Kris Sobol

​Swydd:Uwch Ddarlithydd
​Ysgol:​ Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd
​E- bost:ksobol@cardiffmet.ac.uk
​Ffôn:​029 2041 7037
​Rhif Ystafell:​B217

 

Ymchwil

Aelodaethau:
• Cymrawd yr Academi Addysg Uwch (FHEA)

Diddordebau Ymchwil:
Effaith profiad mewn ysgol cyn y cwrs ar ddeilliannau i fyfyrwyr TAR Cynradd

Proffil

Rwy’n Uwch Ddarlithydd mewn Addysg Gynradd a Chymraeg yn yr Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol.  Mae fy mhrif rôl ar y Rhaglen TAR Cynradd ond rwyf hefyd yn dysgu ar y Rhaglen BA Astudiaethau Addysg.

Mae gennyf brofiad yn y sectorau addysg Cynradd ac Uwchradd ac rwyf wedi gweithio ym maes Addysg Uwch ers 1990. Dechreuais fy ngyrfa Addysg Uwch ym Mhrifysgol De Cymru, Casnewydd, yn arwain y cwrs cyfrwng Cymraeg ar raglen tair blynedd BA (Anrhydedd) Addysg Gynradd.  Yn dilyn hynny, treuliais gyfnod yn Iwerddon. Gwethiais yn Ysgol Gynradd St Catherine's Lawrence, Delgany fel Cynorthwyydd Dysgu i ddisgyblion AAA ag anghenion ychwanegol. Gweithiais hefyd fel Goruchwyliwr Profiad Ysgol i Goleg Froebel ac fel Darlithydd yn Sefydliad Celf a Dylunio Dunlaoghaire; yno roeddwn yn dysgu Datblygiad Personol a Sgiliau Astudio i oedolion a oedd yn dychwelyd i fyd addysg.

Rwyf wedi gweithio fel Arolygydd Tîm i Estyn; Cymedrolwr Allanol i Gynllun Colegau Cymru ac ar hyn o bryd, rwy’n Arholwr Allanol i Raglen BA Anrhydedd Astudiaethau Cynradd ym Mhrifysgol Bangor.

Rwyf ar hyn o bryd yn gweithio i gyflawni fy Noethuriaeth Broffesiynol mewn Addysg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.  Testun fy ymchwil yw datblygiad rhaglen goetsio gan gymheiriaid i’r Rhaglen TAR Cynradd.