Konstantina Kalogirou

​Swydd: Lecturer in Teacher Education and Professional Learning
​Ysgol:​ Cardiff School of Education and Social Policy
​E-bost:kkalogirou@cardiffmet.ac.uk

 

Proffil

Mae Konstantina yn Ddarlithydd mewn Addysg Athrawon a Dysgu Proffesiynol yn Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd ac yn addysgu yn y BA (Anrh) Addysg Gynradd gyda Statws Athro Cymwys (SAC), a'r rhaglen TAR Cynradd. Mae hefyd yn diwtor Prifysgol am leoliadau TAR ysgol gynradd. Cyn hyn roedd Konstantina yn athrawes Saesneg a Saesneg fel Iaith Ychwanegol, a Dirprwy Bennaeth Chweched Dosbarth Ysgol Uwchradd Cathays. Mae wedi ennill profiad amrywiol ar draws y sector addysg gan weithio fel Athrawes Saesneg yng Ngwlad Groeg, Lloegr ac yn fwyaf diweddar yng Nghymru.

Mae gan Konstantina BA (Anrh) mewn Iaith a Llenyddiaeth Saesneg o Brifysgol Aristotle Thessaloniki, Gwlad Groeg. Cwblhaoedd ei MA mewn Theatr Gymhwysol: Drama mewn Cyd-destunau Addysgol, Cymunedol a Chymdeithasol yng Ngholeg Goldsmiths, Prifysgol Llundain. Derbyniodd ei PhD mewn Addysgeg o Brifysgol Aristotle Thessaloniki yn 2018.

Diddordebau ymchwil Konstantina yw Addysgeg Ryngweithiol a Chaffael Ail Iaith, yn enwedig defnydd Drama mewn Addysg wrth addysgu a dysgu. Ar hyn o bryd mae'n astudio cymwyseddau gwahanol celfyddydau mynegiannol a threftadaeth ddiwylliannol mewn cyd-destunau addysgol. Mae wedi cyhoeddi am Ddrama mewn Addysg, Caffael Ail Iaith, a chymwysiadau Treftadaeth Ddiwylliannol mewn Addysg.

Mae wedi arwain sawl prosiect ymchwil, a ariannwyd ymhlith eraill gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, Sefydliad Ysgoloriaethau Gwladwriaeth Groeg (IKY), a fframwaith Erasmus+ yr Undeb Ewropeaidd.

Mae ei phrosiectau ymchwil presennol yn cynnwys:

* 2018-2020: A Town of Many: Recording Butetown's Religious Landscapes for Social Inclusion. Mewn cydweithrediad â Phrifysgol Bryste, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, ac Ysgol Uwchradd Cathays. Nod y prosiect yw darparu adnoddau addysgu seiliedig ar dreftadaeth i fewnfudwyr a ffoaduriaid sydd newydd gyrraedd.

* 2018-2021: VIA Culture: European Cultural Heritage for Vocabulary In Action. cydweithrediad â Phrifysgol Bryste, Prifysgol Aristotle Thessaloniki, Ysgol Ryngwladol Belgrade, Prifysgol Padova, ac Ysgol Uwchradd Cathays. Mae Via Culture yn bwriadu creu adnoddau addysgu seiliedig ar dreftadaeth ddiwylliannol a all gael eu defnyddio trwy Ddrama i hyrwyddo gwerthoedd Ewropeaidd a chaffael ail iaith (gweler prosiect VIA Culture).

* 2020- 2023: Finds Stories: Addressing mobility through object and people biographies. Mewn cydweithrediad â Phrifysgol Bryste, Amgueddfa Archaeolegol Zagreb, Ysgol Ryngwladol Belgrade, Amgueddfa Pêl-fasged Thessaloniki, a'r Sefydliad Archaeolegol Awstraliaidd yn Athens. Nod Finds Stories yw ymchwilio i effaith ddiacronig symudedd o fewn a rhwng y Balcanau i grwpiau lleiafrifol a chreu adnoddau trawsgwricwlaidd sy'n hybu dysgu iaith a chynhwysiant cymdeithasol.

Cyhoeddiadau

Kalogirou, K., Stamenković, D., Fernée, C. L. and Trimmis, K. P. (2020) 'A Town of Many': Drama and Urban Heritage Landscapes as Mediums for Second Language Acquisition and Social Inclusion. The Global Education Review. 7(4), 9–28. Available at: https://ger.mercy.edu/index.php/ger/article/view/558 

Trimmis, K.P., Fernee, C.L. and Kalogirou, K. (2020). Evidence on the impact of COVID-19 to English as Additional Language (EAL) students in UK public schools. Mitigation approached through digital heritage. UK Parliament, Education Committee, The impact of COVID-19 on education and children's services. Available at: https://committees.parliament.uk/writtenevidence/5685/pdf/ 

Kalogirou, K. and Trimmis, K.P. (2020). Via Culture: Drama based, heritage infused teaching resources for language learning and social inclusion. Drama Magazine, 26(2), 19 –23. London: National Drama

Trimmis, K.P. and Kalogirou, K. (2018) Performative Archaeology: Exploring the Use of Drama in Archaeology Teaching and Practice. Scenario Journal. 12(2), 30–45. Available at: https://journals.ucc.ie/index.php/scenario/article/view/scenario-12-2-3/pdf-en 

Kalogirou, K., Beauchamp, G., and Whyte, S. (2017) Vocabulary Acquisition via Drama: Welsh as a second language in the primary school setting. The Language Learning Journal. 45(3), 332–343. London: Taylor & Francis. Available at: https://doi.org/10.1080/09571736.2017.1283351

Kalogirou, K., (2016). Step in Drama. Reach English Language Acquisition. Scenario Journal. 10(1), 33–48. Available at: https://journals.ucc.ie/index.php/scenario/article/view/scenario-10-1-3 

Kalogirou,K., Sarwar, S., and Trimmis, P.K. (2016) Let's meet the Red Lady of the Paviland: Delivering the Prehistoric Narratives in Museum Education. Drama Magazine. 22(2), 9–15. London: National Drama.