|
Swydd: | Gweinyddwr Gwasg Prifysgol Metropolitan Caerdydd |
Ysgol: | Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd |
E- bost: | thill@cardiffmet.ac.uk |
Ffôn: | 029 2041 6515 |
Rhif Ystafell: | C012 |
Proffil
Ymunais â Met Caerdydd ym 1997 fel Ysgrifennydd rhan-amser yn yr Adran Dysgu ac Addysgu. Yn 2003 cymerais swydd Gweinyddwr y Wasg UWIC yn gweithio ochr yn ochr â'r Rheolwr-olygydd i gefnogi cynhyrchu a dosbarthu cyhoeddiadau newydd. Heddiw mae fy rôl yn cynnwys rheoli rhedeg Gwasg Prifysgol Metropolitan Caerdydd a'i chyhoeddiadau o ddydd i ddydd. Mae Gwasg y Brifysgol wedi cyhoeddi ystod eang o ddeunyddiau, a comisiynwyd y mwyafrif ohonynt gan Lywodraeth Cymru, fel bod deunyddiau ar gael i blant mewn ysgolion i'w cynorthwyo wrth astudio pynciau a ddewiswyd. Mae'r cyhoeddiadau hyn yn amrywio o flynyddoedd plentyndod i Lefel A. Rwy'n cysylltu ag ysgolion, Cyngor Llyfrau Cymru a Chyd-bwyllgor Addysg Cymru (WJEC) er mwyn sicrhau bod y cyhoeddiadau hyn ar gael. Mae Gwasg Prifysgol Metropolitan Caerdydd hefyd wedi cyhoeddi deunydd gan Staff Academaidd yn y brifysgol, ac mae bob amser yn barod i ystyried syniadau / prosiectau newydd gan staff o fewn y Brifysgol.
Rhagor o wybodaeth
Cymwysterau
HNC Astudiaethau Busnes
BA (Anrh) Astudiaethau Busnes