Cynnwys y Cwrs
Cynigir y rhaglen hon ar sail dysgu rhan-amser, wedi’i ddosbarthu, hyblyg yn unig. I gael yr MSc Technoleg Bwyd ar gyfer Diwydiant, rhaid i fyfyrwyr gwblhau modiwlau sydd werth 180 credyd yn llwyddiannus. Rhaid i hyn gynnwys yr holl fodiwlau craidd, gan gynnwys y rhan prosiect ymchwil.
Bydd myfyrwyr yn gallu cyrchu'r modiwlau trwy blatfform Moodle Met Caerdydd. Bydd modiwlau'n cael eu rhyddhau ar adegau penodol yn y flwyddyn a bydd angen i fyfyrwyr gwblhau pob modiwl erbyn dyddiad penodol. Mae strwythur y rhaglen fel a ganlyn:
Blwyddyn 1 (Tystysgrif Ôl-radd)
Tymor 1: Systemau Rheoli Ansawdd Bwyd Byd-eang (20 credyd)
Tymor 2: Diogelwch Bwyd Byd-eang (20 credyd)
Tymor 1 a 2: Dysgu Seiliedig ar Waith 1 (20 credyd)
Blwyddyn 2 (Diploma Ôl-radd)
Tymor 1: Cydymffurfiaeth Cynnyrch Bwyd Byd-eang (20 credyd)
Tymor 2: Dulliau Ymchwil (20 credyd)
Tymor 1 a 2: Dysgu Seiliedig ar Waith 2 (20 credyd)
Prosiect Ymchwil (60 credyd)
Dysgu ac Addysgu
Bydd myfyrwyr yn cymryd dau fodiwl a addysgir bob blwyddyn (un yn Nhymor 1 ac un yn nhymor 2/3) a modiwl dysgu seiliedig ar waith (WBL) trwy gydol y flwyddyn. Mae gan y modiwlau a addysgir nodau clir a gofynion asesu sy'n gysylltiedig ag arferion gweithle'r dysgwr. Gellir defnyddio'r modiwlau WBL i ddangos arbenigedd mewn maes penodol, neu i ddilyn patrwm astudio a fydd yn galluogi'r dysgwr i wella gwybodaeth mewn maes â llai o arbenigedd. Bydd canlyniadau dysgu a phatrymau asesu ar gyfer y modiwlau hyn yn cael eu trafod gyda thiwtor WBL y dysgwr. Yn y flwyddyn olaf, bydd dysgwyr yn gwneud prosiect ymchwil.
Mae’r modiwlau wedi’u creu er mwyn cefnogi datblygiad dealltwriaeth systematig o wybodaeth, ac ymwybyddiaeth feirniadol o faterion cyfredol. Nod yr agweddau sy'n seiliedig ar waith yw datblygu mewn myfyrwyr ddealltwriaeth gynhwysfawr o dechnegau sy'n berthnasol i'w hysgolheictod uwch eu hunain. Yn olaf, mae modiwl y prosiect ymchwil yn datblygu gwreiddioldeb wrth gymhwyso gwybodaeth, ynghyd â dealltwriaeth ymarferol o sut y defnyddir technegau ymchwil ac ymholi sefydledig i greu a dehongli gwybodaeth yn y ddisgyblaeth.
Asesu
Mae hon yn rhaglen ddysgu hyblyg ac wedi’i ddosbarthu ac mae'r dulliau yn rhoi pwyslais cryf ar gymhwyso strwythur damcaniaethol i broblemau a sefyllfaoedd go iawn. Er mwyn adlewyrchu natur gymhwysol astudio, bydd yr addysgu ac asesu yn canolbwyntio ar astudiaethau achos, ymarferion a senarios sy'n adlewyrchu materion go iawn yn y cwmnïau bwyd y mae'r myfyrwyr wedi'u lleoli ynddynt.
Ar gyfer pob modiwl, mae myfyrwyr yn cwblhau nifer o asesiadau o fewn amserlen ofynnol sydd gyda'i gilydd yn galluogi'r myfyriwr i ddangos canlyniadau dysgu'r modiwl.
Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd
Mae'r rhaglen yn darparu'r potensial i staff technegol a staff datblygu cynnyrch newydd (NPD) cyfredol ac uchelgeisiol gan gynnwys Sicrhawyr Ansawdd a thechnolegwyr yn y diwydiant ddangos eu gwybodaeth a'u sgiliau yn y diwydiant y maent yn gweithio ynddo. Mae'n gyfrwng i hwyluso dilyniant gyrfa o fewn cwmni presennol neu symud i swydd gyflogaeth uwch.
Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais
BSc mewn Gwyddor / Technoleg Bwyd neu radd anrhydedd berthnasol mewn gwyddoniaeth. Weithiau, gellir ystyried ymgeiswyr sydd â graddau mewn disgyblaethau eraill os gallant ddangos profiad sylweddol ar lefel uwch yn y diwydiant bwyd.
Yn ogystal, rhaid i bob ymgeisydd allu dangos o leiaf 3 blynedd o brofiad mewn lleoliad perthnasol. Mae natur gymhwysol y cwrs a'r pwyslais ar fyfyrio beirniadol a datblygu ymarfer uwch yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr feddu ar brofiad perthnasol y gallant ganolbwyntio a datblygu eu hastudiaethau arno.
Rhaid i bob ymgeisydd weithio mewn amgylchedd gweithgynhyrchu bwyd a / neu ddiod i'w galluogi i gymhwyso elfennau ymarferol yr aseiniadau.
Sylwch nad yw'r rhaglen hon yn addas ar gyfer mynediad yn uniongyrchol ar ôl graddio, nac ar gyfer ymgeiswyr sy'n ceisio rhaglen lefel Meistr er mwyn symud i'r diwydiant cynhyrchu bwyd.
Ymgeiswyr Rhyngwladol
Bydd angen i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth o ruglder i safon IELTS 6.0 neu gyfwerth o leiaf. I gael manylion llawn am sut i wneud cais a chymwysterau Iaith Saesneg ewch i’r
tudalennau Rhyngwladol ar y wefan.
Y Broses o Ddethol:
Mae angen cais ysgrifenedig i ddechrau, ac efallai y caiff hyn ei ategu gyda chyfweliad ar ôl hynny (dros y ffôn neu ar-lein).
Sut i Wneud Cais:
Dylid gwneud ceisiadau am y cwrs hwn yn uniongyrchol i'r brifysgol trwy ein cyfleuster hunanwasanaeth .Am wybodaeth bellach ewch i'n tudalennau Sut i Wneud Cais: www.cardiffmet.ac.uk/howtoapply.
Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio credyd gan sefydliad arall, neu os ydych wedi ennill cymwysterau a / neu brofiad i astudio ar gyfer cwrs yn Met Caerdydd, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hyn ynghyd â gwybodaeth ar sut i wneud cais ar ydudalen RPL.
Gwybodaeth Ychwanegol
Ymgeiswyr Rhyngwladol:
Cyn gwneud cais, dylai myfyrwyr rhyngwladol (y rhai o’r tu allan i'r UE), gysylltu â'r Swyddfa Ryngwladol yn Met Caerdydd i drafod y gweithdrefnau angenrheidiol mewn perthynas ag astudio gyda ni. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i
www.cardiffmet.ac.uk/international.
Ffioedd Dysgu a Chefnogaeth Ariannol:
www.cardiffmet.ac.uk/fees
Cysylltu â Ni
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â'r Tîm Derbyn ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch
For general enquiries please contact the Admissions Team on 029 2041 6044 or email
askadmissions@cardiffmet.ac.uk.
Ar gyfer ymholiadau ynghylch cwrs penodol, cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen, Vitti Allender:
E-bost:
vallender@cardiffmet.ac.uk
Ffôn: 029 2041 6446