Jo Farag

​Swydd:Arweinydd Rhaglen am TAR TG a Chyfrifiaduro Uwchradd
​Ysgol:​Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd
​E-bost:jfarag@cardiffmet.ac.uk
​Ffon:​029 20416556
​Rhif Ysatfell:​A031

 

Aelodaeth

Cyngor y Gweithlu Addysg

Diddordebau Ymchwil

• Effaith prosesau cyfrifiadurol ar y ffordd rydym ni'n byw, yn gweithio, yn astudio ac yn rhyngweithio â'n gilydd a'n hamgylchedd.

• Gweithredu Meddwl Cyfrifiadurol yn yr ysgol uwchradd

• Datblygu Llythrennedd Digidol yn yr Ysgol Uwchradd career i

Prosiectau

Ymrwymiad Adnoddau a Deunyddiau Cymorth Caerdydd - CA3 Datgloi’r Cyfrifiadur Sut mae Arweinwyr Digidol myfyrwyr yn cefnogi’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol Rhwydwaith Ymarferwyr Arweinwyr Digidol – cefnogi ysgolion wrth weithredu’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol Athrawes Adobe Spark – menter Hwb i greu adnoddau i athrawon (dylunio am y we) Ymgynghorydd dros Gyfrifiadureg 'TGAU' a Lefel 'A' Llywodraeth Cymru Ymgynghorydd dros 'Technolegau Digidol' 'TGAU' a Lefel 'A' Cymwysterau Cymru

Proffil

Fi yw Arweinydd Rhaglen TAR Uwchradd - TG a Chyfrifiaduro ac Arweinydd Cwricwlwm TGCh a Chyfrifiadureg (Ysgol Uwchradd Caerdydd) yn ogystal â bod yn Diwtor Personol a Mentor i fyfyrwyr Uwchradd a TAR. Ar ôl ennill Gradd mewn Addysg gan arbenigo mewn Cyfrifiaduro, arbenigedd Mathemateg TAR Cyfrifiaduro ac MSc mewn Cyfrifiaduro, rwyf wedi addysgu Mathemateg a Chyfrifiaduro am fwy nag ugain mlynedd mewn ystod o ysgolion uwchradd yng Nghymru ac Emiradau Arab Unedig, ac wedi dal amrywiaeth o rolau fel Pennaeth Adran, Pennaeth Blwyddyn a rôl Arweinyddiaeth Uwch.  

Ymunais ag Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd yn 2019 Fel Uwch Ddarlithydd mewn TG a Chyfrifiaduro ac rwyf hefyd yn cymryd rhan mewn sawl prosiect Digidol. Rwyf yn Arholwr Lefel A i CBAC ac yn Ymgynghorydd i Cymwysterau Cymru. Gweithiais o'r blaen fel Prif Ymarferwr i CSC i gefnogi ysgolion wrth weithredu'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol.