Am wybodaeth bellach a chofrestru: Cysylltwch â Jackie ar 029 2041 6841 neu
JMichell@cardiffmet.ac.uk
Hyd y Cwrs: 1 diwrnod
Gofynion Mynediad Dim
Cynnwys y Cwrs: Defnyddir Rhaglennu Niwro-ieithyddol yn gynyddol i gynyddu
effeithiolrwydd yn y GIG, busnes, chwaraeon ac addysg i sicrhau canlyniadau gwell.
Sefydlwyd NLP er mwyn modelu rhagoriaeth. Trwy sefydlu'n union sut mae rhywun yn
cyflawni rhywbeth, gellir 'gosod' rhagoriaeth a'i ailadrodd dro ar ôl tro. Mae'r gweithdy hwn
yn cyflwyno technegau NLP profedig, diogel a hynod effeithiol at ddefnydd personol a
phroffesiynol a fydd yn eich galluogi i:
- Gael mwy o hunan-ddealltwriaeth er mwyn eich gwneud hyd yn oed yn fwy effeithiol yn y
gweithle ac yn y cartref
- Adeiladu a chynnal perthynas
- Deall sut mae iaith lafar ac ysgrifenedig a'i defnydd yn cael effaith uniongyrchol ar
effeithiolrwydd eich cyfathrebu ag eraill
effeithiolrwydd eich cyfathrebu ag eraill
- Gwella sgiliau adborth
-Magu hyder wrth ddatrys gwrthdaro a gweld safbwyntiau eraill
- Gosod a chyflawni nodau, bod yn ymwybodol o sut i symud pethau ymlaen mewn ffordd
newydd
- Bod yn ymwybodol o ba ymddygiadau i'w newid i gael y canlyniadau rydych chi eu
heisiau.
Arweinydd y Rhaglen: Francesca Cooper
Cyrsiau a allai fod o ddiddordeb: Gwasanaeth Cwsmer, Sgiliau Cyflwyno Proffesiynol,
Rheoli Straen, Rheoli Amser
Gwybodaeth ychwanegol: Gweler hefyd gyrsiau yn yr adran Busnes a Rheolaeth