HNC mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

​​

Cynnwys y Cwrs​

Mae'r rhaglen wedi'i hanelu at ystod o bobl sydd ennill wedi ymrwymo i ennill dealltwriaeth o weithgareddau iechyd a gofal cymdeithasol ac sy'n ystyried dilyn gyrfa yn y sectorau hyn. Dyluniwyd y cwrs o amgylch y themâu canlynol: Pobl, Gwerthoedd, Moeseg a Chyfle Cyfartal, Newid, y Gyfraith, Rheoleiddio a Chanllawiau a Phrosesau Cymdeithasol ac mae'r themâu hyn yn ymddangos ym mhob agwedd ar y cwrs.

Dyluniwyd y cwrs ar sail modiwlau. Mae'r 12 modiwl fel a ganlyn:

  • Polisi Cymdeithasol
  • Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a Gwahaniaeth
  • Deddfwriaeth
  • Datblygiad Personol a Phroffesiynol
  • Gweithio gydag Oedolion
  • Gweithio gyda Phlant
  • Materion Cyfoes ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Asesu Risg
  • Agweddau Cymdeithasol ar Iechyd
  • Agweddau Seicolegol ar Iechyd
  • Gwerthuso Ansawdd​

Potensial o ran Gyrfa

Nod y cwrs yw darparu cam tuag at gymhwyster academaidd pellach, gan gynnwys cymwysterau proffesiynol, a / neu yrfa yn y dyfodol yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol. Gall myfyrwyr HNC llwyddiannus symud ymlaen i'r HND ac wedi hynny i flwyddyn tri o'r BSc (Anrh) Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Asesu

Tri TGAU i gynnwys Saesneg ac un o'r canlynol:

  • Mynediad i Addysg Uwch
  • BTEC Blynyddoedd Cynnar
  • Diploma Cenedlaethol Astudiaethau Iechyd BTEC
  • Tystysgrif neu Ddiploma Cenedlaethol BTEC mewn gofal neu faes cysylltiedig arall
  • GNVQ Uwch Edexcel mewn maes astudio priodol neu AVCE
  • Tystysgrif / Diploma yr Institute of Welfare
  • O leiaf un Safon Uwch mewn pwnc priodol
  • Diploma CACHE
  • O leiaf ddwy lefel UG mewn pynciau priodol.

Anogir myfyrwyr sydd heb y cymwysterau ffurfiol hyn ond sydd â phrofiad perthnasol i ymgeisio.

Ffeithiau Allweddol

Campws: Llandaf

DS. Mae'r cwrs hwn hefyd wedi'i fasnachfreinio i Goleg Ystrad Mynach a allai fod yn fwy cyfleus i fyfyrwyr o'r ardal honno.

Ysgol: CYsgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd

Hyd y Cwrs: Dwy flynedd yn rhan-amser

Dwy flynedd yn rhan-amser

Asesu:
Defnyddir ystod o ddulliau asesu sy'n darparu cyfleoedd ar gyfer dysgu yn ogystal ag asesu. Mae'r rhain yn cynnwys traethodau, adroddiadau, cyflwyniadau, astudiaeth achos, proffiliau personol ac arholiadau.

Y Broses Ddethol:
Mae'r dethol fel arfer ar sail eich cymwysterau a'ch profiad blaenorol.

Gofynion Mynediad:

Dylai fod gan ymgeiswyr 5 TGAU i gynnwys Iaith Saesneg ar radd C neu'n uwch, ynghyd ag un o'r canlynol:

  • 260 pwynt o leiaf tair Safon Uwch / ‘Advanced Higher’ yr Alban i gynnwys graddau BC, gradd B mewn Saesneg neu Astudiaethau'r Cyfryngau

Ffeithiau Allweddol

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â'r Tîm Recriwtio Myfyrwyr ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch courses@uwic.ac.uk

Ar gyfer ymholiadau ynghylch cyrsiau penodol, cysylltwch ag arweinydd y rhaglen David Miller:
E-bost: dmiller@uwic.ac.uk
Ffôn: 029 2041 6810

Gweler Hefyd:
Gwefan Ysgol Chwaraeon ac Iechyd Caerdydd

​​​