Book Chapters:
Beauchamp, G., Haughton, C., Ellis, C., Sarwar, S., Tyrie, J. Adams, D and Dumitrescu, S. (2019) Ethical considerations in using innovative methods in early education research, in, Brown, Z. and Perkins, H. (ed.) Using Innovative Methods in Early Years Research. London: Routledge
Professional / Non-refereed Publications:
Dumitrescu, S. (2004) 'Botox – Working in Partnership for Effective Preparation', The Journal for the National Association of Hospital Play Staff, (Winter Edition) NAHPS
Dumitrescu, S. (2002) Guidelines for Professional Practice – Clinical Supervision © National Association of Hospital Play Staff
Dumitrescu, S. and Saunders, H. (1995) 'Play for Children undergoing Oncology/Haematology Treatment' Play Focus, © National Association of Hospital Play Staff
Mae Sandra yn Arbenigwr Chwarae Iechyd cofrestredig, ac wedi gweithio’n bennaf o fewn lleoliadau gofal iechyd yn ystod y 22 mlynedd diwethaf. Mae wedi teithio dramor gyda’i gwaith i gefnogi plant mewn sefydliadau yn Romania, gan gydweithio â’r staff cynhaliol, yn ogystal â sefydlu hospis i blant â HIV/AIDS.
Yn 1995, wedi iddi ddychwelyd o Romania, ymgymerodd Sandra â rôl ‘Darlithydd Arbenigol’ i’r cwrs Arbenigwr Chwarae mewn Ysbyty yng Ngholeg Gofal ac Addysg Gynnar ym Mryste. Yn ei blwyddyn olaf yn y coleg (2001), hi oedd Arweinydd y Rhaglen. Rhwng 1998 a 2013, cyflogwyd Sandra gan Dŷ Hafan (hosbis plant) lle roedd yn gyfrifol am sawl rôl. Ei rôl olaf yno oedd Rheolwr Gwasanaethau Therapiwtig. Datblygodd ddiddordeb mewn arweinyddiaeth, rheoli a datblygiad proffesiynol yn ystod ei chyfnod yn Nhŷ Hafan. Cefnogodd y tîm Gwasanaethau Therapiwtig i gynnal prosiect ymchwil gweithredol a oedd yn edrych ar y rhinweddau arweinyddol sydd eu hangen i gefnogi ymarferwyr chwarae i wella eu hymarferiad, wrth ddarparu gwasanaeth chwarae cynaliadwy i’r plant yn eu gofal.
Mae Sandra ar hyn o bryd yn dysgu ar lwybr Astudiaethau Plentyndod Cynnar y radd Astudiaethau Addysg, ac yn arwain ar fodiwlau Datblygiad Cymdeithasol ac Emosiynol, Iechyd a Lles, Ymarfer Cynhwysol yn y Blynyddoedd Cynnar; mae’n cyfrannu hefyd i’r modiwl Chwarae a Dysgu Cynnar. Mae sicrhau statws proffesiynol i ymarferwyr Blynyddoedd Cynnar yn un o’o phrif ddiddordebau, yn ogystal â chwarae i blant sydd ag anghenion dwys a chymhleth.