 |
Swydd: | Dirprwy Gyfarwyddwr y Ganolfan Hyfforddi Saesneg (ELTC) |
Ysgol: | Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd |
E-bost: | msidaway@cardiffmet.ac.uk |
Ffôn: | 029 2020 5993 |
Rhif Ystafell: | Q014 |
Ymchwil
Diddordebau Ymchwil:
Defnyddio apiau ffonau symudol i hyrwyddo annibyniaeth dysgwyr
Dysgu Cinesthetig wrth gaffael iaith
Cyhoeddiadau
Conference Papers:
March 2014 Learn English in Wales, Cardiff and Vale College,
Using Mobile Phones in a Learning Environment: Friend or Foe?
Proffil
Enillais radd BA (Anrhydedd) mewn Ieithoedd Modern gyda Chyfieithu (Ffrangeg a Sbaeneg) ym Mhrifysgol Sheffield yn 2009. Mae fy mhrofiadau personol fel myfyriwr rhyngwladol yn Ffrainc a’r Ariannir wedi ysbrydoli fy ymchwil cyfredol ynghylch hyrwyddo annibyniaeth dysgwyr ac ymgysylltiad dysgwyr trwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau dysgu ar y cyd â thechnoleg.
Dechreuais ddysgu yn 2010, ac enillais fy nghymhwyster CELTA yn International House (CLIC) Seville. Ar ôl gweithio mewn ysgolion iaith preifat yn ardal Caerdydd am flwyddyn, dychwelais i Seville yn 2011. Yno bûm yn dysgu dosbarthiadau Saesneg cyffredinol a dosbarthiadau arholiad Caergrawnt yn y Sefydliad Saesneg (ELI) tan fis Mehefin 2013. Ymunais â’r Ganolfan Hyfforddi Saesneg ym mis Gorffennaf 2013 fel Tiwtor Iaith Saesneg ar Gwrs Cyn-Sesiwn yr Haf cyn symud ymlaen i rôl Arweinydd Modiwl EAP ym mis Medi’r un flwyddyn. Ym mis Rhagfyr 2014, ymgymerais â rôl Rheolwr dros dro Y Ganolfan Hyfforddi Saesneg a chefais fy mhenodi yn Ddirprwy Gyfarwyddwr y Ganolfan ym mis Mawrth 2015.
Yn ogystal â chynorthwyo Cyfarwyddwr y Ganolfan Hyfforddi Saesneg i redeg y Ganolfan, rwy’n dysgu ar y Cyrsiau Cyn-Sesiwn a’r Cyrsiau Sylfaen Rhyngwladol Ar hyn o bryd, rwy’n dilyn y Dystysgrif Addysg mewn Addysg Uwch i Raddedigion (PgCTHE) ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd a fydd yn arwain at statws Cymrawd yr Academi Addysg Uwch.