Cardiff School of Sport and Health Sciences>Cyrsiau>Forensic Psychology (Practitioner Programme) - PgD
Forensic Psychology Masters

Seicoleg Fforensig (Rhaglen Ymarferydd) - Diploma Ôl-radd

 

Ffeithiol Allweddol


Cyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal

Lleoliad Astudio: 
Campws Llandaf

Ysgol:
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd

Hyd y Cwrs:
Dwy flynedd lawn-amser (o leiaf): 4 diwrnod yr wythnos fel arfer am 45 wythnos y flwyddyn (mae angen i fyfyrwyr gasglu o leiaf 360 diwrnod o brofiad dros y cyfnod o ddwy flynedd).
Ymgeisyddiaeth o hyd at bum mlynedd: Yn casglu o leiaf 360 diwrnod o brofiad dros y cyfnod.​

 

Approved by:

Health and Care Professions Council

Course Overview

Mae'r cwrs hwn wedi'i gymeradwyo gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) ac, ar ôl ei gwblhau, mae'n rhoi cymhwysedd i fyfyrwyr wneud cais i'r gofrestr i ymarfer fel Seicolegwyr Fforensig yn y DU.

Mae'r cwrs wedi'i gynllunio i fod yn seiliedig ar leoliad, gyda gweithdai amrywiol i fyfyrwyr yn ogystal â goruchwyliaeth glinigol ac academaidd. Fel rheol, cyflwynir gweithdai mewn sesiynau addysgu bloc a disgwylir i fyfyrwyr fod yng Nghaerdydd am oddeutu 15 diwrnod yn ystod eu hastudiaeth. Mae gennym fyfyrwyr o bob rhan o'r DU felly ein nod yw sicrhau bod gweithdai mor syml â phosibl i'r myfyrwyr hynny sy'n gorfod teithio'n bell i’w mynychu.

Bydd goruchwyliwr clinigol a goruchwyliwr academaidd yn cael ei ddyranu i bob myfyriwr - bydd o leiaf un o'r goruchwylwyr hyn yn Seicolegydd Fforensig â chymwysterau a phrofiad priodol. Dylai myfyrwyr ystyried a oes seicolegydd fforensig ar gael sy'n barod ac yn gallu cynnig goruchwyliaeth yn eu gweithle neu safle lleoliad trwy gydol eu hastudiaethau.

Cofrestu Nesaf - mis Medi 2020.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am gael ei derbyn ym mis Medi yw 15 Gorffennaf 2020.

Cwrs cysylltiedig: MSc Seicoleg Fforensig

Cwestiynau Cyffredin

Cynnwys y Cwrs

Mae 6 modiwl i'r rhaglen:

Portffolio Ymarfer Proffesiynol mewn Seicoleg Fforensig 1 (100 credyd, Lefel 8)
Portffolio Ymarfer Proffesiynol mewn Seicoleg Fforensig 2 (40 credyd, Lefel 8)
Dyma'r darn mwyaf o waith a asesir ac mae'n rhoi credydau tuag at gymhwyster Doethuriaeth Broffesiynol y gallai myfyrwyr fod eisiau ei ddilyn yn dilyn y rhaglen hon neu’n nes ymlaen yn eu gyrfa. Mae'r portffolio yn gasgliad o enghreifftiau o waith y mae myfyrwyr wedi'i wneud i ddangos cymhwysedd wrth gymhwyso seicoleg fforensig i waith asesu ac ymyrraeth gyda defnyddwyr gwasanaeth. Bydd yn cynnwys enghreifftiau o ymarfer clinigol (asesiadau, ymyraethau, gwerthuso ac argymhellion), gwerthusiadau myfyriol, cofnodion ymarfer (yn rhoi manylion o o leiaf 360 diwrnod o ymarfer proffesiynol), cofnodion goruchwylio ac amrywiaeth o restrau gwirio lleoliadau..

Ymgynghori (20 credyd, lefel 8)
Mae'r modiwl hwn yn archwilio'r profiad sydd gan fyfyrwyr wrth ddangos cymhwysiad seicoleg yng nghyd-destun ymgynghori, datblygu polisi a gwerthuso darpariaeth gwasanaeth.

Addysgu a Hyfforddi (20 credyd, lefel 8
Mae'r modiwl hwn yn archwilio'r profiad sydd gan fyfyrwyr wrth arddangos cymhwysiad seicoleg yng nghyd-destun addysgu a hyfforddi.

Ymarfer Moesegol a Phroffesiynol (20 credyd, lefel 8)
Mae'r modiwl hwn yn archwilio'r profiad sydd gan fyfyrwyr wrth ddangos cymhwysiad seicoleg o fewn y ffiniau moesegol a phroffesiynol priodol sy'n ofynnol gan y Corff Rheoleiddio (Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal, HCPC), gan gyrff proffesiynol priodol (Cymdeithas Seicolegol Prydain, BPS) a chan y sefydliadau profiad gwaith perthnasol.

Ymchwil Gymhwysol Uwch (40 credyd, lefel 8)
Mae'r modiwl hwn yn archwilio'r profiad y mae myfyrwyr wedi'i ddatblygu a’u bod yn gallu defnyddio dulliau ymchwil uwch a chymhwyso hyn i'w hymarfer. Rydym eisiau i fyfyrwyr ddangos eu bod yn ddefnyddwyr ymchwil rhagorol ac yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau ymchwil sy'n effeithio ar ymarfer a pholisi yng nghyd-destun seicoleg fforensig, yn enwedig asesu swyddogaethol a llunio achosion.

 

Dysgu ac Addysgu

​​Mae ein myfyrwyr ar leoliad ac mae'r rhaglen yn dilyn model prentisiaeth, lle mae myfyrwyr yn gweithio dan oruchwyliaeth seicolegydd fforensig cymwys ac yn anelu at ddangos eu cymhwysedd datblygol yn y meysydd y nodwyd fel rhai sy’n berthnasol i'r rôl (Safonau Hyfedredd HCPC). Felly, y prif ddull dysgu ar y rhaglen hon fydd trwy ymarfer dan oruchwyliaeth.

Er mwyn cefnogi dysgu myfyrwyr rydym hefyd yn cynnig gweithdai. Mae rhai o'r gweithdai yn orfodol ac yn golygu bod angen i fyfyrwyr fod yng Nghaerdydd am 9 diwrnod yn ystod eu hastudiaeth gyda ni.

Nid ydym yn ymddiheuro wrth nodi bod y cwrs hwn yn heriol a bydd angen buddsoddiad mawr gan fyfyrwyr er mwyn ei gwblhau. Rydym yn disgwyl i’n myfyrwyr sydd ar leoliad (heb eu cyflogi gan ddarparwr lleoliad) fod mewn lleoliad 4 diwrnod yr wythnos a threulio un diwrnod ychwanegol yn astudio. Mae hon yn rhaglen astudio gwirioneddol lawn- amser, ac er bod opsiynau rhan-amser, mae'r ymrwymiad yn rhywbeth yr ydym yn annog ymgeiswyr i'w ystyried. Anogir myfyrwyr sy'n defnyddio eu swydd fel lleoliad ar gyfer y rhaglen i ystyried eu gallu i fodloni gofynion yr amser astudio hwn.

Darperir tîm goruchwylio i fyfyrwyr sy'n cynnwys goruchwyliwr lleoliad gwaith (rydym yn cyfeirio at y goruchwyliwr hwn fel y goruchwyliwr clinigol) a goruchwyliwr o'r Brifysgol (rydym yn cyfeirio at y goruchwyliwr hwn fel goruchwyliwr academaidd). Bydd y ddau oruchwyliwr hyn yn seicolegwyr fforensig, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol lle mae arweinydd y cwrs wedi cymeradwyo trefniant gwahanol. Bydd y ddau oruchwyliwr yn darparu cefnogaeth i'r myfyriwr ac yn annog eu datblygiad ac yn rhoi cefnogaeth fugeiliol. Darperir cefnogaeth ychwanegol gan y Mentoriaid Cyfoedion, myfyrwyr eraill sydd gam ymhellach ar hyd y broses.

Asesu

Asesir myfyrwyr am gymhwysedd a phroffesiynoldeb, adolygir y materion hyn mewn sesiynau goruchwylio tair-rhan bob chwarter ar gyfer myfyrwyr llawn-amser. Bydd myfyrwyr yn cwblhau 6 modiwl. Y mwyaf o'r rhain yw'r modiwlau Portffolio lle bydd myfyrwyr yn casglu enghreifftiau o'u gwaith gyda defnyddwyr gwasanaeth seicoleg fforensig yn dilyn y prosesau asesu, ymyrraeth, gwerthuso ac argymell. Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn cwblhau pedwar modiwl adroddiad myfyriol ar agweddau ar eu harfer; Asesu a Llunio Swyddogaethol, Ymarfer Moesegol a Phroffesiynol, Addysgu a Hyfforddiant ac Ymgynghori. Gweler tab Cynnwys y Cwrs am ragor o wybodaeth.

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd​

Pwrpas y Diploma Ôl-radd mewn Seicoleg Fforensig Ymarferwyr yw caniatáu i fyfyrwyr symud ymlaen o astudio ar lefel Meistr tuag at statws Ymarferydd, a thrwy hynny roi hwb i'w cyflogadwyedd. Ar ddiwedd y rhaglen gall myfyrwyr llwyddiannus wneud cais i'r HCPC i gael eu cofrestru fel Seicolegwyr Fforensig. Mae'r cwrs hwn mewn gwirionedd ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno symud ymlaen i waith clinigol mewn lleoliadau fforensig neu'n ehangach gyda chleientiaid fforensig. Mae'r rhaglen yn seiliedig ar brofiad gwaith ac yn darparu cefnogaeth dan oruchwyliaeth tuag at ddatblygu'r cymwyseddau sy'n ofynnol i fod yn ymarferydd annibynnol.

Mae 100% o raddedigion y rhaglen hon yn cael eu cyflogi fel Seicolegwyr Fforensig ac felly'n gweithio mewn rolau proffesiynol o fewn amrywiaeth o sefydliadau yn y DU. Efallai y bydd rhai o'n graddedigion yn ystyried dychwelyd i gwblhau'r Ddoethuriaeth mewn Seicoleg Fforensig (Ychwanegol) ar ôl iddynt benderfynu ym mha faes yr hoffent arbenigo.

Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais

Disgwylir i ymgeiswyr feddu ar radd Israddedig achrededig gan y BPS a gradd Meistr achrededig gan y BPS mewn Seicoleg Fforensig (neu hyfforddiant cyfatebol Cam 1 y BPS mewn seicoleg fforensig). Yn ychwanegol at y cymwysterau academaidd y manylir arnynt uchod, bydd disgwyl i ymgeiswyr arddangos profiad helaeth o seicoleg fforensig gymhwysol. Gellir arddangos hyn trwy gael eich cyflogi fel seicolegydd fforensig mewn hyfforddiant, neu rôl debyg lle rydych chi wedi ymarfer, dan oruchwyliaeth, seicoleg fforensig gyda defnyddwyr gwasanaeth fforensig. Rydym yn argymell o leiaf flwyddyn (llawn-amser) o brofiad yn y rolau hyn.

Rydym yn derbyn Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol (RPL) ar gyfer y rhaglen hon ac mae ein rheolau o gymhwyso hyn yn golygu ein bod yn derbyn dysgu ardystiedig blaenorol. Mae hyn yn golygu y gall myfyrwyr ddangos eu bod eisoes wedi dangos cymhwysedd mewn meysydd a aseswyd yn y rhaglen hon. Yn gyffredinol, bydd hyn yn golygu y gallant ddangos eu bod wedi wedi cyflwyno, wedi cael eu hasesu ac wedi pasio agweddau ar raglen debyg (a gymeradwywyd gan HCPC) mewn hyfforddiant seicoleg fforensig. Asesir RPL yn unigol a dylai ymgeiswyr gysylltu â Chyfarwyddwr y Cwrs gyda thystiolaeth o'u RPL i gael arweiniad pellach.

Gofynnir i fyfyrwyr gydsynio i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwarae rôl yn ystod y gweithdai sy'n gysylltiedig â'r rhaglenni. Bydd gofyn i fyfyrwyr na allant gydsynio i weithgareddau o'r fath weithio gyda thîm y rhaglen i sicrhau profiad amgen addas. Bydd angen i fyfyrwyr allu rhoi tystiolaeth o sgiliau iaith Saesneg o lefel 7 IELTS gydag isafswm o 6.5 ar bob is-brawf.

Cyn dechrau'r rhaglen, rhaid i fyfyrwyr fod â lleoliad cymeradwy lle mae profiad gwaith dan oruchwyliaeth briodol yn cael ei gynnig gan safle'r lleoliad. I rai myfyrwyr, gellir defnyddio eu swydd fel y lleoliad (e.e. seicolegwyr fforensig o dan hyfforddiant a gyflogir gan sefydliadau cyfiawnder neu iechyd). Rydym yn darparu cefnogaeth i fyfyrwyr sydd wedi cael cynnig lle ar y rhaglen i ddod o hyd i gyfleoedd profiad gwaith addas. Disgwylir i fyfyrwyr ar leoliadau lle nad ydynt yn cael eu cyflogi gan eu darparwr lleoliad drefnu yswiriant atebolrwydd priodol ar eu cost eu hunain. Mae cost yswiriant atebolrwydd i fyfyrwyr ar leoliad yn amrywio, ond dylai fod yn llai na £100.00 y flwyddyn i'r mwyafrif o ymgeiswyr.

Ymgeiswyr Rhyngwladol
Bydd angen i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth eu bod yn rhugl i safon IELTS 7.0 neu gyfwerth o leiaf. I gael manylion llawn am sut i wneud cais a chymwysterau Iaith Saesneg ewch i’r tudalennau Rhyngwladol ar y wefan.

Y Broses o Ddethol:
Mae'r dethol fel arfer yn seiliedig ar dderbyn ffurflen gais ar-lein a chyfweliad. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am ofyniad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y rhaglen hon yn  www.cardiffmet.ac.uk/DBS. Bydd angen i fyfyrwyr nad ydynt yn defnyddio eu cyflogaeth gyfredol ar gyfer eu lleoliad cyfan hefyd ymgymryd â phroses sgrinio Iechyd Galwedigaethol. 

SYLWCH: Yswiriant atebolrwydd:

Os cynigir lle iddynt ar y rhaglen rhaid i fyfyrwyr sicrhau bod ganddynt yswiriant atebolrwydd priodol. Os yw myfyrwyr yn cael eu cyflogi gan ddarparwyr profiad gwaith mewn rôl briodol, sy'n cynnwys holl gymwyseddau craidd y rhaglen, mae'n debygol y bydd yswiriant eu cyflogwr yn berthnasol ac mae'n ofynnol i fyfyrwyr ddarparu manylion yr yswiriant hwn. Os yw myfyrwyr ar leoliad yn wirfoddol bydd angen iddynt drefnu yswiriant atebolrwydd proffesiynol sy'n costio llai na £100.00 y flwyddyn. Bydd y Brifysgol yn gofyn i fyfyrwyr lofnodi ffurflen i nodi eu bod wedi trefnu yswiriant, ac y byddant yn gyfrifol am ei hadnewyddu pan fo angen.

Sut i Wneud Cais:
Dylid gwneud ceisiadau yn uniongyrchol i'r brifysgol trwy ein cyfleuster Hunanwasanaeth ac mae angen tystysgrif Datganiad Personol gorfodol, tysgysgrif MSc Seicoleg Fforensig (neu gam 1 BPS), a dau eirda gan Seicolegwyr Fforensig cymwys sydd wedi arsylwi ar eich ymarfer (darperir templed cyfeirio). Rhaid uwchlwytho pob un gyda'ch cais ar-lein.

Ewch i Cyngor i Ymgeiswyr gael mwy o wybodaeth am y dogfennau gorfodol a sut i wneud eich cais. Gellir cael yr wybodaeth orfodol yn uniongyrchol hefyd yn dudalen RPL.

Gwybodaeth Ychwanegol

Ffioedd Dysgu a Chefnogaeth Ariannol:
I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd dysgu a'r gefnogaeth ariannol a allai fod ar gael. Ewch i www.cardiffmet.ac.uk/fees.

Cysylltu â Ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â'r Tîm Derbyn ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch askadmissions@cardiffmet.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau cwrs-benodol, cysylltwch ag arweinydd y rhaglen, Nic Bowes:
EE-bost: nbowes@cardiffmet.ac.uk
Ffôn: 029 2020 1169

​​


Gellir dod o hyd i’r telerau ac amodau llawn sy’n ymwneud â derbyn cynnig i astudio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd trwy ymweld â www.cardiffmet.ac.uk/terms