Leanne Davies

​Swydd:​Cyfarwyddwr Rhaglen at gyfer y Dystysgrif Addysg Broffesiynol (PCE), Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PCET) a Pharatoi ar gyfer Dysgu
​Ysgol:​ Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd
​E-bost: leannedavies@cardiffmet.ac.uk
​Ffôn:​029 2041 7097
​Rhif Ystafell:​Q011

 

Proffil

Ers graddio mewn Rheoli Busnes Ewropeaidd yn 1992, rwyf wedi treulio rhan fwyaf fy ngyrfa yn Addysg Uwch, heblaw am gyfnod o dair blynedd fel Rheolwr Marchnata Rhyngwladol i gwmni diogelwch yn y Bari. Roedd hwn yn gyfle i fi weld sut mae busnesau yn gweithredu, ond penderfynais wedyn ddilyn gyrfa ym myd addysg a hyfforddiant yn hytrach na gwerthu a marchnata!  

Gweithiais i ddechrau fel Swyddog Prosiectau Ewropeaidd yn UWIC ac o 1999 ymlaen, fel darlithydd rhan amser a llawn amser yn dysgu TG a phynciau cysylltiedig â busnes ar nifer o raglenni Addysg Uwch ac Addysg Bellach, gan gynnwys BA Astudiaethau Busnes, HND Technoleg Bwyd a’r cwrs Sylfaen Rhyngwladol.   Bûm yn Gyfarwyddwr Rhaglen a Swyddog Achredu i’r Fframwaith Mynediad am sawl blwyddyn. Roedd y gwaith hwn yn cynnwys cydweithio â’r Rhwydwaith Coleg Agored a rheoli a chyflenwi cyfres o lwybrau ar Lefel 2 a 3 a oedd yn llwyddiannus iawn o ran targedu dysgwyr nad oeddynt yn rhai traddodiadol. Rhoddwyd cyfle i’r dysgwyr hynny ail-gysylltu ag addysg yn ddiweddarach y eu bywydau.

Rwyf wedi bod yn addysgu ar y rhaglenni Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol ers 2000 ac wedi bod yn Gyfarwyddwr Rhaglen i raglenni Tystysgrif Addysg Broffesiynol, Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol a Pharatoi ar gyfer Dysgu ers 2008. Rwy’n darlithio ar y rhain yn ogystal â rhaglenni eraill gan gynnwys TAR, PCET, BA Gwaith Ieuenctid a Chymunedol, BA Dyniaethau a BA Astudiaethau Addysgol.

Rwyf wedi cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau Menter, cynllunio a chyflenwi Hyfforddi’r Hyfforddwr a Sgiliau Cyflwyno Proffesiynol. Rwyf hefyd wedi cyflenwi nifer o gyrsiau menter pwrpasol i sefydliadau allanol gan gynnwys Cynulliad Cenedlaethol. Cymru, Dechrau’n Deg ac Ategi.   Roeddwn hefyd yn rhan o’r tîm ysgrifennu ar gyfer cyhoeddiad elfennau Deddfwriaeth y cymhwyster Anogwr Dysgu, a chyflenwi’r modiwl hwn ledled Cymru.  

Rwy’n aelod o’r Academi Addysg Uwch ac enillais radd Meistr mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth ym mis Mawrth 2014. Mae gennyf ddiddordeb mewn addysgeg ac andragogeg a’r sector PCET amrywiol, yn enwedig y modd y mae oedolion yn ymwneud ag addysg ar wahanol adegau o’u bywydau, a hefyd ar effaith addysg yn nhermau gwella hyder unigolyn a chyfleoedd gyrfa. Mae gennyf ddiddordeb hefyd yn y modd gaiff myfyrwyr rhan amser eu cefnogi o fewn amgylchedd Addysg Uwch. Mae cymhlethdodau dysgu oedolion yn golygu nad yw fy rôl fyth yn ddiflas. Dyna pam mai’r sector hwn yw prif ffocws fy ngyrfa hyd yma, ac erbyn hyn, mae’n alwedigaeth sy’n fwy na swydd i fi.

Mae gennyf ddau fab ifanc sy’n caru pêl-droed. Rwyf wedi cael fy ngorfodi i ddysgu rheolau’r bêl gron yn hytrach na’r bêl hirgron. Er hynny, rygbi yw fy nghariad cyntaf!