Lisa Fenn

          Swydd:Darlithydd / Tiwtor TAR Cynradd
          Ysgol:​ Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd
​E-bost:lfenn@cardiffmet.ac.uk
​Ffôn:​029 2041 6565
​Rhif Ystafell:​B219

Diddordebau Ymchwil

Prosiect Gwyddoniaeth TAPS Cymru Gweithio fel rhan o dîm i ddylunio offeryn hunanasesu i ysgolion ac athrawon.

Proffil

Dechreuais weithio yn y proffesiwn dysgu ar ôl treulio 10 mlynedd yn gweithio yn y sector masnachol.  Enillais radd BA (Anrhydedd) gyda Statws Athro Cymwysedig yn 1999, wedi arbenigo mewn Mathemateg ac Addysg Gorfforol. Yn ddiweddarach, enillais radd Meistr mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth yn 2006. 

Erbyn hyn, mae gennyf bron i 20 mlynedd o brofiad dysgu; rwyf wedi dysgu pob grŵp oedran yn y sector Cynradd 3-11 oed.  Yn ystod fy amser yn yr ysgol, rwyf wedi bod yn arweinydd pwnc TGCh, Mathemateg a Rhifedd. Mae gen i brofiad helaeth o fonitro, gwerthuso ac adolygu safonau dysgu ac addysgu drwy’r ysgol gyfan.  Rwyf wedi bod yn Athro Lywodraethwr ac yn Aelod o Dîm Cyllid yr Ysgol fel Llywodraethwr.   Roeddwn yn mwynhau bod yn fentor ysgol a chefnogi myfyrwyr TAR a BA (Anrhydedd) i ddod yn athrawon y dyfodol.

Yn 2009, cefais fy secondio i Dîm Gwella Ysgolion yr Awdurdod Lleol fel Athro Mathemateg Ymgynghorol.  Yn y rôl hon, roeddwn yn gyfrifol am gefnogi pob un o’r 26 ysgol gynradd a’r 4 ysgol uwchradd yn yr awdurdod.  Bûm yn cynllunio ac yn cyflwyno hyfforddiant HMS, yn arsylwi a gwerthuso safonau dysgu ac addysgu gan roi adborth ysgrifenedig ac yn darparu cyngor cyn ac ar ôl Arolygiadau Estyn.  Roeddwn hefyd y rhan o fenter gan Lywodraeth Cymru i godi safonau mewn Mathemateg gan weithio gydag ysgolion i nodi’r disgyblion a fyddai’n cymryd rhan. 

Ers mis Ionawr 2016, rwyf wedi cael y fraint o ymuno â’r tîm o diwtoriaid a mentoriaid cydwybodol a brwdfrydig ar y rhaglen TAR Cynradd.  Rwy’n gyfrifol am fentora myfyrwyr TAR a RhAG ac yn ymdrechu i gyflwyno darlithoedd ysgogol ac arloesol mewn Gwyddoniaeth, Mathemateg a Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd. Rwyf hefyd yn gweithio fel rhan o brosiect ymchwil asesu TAPS Cymru i ddatblygu offeryn hunanasesu Gwyddoniaeth i ysgolion ac athrawon.  Roedd yn anrhydedd cael fy enwebu ar gyfer gwobr Cymrodoriaeth dan arweiniad myfyrwyr yn 2016.

Rwy’n hoffi ymarfer corff ac wrth fy modd yn defnyddio cyfleusterau gampfa’r brifysgol a mynychu’r ystod ardderchog o ddosbarthiadau ffitrwydd sydd ar gael.