Dr Thomas Breeze

​​

Swydd: Arweinydd Rhaglen, TAR Uwchradd Cerddoriaeth

Ysgol: Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd

E-bost: tbreeze@cardiffmet.ac.uk

Ffôn: 029 2041 7246

Rhif Ystafell: B2.17






Ymchwil

Fy mhrif ddiddordebau ymchwil yw:

Addysg Cerddoriaeth

Roedd fy astudiaeth ddoethurol yn cynnwys creu model cysyniadol o gredoau athrawon cerdd ystafell ddosbarth ynghylch sut mae eu disgyblion yn dysgu a nodau eithaf y pwnc. Yna defnyddiais y model cysyniadol i dynnu at ei gilydd a datblygu damcaniaethau presennol o ddysgu mewn cerddoriaeth.

Sut Mae Athrawon Newydd yn Dysgu

Mae fy ymchwil o amgylch model ymarfer clinigol sy’n seiliedig ar ymchwil Partneriaeth Caerdydd yn cynnwys prosiect cydweithredol sy’n archwilio sut mae athrawon dan hyfforddiant yn dysgu yng nghyd-destun Safonau Proffesiynol Cymru ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth. Rwyf hefyd wedi cymryd rhan mewn adolygiad systematig o lenyddiaeth o dechnegau mentora ymddiddan gyda chydweithwyr o brifysgolion Rhydychen a Bangor.

Proffil

Ar ôl cwblhau gradd BMus a MA ym Mhrifysgol Caerdydd, yn astudio gyda’r ysgolhaig byd-enwog ar gerddoriaeth Bach, Peter Williams, fe wnes gwrs TAR ym Met Caerdydd cyn treulio 10 mlynedd yn yr ystafell ddosbarth yn addysgu cerddoriaeth uwchradd. Bûm hefyd yn addysgu cerddoriaeth yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Phrifysgol Caerdydd, ac yn gweithio i raglenni addysg y Brifysgol Agored.

Ymunais â Met Caerdydd yn rhan-amser yn 2012 ac yn llawn amser yn 2015, ac rwyf nawr yn arwain y rhaglen TAR Uwchradd Cerddoriaeth. Derbyniais fy noethuriaeth yn 2023. Mae fy nghyfrifoldebau eraill yn cynnwys aelodaeth o’r tîm gofynion ymarfer clinigol, sy’n gyfrifol am drosi model Partneriaeth Caerdydd o ymarfer clinigol wedi’i lywio gan ymchwil i fframwaith ar gyfer lleoliadau ysgol athrawon dan hyfforddiant.

Yn 2018, bûm yn gweithio gyda chydweithiwr, Emma Thayer, i greu podlediad, Emma and Tom Talk Teaching, sydd wedi’i lawrlwytho dros 65,000 o weithiau ledled y byd ac wedi cyfweld â bron i 100 o westeion. Rydym hefyd yn lledaenu ymchwil athrawon dan hyfforddiant o’r ansawdd uchaf gan Bartneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon drwy ein llinyn dwyieithog, Research Bites.

Fel cerddor, rwy’n arbenigo mewn cyfeilio a pherfformio sy’n cael ei lywio gan hanes.

Cyhoeddiadau

Erthyglau a Adolygir gan Gymheiriaid:

Beauchamp, G. & Breeze, T., (2022) ‘Pedagogy versus performance in primary classroom music teaching: Lessons from a “usable past” in Wales’, Wales Journal of Education, 24(2), pp. 97-122.

Breeze, T., Beauchamp, G., Bolton, N. & McInch, A. (2022) ‘Secondary music teachers: a case study at a time of education reform in Wales’, Music Education Research, 25(1), pp. 49-59.

Breeze, T., & Beauchamp, G. (2021). ‘Barriers and enablers to undergraduate music students undertaking a Postgraduate Certificate in Education (PGCE) secondary music programme’, British Journal of Music Education 39(2), pp. 232-244.

Kneen, J., Breeze, T., Thayer, E., John, V. and Davies-Barnes, S. (2021) ‘Pioneer teachers: how far can individual teachers achieve agency within curriculum development?’, Journal of Educational Change, 24, pp. 243-264.

Kneen, J., Breeze, T., Davies-Barnes, S., John, V. and Thayer, E. (2020) ‘Curriculum integration: the challenges for primary and secondary schools in developing a new curriculum in the expressive arts’, Curriculum Journal, 31(2), pp. 258-275.

Pugh, C., Thayer, E., Breeze, T., Beauchamp, G., Kneen, J., Watkins, S. and Rowlands, B. (2020) ‘Perceptions of the New Role of the Research Champion in Developing a New ITE Partnership: Challenges and Opportunities for Schools and Universities’, Wales Journal of Education, 22(1), pp. 185-208.

Cyflwyniadau mewn Cynadleddau:

Breeze, T., Dafydd, S and Thayer, E (2022) ‘Using dialogue to understand professional growth: an example from initial teacher education’, IPDA International Conference, Ar-lein, 26 Tachwedd.

Breeze, T., Dafydd, S and Thayer, E (2022) ‘Using dialogue to understand professional growth: an example from initial teacher education’, UCET, Stratford-upon-Avon, 1 Tachwedd.

Breeze, T. (2022) ‘A study of Key Stage 3 Music Teachers’ Pedagogic Beliefs in the Context of a New Curriculum for Wales’, Postgraduate Research in Music Education Symposium (Trinity Laban Conservatoire of Music & Dance), Ar-lein, 28 Hydref.

Breeze, T. (2022) ‘Curriculum design in the new Curriculum for Wales: a critical approach to the expressive arts AoLE’, CSC Curriculum for Wales Virtual Conference (Central South Consortium), Ar-lein, 28 Mehefin.

Breeze, T., Dafydd, S. and Thayer, E. (2022) ‘Co-constructing a shared understanding of the professional standards for teaching and leadership’, ‘Moving Forward’ (Education Workforce Council), Ar-lein, 28 Mawrth.

Bryant, A., Thayer, E. and Breeze, T. (2022) ‘Building a partnership: acknowledging and understanding differing perspectives in a clinical practice model of ITE’, IPDA Cymru, Ar-lein, 7 a 10 Chwefror.

Breeze, T. and Thayer, E. (2022) ‘Curriculum design: music and drama’, Cross-regional Curriculum Design Programme (Wales regional school improvement consortia), Ar-lein, 19 Ionawr.

Bryant, A., John, V., Thayer, E., Breeze, T., Milton, E. and Morgan, A. (2021) ‘Building a partnership: acknowledging and understanding differing perspectives in a clinical practice model of ITE’, IPDA International Conference, Ar-lein, 25-27 Tachwedd.

Breeze, T. and Thayer, E. (2020) ‘What do cross-curricular approaches look like in the expressive arts? Which ones work? Insights from a systematic literature review’, ResearchED Cymru, Caerdydd, 29 Chwefror.

Breeze, T. and Thayer, E. (2019) ‘Cross-curricular pedagogies in music and drama: a systematic literature review and its impact on practice’, The 15th Annual Conference of the British Education Studies Association (BESA), Abertawe, 27-28 Mehefin.