Cardiff School of Sport and Health Sciences>Cyrsiau>Dental Technology - BSc (Hons) Degree
BSc (Hons) Dental Technology

Technoleg Ddeintyddol - Gradd BSc (Anrh)

 

Ffeithiau allweddol

Cod UCAS: B840

Lleoliad Astudio: 
Campws Llandaf

Ysgol:
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd

Hyd y Cwrs:
Tair blynedd llawn amser

Wedi’i achredu gan:

General Dental Council
 

Trosolwg o'r Cwrs

Nod y radd BSc Technoleg Deintyddol yw creu technolegwyr deintyddol sy'n gallu llunio adferiadau deintyddol, prostheses ac offer (megis coronau a phontydd unigryw, wedi'u gwneud yn unigol, neu offer orthodonteg) i safon uchel o gywirdeb. Mae'r cwrs hefyd yn ceisio ehangu dealltwriaeth o feysydd technoleg ddeintyddol newydd a datblygol a gwella perthnasoedd o fewn y Tîm Deintyddol.

Gweithredir y cwrs hwn mewn cydweithrediad agos ag Ymddiriedolaeth Ysbyty Deintyddol Prifysgol Cymru, a fydd yn cyflwyno, yn asesu ac yn gyfrifol am draean y cwrs. Fel myfyriwr israddedig technoleg ddeintyddol byddwch yn gweithio gyda deintyddion dan hyfforddiant ac ymgynghorwyr yn ail a thrydedd flwyddyn y cwrs.

Mae'r wybodaeth am y cwrs ar y dudalen hon yn ymwneud â mynediad Medi 2019.

​Cynnwys y Cwrs

Blwyddyn Un:

  • Technegau rhagarweiniol
  • Deunyddiau Deintyddol Cymhwysol 1
  • Anatomeg a Ffisioleg Ddeintyddol
  • Dannedd Gosod Rhannol 1
  • Danneddd Gosod Cyflawn 1
  • Atgyweirio Castiau
  • Ymarfer Proffesiynol 1

Blwyddyn Dau:

  • Arsylwi Clinigol
  • CAD/CAM mewn Deintyddiaeth
  • Lleoliad Gwaith
  • Dannedd Gosod Rhannol 2
  • Danneddd Gosod Cyflawn 2
  • Atgyweirio Cerameg
  • Lleoliad Gwaith
  • Sgiliau Ymchwil

Blwyddyn Tri:

  • Atgyweiriadau wedi'u Bondio
  • Prosiect Ymchwil
  • Orthodonteg
  • Aseiniadau Deintyddol Uwch
  • Prosthodonteg Symudadwy
  • Ymarfer Proffesiynol 2
  • Removable Prosthodontics
  • Professional Practice 2

Yn ystod blynyddoedd dau a thri, byddwch yn ymgymryd â chyfnodau o leoliadau gwaith yn cynnwys Ymddiriedolaeth Ysbyty Deintyddol Prifysgol Cymru. Bydd y cyfnodau ar leoliad gwaith yn rhoi cyfle i chi ennill y profiad angenrheidiol wrth gynhyrchu offer, atgyweiriadau a phrosthesisau i gleifion.

Dysgu ac Addysgu

Bydd dull ymchwilgar, cwestiynu, ac ymateb chwilfrydig i'r pynciau, yn cael eu datblygu yn eich rol fel technolegydd cymwys.

Yn ystod eich amser ar y cwrs byddwch yn profi nifer o ddulliau addysgu a dysgu. Bydd y rhain yn cynnwys darlithoedd, seminarau, sesiynau ymarferol, aseiniadau tîm ac hunanasesiadau ac asesiadau cymheiriaid. Bydd rhai sesiynau dysgu ar y cyd gyda myfyrwyr rhan amser, defnyddio e-bortffolios a defnydd helaeth o'r amgylchedd dysgu rhithwir lle gellir cyrchu nodiadau darlithoedd, fideos o arddangosiadau ymarferol, adnoddau darlithoedd a chyn-bapurau ar-lein. Bydd hefyd tiwtor personol ar eich cyfer a fydd ar gael i drafod eich cynnydd academaidd ac a all eich cyfeirio at arbenigwyr eraill ar gyfer materion eraill lle bo angen.

Mae cysylltiad hir a sefydlog ag Ysbyty Deintyddol Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, sy’n golygu bod y sefydliad hwnnw'n gwneud cyfraniad mawr i'r rhaglen radd hon. Bydd dau semester yn yr ail a'r drydedd flwyddyn yn cael eu cyflwyno a'u hasesu gan staff o'r Ysbyty Deintyddol, sydd o fewn pellter cerdded hawdd i Met Caerdydd, Llandâf. Felly gall myfyrwyr ennill profiad gwerthfawr yn cynhyrchu teclynnau, atgyweiriadau a phrosthesisau a gweld yr eitemau hyn yn cael eu gosod i’r cleifion.

Y gefnogaeth bersonol sydd fwyaf defnyddiol gan fyfyrwyr cyfredol yw'r polisi 'drws agored' a weithredir gan y Tîm Rhaglen lle gwahoddir myfyrwyr i gysylltu ag unrhyw un o'r staff addysgu amser llawn sydd ar gael yn y swyddfa yn ystod oriau swyddfa arferol.

Asesu

Each module that you undertake is assessed. The nature of the assessment will vary accordingAsesir pob modiwl y byddwch yn ymgymryd ag ef. Bydd natur yr asesiad yn amrywio yn ôl natur a phwrpas y modiwl. Yn sylfaenol, defnyddir pum math o asesiad trwy gydol y rhaglen:

rholiadau Ffurfiol Ysgrifenedig (fel arfer ar ddiwedd y flwyddyn academaidd); Aseiniadau Ymarferol (fel arfer bydd myfyrwyr yn cwblhau ymarferion technegol gyda chymorth darlithwyr trwy arddangosiadau, cyngor a chefnogaeth ymarferol); Arholiadau Ymarferol wedi'u hamseru (lle na fydd myfyrwyr yn derbyn unrhyw gymorth ymarferol, ond efallai y bydd arweiniad llafar ar gael wrth adeiladu darnau); Aseiniadau Ysgrifenedig (mae'r rhain yn brosiectau lle mae myfyrwyr yn defnyddio'r llyfrgell / canolfan adnoddau i gasglu a choladu gwybodaeth angenrheidiol neu ddilyn astudiaeth achos), a Chyflwyniadau Llafar (mae hyn yn gofyn am gyflwyno pwnc i weddill y grŵp; asesiad cymheiriaid ac ymateb).

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Mae gan ein graddedigion ragolygon gyrfa rhagorol. Cyflogir technolegwyr deintyddol yn y GIG, labordai masnachol, meddygfeydd deintyddol preifat ac ysgolion deintyddol. Yn y Gwasanaeth Iechyd mae strwythur gyrfa clir yn amrywio trwy Raddau Uwch, Pennaeth, a Graddau Uwch Bennaeth. O fewn y sector masnachol, ar ôl rhai blynyddoedd o brofiad, byddai'n bosibl dod yn berchennog neu'n rheolwr labordy masnachol.

Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais

Fel rheol, dylai fod gan ymgeiswyr bum TGAU gan gynnwys Iaith Saesneg (neu Gymraeg Iaith Gyntaf), Mathemateg* a Gwyddoniaeth gadd C neu'n uwch / gradd 4 neu'n uwch (ar gyfer ymgeiswyr sydd â TGAU newydd eu diwygio yn Lloegr) ynghyd ag un o'r canlynol: Mae angen sgôr IELTS (neu gyfwerth) o 6.5 lle nad Saesneg yw'r iaith gyntaf, ynghyd â 96 pwynt o 3 Safon Uwch o leiaf (neu gyfwerth). Gall cynigion nodweddiadol gynnwys:

  • 96 pwynt o 3 Safon Uwch o leiaf i gynnwys graddau CC, un i fod mewn pwnc Gwyddoniaeth (Mathemateg yn dderbyniol); Bagloriaeth Cymru - Tystysgrif Her Sgiliau Uwch yn cael ei ystyried yn drydydd pwnc
  • Diploma Estynedig Cenedlaethol RQF BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt DMM mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol

  • 96 pwynt gan o leiaf 3 ‘Advanced Higher’ yr Alban i gynnwys graddau DD, un i fod mewn pwnc Gwyddoniaeth (Derbynnir Mathemateg)
  • 96 pwynt o'r ‘Irish Leaving Certifiicate’ Lefel Uwch i gynnwys graddau 3 x H2, un i fod mewn Bioleg, Cemeg neu Fathemateg. Dim ond gydag isafswm gradd H4 y mae pynciau lefel uwch yn cael eu hystyried
  • 96 pwynt o'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch mewn pwnc Gwyddonol

*Ar gyfer ymgeiswyr o Gymru sy'n eistedd y TGAU Mathemateg diwygiedig, byddwn yn derbyn naill ai TGAU Mathemateg neu Mathemateg - Rhifedd.

Neu 'Gwrs sylfa sy'n arwain at BSc Gwyddorau Iechyd' gyda marc pasio o 70% o leiaf, i'w gael erbyn 31 Awst yn y flwyddyn mynediad, a derbyn cais newydd trwy UCAS. I gael rhagor o wybodaeth am y cwrs Sylfaen, cliciwch yma

Ar gyfer ymgeiswyr sydd yn ymgymryd â 2 Safon Uwch neu gyfwerth yn unig, bydd hyn yn cael ei ystyried ynghyd â gweddill y proffil academaidd ac efallai y byddwn yn gwneud cynnig wedi'i raddio yn lle cynnig gan ddefnyddio Tariff UCAS.

Os ydych chi'n astudio cyfuniadau o'r uchod neu os nad yw'ch cymhwyster wedi'i restru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at y Chwiliad Cwrs UCAS i gael y gofynion mynediad. Gwybodaeth bellach am ein gofynion mynediad, gellir cynnwys cymwysterau o'r UE trwy glicio yma.

Ymgeiswyr Rhyngwladol
Bydd angen i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth eu bod yn rhugl i safon IELTS 6.5 neu gyfwerth o leiaf. I gael manylion llawn am sut i wneud cais ac am gymwysterau Iaith Saesneg ewch i’r tudalennau Rhyngwladol ar y wefan.

Y Broses Ddethol:

Mae'r dethol yn seiliedig ar dderbyn ffurflen gais UCAS wedi'i chwblhau, a'i chyflwyno erbyn dyddiad cau UCAS ar 15fed Ionawr, ac yn ystyried gallu academaidd, y datganiad personol a'r geirda. Mae angen i ymgeiswyr ddangos sgiliau deheurwydd llaw rhagorol, creadigrwydd, sylw i fanylion, gwybodaeth a phrofiad o dechnoleg ddeintyddol ynghyd â gwybodaeth am ofal iechyd ac anatomeg ddynol. Mae hefyd angen dangos y gallu i gyfathrebu'n effeithiol a bod yn angerddol am y maes.

Nod y weithdrefn ddethol hon yw nodi'r ymgeiswyr hynny sydd fwyaf addas i ddilyn y rhaglen technoleg ddeintyddol yn llwyddiannus, ac sydd â'r potensial mwyaf i gychwyn ar yrfa gynhyrchiol yn y proffesiwn.

Dylai ymgeiswyr sy'n gwneud cais am fynediad Blwyddyn 2 neu 3 gysylltu â Derbyniadau cyn gwneud cais oherwydd y nifer cyfyngedig o leoedd.

Sut i Wneud Cais:

Dylid gwneud ceisiadau am y cwrs hwn ar-lein i UCAS: www.ucas.com.Am wybodaeth pellach ewch i'n tudalennau Sut i Wneud Cais: www.cardiffmet.ac.uk/howtoapply.

RDysgu Blaenorol Cydnabyddedig (RPL) a Throsglwyddo Credyd i flwyddyn 2 a 3

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn trosglwyddo credyd o sefydliad arall i astudio yn Met Caerdydd ar gyfer cwrs sy'n derbyn mynediad ar gyfer blwyddyn 2 a / neu 3, gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am hyn a gwybodaeth ar sut i wneud cais ar dudalen RPL. Cysylltwch â Derbyniadau gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych am RPL.

Myfyrwyr aeddfed

Ymgeisydd aeddfed yw unrhyw un dros 21 oed nad aeth i'r brifysgol ar ôl ysgol neu goleg. Mae Met Caerdydd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr aeddfed a gellir cael mwy o gyngor a gwybodaeth yma.

Cysylltu â Ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â'r Tîm Derbyn ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch askadmissions@cardiffmet.ac.uneu anfonwch tweet i ni @CMetAdmissions.

Ar gyfer ymholiadau cwrs-benodol, cysylltwch ag arweinydd y rhaglen, Jeff Lewis:
E-bost: jlewis@cardiffmet.ac.uk
Ffôn: 029 2041 6899


Gellir dod o hyd i’r telerau ac amodau llawn sy’n ymwneud â derbyn cynnig i astudio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd trwy ymweld â www.metcaerdydd.ac.uk/terms