Sally Bethell

​ ​ ​ ​ ​ ​Swydd:​Uwch Ddarlithydd
​Ysgol:​ Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd
​E-bost:sbethell@cardiffmet.ac.uk
​ Ffôn:​029 2041 6071
​Rhif Ystafell:​C016

 

Ymchwil

 Aelodaeth:
Cymdeithas Addysg Gorfforol (AfPE)
Uwch Gymrawd yr Academi Addysg Uwch (FHEA)

Diddordebau Ymchwil:
Ymarfer Myfyriol
Dysgu’n seiliedig ar broblemau
Dysgu Athrawon dan Hyfforddiant

Cyhoeddiadau

Peer-refereed Journals:
Bethell. S, and Morgan. K, (2011) Problem–based and experiential learning: Engaging students in an undergraduate Physical Education module. Journal of Hospitality, Leisure, Sport & Tourism Education, Practical paper 10(1), 128-134.

Professional / Non-refereed Publications:
Lofthouse, R., Greenway, C., Bethell, S., Davies, P., Davies, D., Morgan, G., Watkins, S., Davies Barnes, S., Challenger, S. and Herrington, P. (2016) ‘Trainee teachers’ conceptions of their own learning: does context make a difference?’, Leeds University: BERA.

Prosiectau

Routes into Teaching - Prosiect ar y cyd rhwng Prifysgolion Metropolitan Caerdydd, Birmingham a Newcastle.

Cyrsiau DPP PESS - ariannwyd y brifysgol gan Chwaraeon Cymru i ddarparu cyrsiau AddGorff o ansawdd uchel fel cyfle hyfforddi ychwanegol at eu darpariaeth TAR. Gweithiais fel y rheolwr prosiect gyda’r tîm Menter i gynllunio, trefnu a chyflwyno’r cyrsiau.  Dros dair blynedd, darparwyd 280+ o gyfleoedd DPP i athrawon uwchradd a chynradd dan hyfforddiant ar y cwrs TAR.

Proffil

Mae Sally yn uwch ddarlithydd yn yr Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol. Bu Sally am gyfnod yn Gyfarwyddwr Rhaglen y cwrs TAU Uwchradd, ond bellach mae’n dysgu ar y cwrs AddGorff TAR Uwchradd ac addysgeg ar y cwrs gradd.   Mae hi hefyd yn cyfrannu at ddarpariaeth AddGorff yn y cwrs TAR Cynradd a’r cwrs MA mewn Addysg Gorfforol a Chwaraeon. Astudiodd Sally ym Mhrifysgol Gogledd Cymru, Bangor lle enillodd radd BA (Anrhydedd) Cyfun mewn Addysg Gorfforol a Chymdeithaseg.  Dilynodd gwrs TAR mewn Addysg Gorfforol ym Mhrifysgol Exeter. Dechreuodd ei gyrfa ddysgu yn Swydd Rhydychen fel athrawes AddGorff ar y brif raddfa, cyn symud i Swydd Efrog am 12 mlynedd a pharhau fel athrawes AddGorff yn ogystal â phennaeth adran, pennaeth gyrfaoedd a dod yn Uwch Athro Sgiliau (AST).  

Yn 2000, symudodd Sally i fyw i dde Cymru a dysgu AddGorff mewn ysgol yng Nghaerloyw. Ar yr un pryd, dechreuodd weithio i Chwaraeon Cymru fel Hyfforddwr Cenedlaethol ar brosiect Campau’r Ddraig.  O’i gwaith ymgynghori gyda Chwaraeon Cymru, daeth yn Hyfforddwr Cenedlaethol gan gyfrannu at hyfforddiant tiwtoriaid a gwella ansawdd.  Gyda dyfodiad menter Addysg Gorfforol a Chwaraeon mewn Ysgolion (PESS) Llywodraeth Cymru, daeth yn Hyfforddwr Cenedlaethol i’r prosiect Iechyd, Ffitrwydd a Llesiant, gan weithio ar ddatblygu adnoddau a chyflwyno cyrsiau hyfforddi.  Mae ei gwaith yn y prosiectau hyn wedi cefnogi dysgu elfen iechyd a llesiant ar y rhaglen TAR gyfredol gan adlewyrchu’r pwyslais sydd ar yr agwedd hon yn y cwricwlwm newydd i Gymru.  

Rhwng 2011 a 2014, llwyddodd TAR AddGorff i sicrhau cryn dipyn o arian i ddatblygu cyfleoedd DPP AddGorff o ansawdd uchel i athrawon cynradd ac uwchradd dan hyfforddiant.  Mae Sally yn Arholwr Allanol i’r cwrs BA (Anrhydedd) gyda Statws Athro Cymwysedig (SAC) ym Mhrifysgol Brighton.  Mae hi hefyd wedi ymgymryd â hyfforddiant arolygydd cymheiriad gydag Estyn.

Dolenni Allanol

Arholwr Allanol i gwrs TAR Prifysgol Caerloyw.

Arholwr Allanol i gwrs BA (Anrhydedd) gyda SAC mewn Addysg Gorfforol Prifysgol Brighton.

Arolygydd Cymheiriad cymwys gydag Estyn.

Rhagor o wybodaeth

Mae Sally ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer Doethuriaeth Broffesiynol mewn Addysg.