Aelodaeth
* Cymrawd yr Academi Addysg Uwch: FHEA
* Cymdeithas Genedlaethol Addysgu Saesneg: NATE
* English Speaking Union: ESU
* BERA
* UKLA
Cyhoeddiadau
Mulligan, R. and Watson, A. (2021). Reading and Writing poetry. Yn: R. Newman and A. Watson, gol., Practical Guide to Teaching, 3ydd argraffiad. Oxon: Routledge.
Proffil
Ymunais â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd ym mis Gorffennaf 2019 ac rwy'n addysgu ar y lefelau israddedig ac ôl-raddedig. Rwy'n diwtor pwnc ar y cwrs Saesneg Uwchradd TAR, rhaglen Saesneg Uwchradd TeachFirst ac yn 2019-20 cefnogais hyfforddeion GTP Saesneg Uwchradd yn eu lleoliadau FastTrack. Rwyf hefyd yn addysgu ar lefel israddedig ar y cwrs BA Addysg Gynradd gyda SAC ac yn yr adran Dyniaethau. Rwy'n goruchwylio myfyrwyr traethodau hir israddedig ac ôl-raddedig, yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau ymchwil. Cyn dechrau ym Met Caerdydd bûm yn gweithio ym maes addysg Saesneg Uwchradd am 13 blynedd gyda 5 mlynedd fel mentor TAR pwnc ysgol Saesneg a 2 flynedd arall fel Gwiriwr Allanol ANG ac Arweinydd Cwrs ANELU i ANG. Cefais y pleser a'r fraint o gefnogi nifer o'n disgyblion ifanc, talentog wrth iddynt gymryd rhan mewn gwahanol gystadlaethau cenedlaethol, yn cynnwys cystadleuaeth siarad cyhoeddus yr English Speaking Union a chystadleuaeth National Young Writers (barddoniaeth a stori fer).
Derbyniais radd BA mewn Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Caerlŷr, yn cynnwys blwyddyn ERASMUS ym Mhrifysgol Paris-Lodron University, Salzburg, Awstria. Arhosais yng Nghaerlŷr i gwblhau fy MA mewn Llenyddiaeth Saesneg ac Ymchwil Lenyddol, gan ddychwelyd i'r Ysgol Addysg yno, ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, i gwblhau TAR mewn Saesneg Uwchradd a Chyfryngau gyda TESOL. Rwyf wrthi'n ystyried opsiynau ar gyfer gwaith ymchwil pellach i addysgeg effeithiol yn yr ystafell ddosbarth Saesneg ac mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn
archwilio addysgu trawsgwricwlaidd ym Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu.
Diddordebau ymchwil
* Addysgeg drawsgwricwlaidd ym maes dysgu a phrofiad ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu
* Canfyddiadau athrawon Saesneg sydd ar ddechrau eu gyrfa o faes dysgu a phrofiad ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu
* Dulliau o addysgu darllen ac ysgrifennu barddoniaeth
* Ymarfer Adalw yn yr ystafell ddosbarth Saesneg
* Asesiad cymharol mewn ymarfer yn Saesneg
* Datblygu rhaglenni deallusrwydd artiffisial yn yr ystafell ddosbarth Saesneg
Dolenni Allanol
* Gwiriwr Allanol ANG hyfforddedig, Gwasanaeth Addysg ar y Cyd Consortiwm Canolbarth y De
* Hwylusydd ANELU i ANG hyfforddedig, Gwasanaeth Addysg ar y Cyd Consortiwm Canolbarth y De
* Arholwr Safon Uwch Llenyddiaeth Saesneg
* Arholwr TGAU Llenyddiaeth Saesneg
* Arholwr TGAU Iaith Saesneg