Grwpiau Ymchwil:
• Grŵp Ymchwil Addysgeg ac Andragogeg (PARG)
Aelodaeth:
• FHEA
Diddordebau Ymchwil:
• Siarad fel offeryn dysgu
• Dysgu ac Addysgu Rhyngweithiol
• Asesu ar gyfer dysgu
Ar ôl bod yn Bennaeth Adran yn Ysgol Uwchradd Gatholig St Joseph yng Nghasnewydd am 11 mlynedd, ymgymerais â rôl arweinydd Rhaglen Mathemateg TAR yn 2010. Ers hynny, rwyf wedi gweithio gyda chydweithwyr yn ein hysgolion Partneriaeth i helpu i ddatblygu’r athrawon mathemateg newydd gorau ar gyfer ysgolion lleol a chenedlaethol. Mae llawer eisoes wedi ysgwyddo cyfrifoldebau arwain pellach yn eu hadrannau, gyda rhai yn dod yn Benaethiaid Adran o fewn pedair blynedd i gwblhau'r cwrs Mathemateg TAR yn Met Caerdydd.
Rwyf wedi adeiladu a chynnal cysylltiadau cryf â chydweithwyr sy'n cefnogi athrawon dan hyfforddiant yn yr ysgol ac mae hyn wedi helpu athrawon dan hyfforddiant i gael cefnogaeth effeithiol yn ystod eu hyfforddiant fel y gallant gael yr effaith fwyaf bosibl ar hyder disgyblion a chynnydd mewn mathemateg. Mae galw mawr am athrawon mathemateg o Met Caerdydd ac maent yn gwneud gwahaniaeth yn ddyddiol