Kelly Wegener

kelly wegener.jpg​ ​ ​ ​Swydd:Darlithydd am Addysg Gychwynnol Athrawo
​Ysgol:​ ​ Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd
​E-bost:kwegener@cardiffmet.ac.uk

 

Proffil

Ymunais â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd yn Nhachwedd 2020 yn dilyn wyth mlynedd o weithio fel darlithydd ym Mhrifysgol De Cymru. Cyn hynny cefais yrfa ysgol gynradd wrth fy modd mewn amrywiol ysgolion ledled De Cymru. Cwblheias fy MA mewn Addysg (Arwain a Rheoli) yn 2019. Hefyd dyfarnwyd Cymrodoriaeth y Gymdeithas Addysg Uwch i mi yn 2019. 

Meysydd presennol fy niddordeb ymchwil yw effaith meddylfryd twf wrth ddatblygu cydnerthedd dysgwyr a defnydd technoleg efelychu yn Addysg Gychwynnol Athrawon. Yn ddiweddar rwyf wedi rhoi cyflwyniad yng nghynhadledd flynyddol Cymdeithas Datblygiad Proffesiynol Rhyngwladol ar y ddau faes diddordeb ymchwil a chefais fy nerbyn hefyd i gyflwyno yn BERA 2020. 

Ar hyn o bryd, rwy'n gweithio ar ddarpariaeth israddedigion ac ôlraddedigion addysg gychwynnol athrawon gan arwain ar Faes Dysgu a Phrofiad Mathemateg a Rhifedd. Rwyf hefyd yn addysgu astudiaethau proffesiynol, dysgu drwy chwarae a datblygiad plant.