John Caddick

​ ​ ​ ​ ​John Caddick             Swydd:​Technegydd Arddangoswr
​Ysgol:​ Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd
Ffôn:​029 2041 6497
​Rhif Ystafell:​B115

 

Proffil

Rwyf yn Dechnegydd Arddangos technolegau mewn celfyddydau mynegiannol.
Technoleg cerddoriaeth a theatr dechnegol yw’r rhain yn bennaf.

Rwyf yn darparu cymorth i Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd gyda chylch gwaith sy’n cynnwys TGCh arwahanol, iechyd a diogelwch, systemau clyweledol a rheoli adnoddau.
F’arbenigeddau pwnc yw technolegau stiwdio a chynyrchiadau byw. Mae’r rhain yn cynnwys dylunio sain, atgyfnerthu sain, recordio/tracio a chymysgu, trin a dilyniannu awdio analog a digidol. Rwyf hefyd yn ymarfer ac yn tiwtora dylunio goleuadau.
Rwy’n arddangos i fyfyrwyr sydd wedi ymrestru ar y cyrsiau canlynol:
TAR Addysg Uwchradd-Cerddoriaeth, TAR Addysg Uwchradd-Drama a’r llwybrau drama sy’n rhan o’r rhaglen BA Dyniaethau yn yr Ysgol.
Mae modiwlau penodol yn cynnwys:
Technoleg Cerddoriaeth, Ymarferwyr Theatr, Dulliau o Gyfarwyddo, Safbwyntiau Drama a thraethawd estynedig sy’n gyfwerth â Phrosiect Perfformiad.
Rwyf yn gynrychiolydd gweithle dros aelodau cangen Met Caerdydd o Unison, yr undeb llafur i wasanaethau cyhoeddus.
Ers 1993, rwyf wedi gweithio fel technegydd sain ar fy liwt fy hun. Mae fy nghleientiaid yn cynnwys cerddorion proffesiynol yn UDA ac Ewrop a lleoliadau cerddoriaeth ledled Caerdydd. Rhwng '93 a 2004, roedd hyn yn bennaf yn golygu gwaith ar deithiau cyngherddau rhyngwladol, radio a theledu. Ar ôl ymuno â Met Caerdydd yn 2003, rwyf yn parhau i beiriannu mewn stiwdios recordio i gerddorion a chleientiaid rhyngwladol.
O’r blaen, rwyf wedi cael fy nghyflogi’n Rheolwr Stiwdio yn Radio Glamorgan a mecanydd mewn modurdy adfer ceir clasurol. Dyfarnodd Prifysgol Caerdydd BSc. Astroffiseg i mi yn 1993. Rwyf yn gitarydd ac yn gasglwr a throellwr recordiau 45 ‘rockabilly’ a ‘rhythm 'n' blues’, yn adferwr hen offer sain ac yn adferwr ceir clasurol..