrs:
Cysylltwch â Julie Duffy (Cyfarwyddwr Rhaglen) i gael manylion am ffioedd cyfredol
E-bost: jduffy@cardiffmet.ac.uk
Ffôn: 029 2020 5612