Emily Hillier

​ ​ ​ ​ ​Emily Abbinett ​Swydd:​Darlithydd mewn Astudiaethau Addysg (Astudiaethau Plentyndod Cynnar)
​Ysgol:​ Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd
​E- bost:eabbinett@cardiffmet.ac.uk
​ Ffôn:029 2041 6599
​Rhif Ystafell:​Q015

 

Ymchwil

Grwpiau Ymchwil:
• Grŵp Ymchwil Addysgol a Chymdeithasol (ESRG)

Aelodaethau:
• Cymdeithas Astudiaethau Addysg Prydain (BESA)
• Cymdeithas Ymchwil Addysg Prydain (BERA)

Diddordebau Ymchwil:
• Anghenion addysgol arbennig
• TGCh mewn Addysg
• Technolegau cynorthwyol
• Methodolegau ansoddol

Prosiectau

Prosiect​Cyllid​Blwyddyn​Rôl
​'An Early Evaluation of iPad Implementation across Primary Schools in Cardiff'​2013 - 2014​Cynorthwyydd Ymchwil
​Interactive Technologies in Language Teaching (iTILT) http://www.itilt.eu/ ​Rhaglen Dysgu Gydol Oes yr Undeb Ewropeaidd​2011 - 2013​Cynorthwyydd Ymchwil
​‘Developing Functional Literacy for 8-14 Year Olds in Wales: An Early Assessment of the Cardiff Language, Literacy and Communication Strategy.’Llywodraeth Cynulliad Cymru​2010 - 2011​Cynorthwyydd Ymchwil
​‘Trainee teachers' physical and mental wellbeing: a study of university and school experience support provision.’​ESCalate (Canolfan Pynciau yr Academi Addysg Uwch)​2010 - 2011​Cynorthwyydd Ymchwil
 

Proffil

Ymunodd Emily Abbinett ag Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd gyntaf ym mis Awst 2010 fel Cynorthwyydd Ymchwil yn gweithio ar brosiect ymchwil a ariannwyd gan ESCalate wrth gwblhau ei MSc mewn Dulliau Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn dilyn hynny, gweithiodd Emily ar amrywiaeth o wahanol brosiectau ymchwil gan gynnwys prosiect Ewropeaidd o'r enw Interactive Technologies in Language Teaching (iTILT) gyda 6 gwlad bartner arall o blith 27 gwlad yr UE a Thwrci. Nod y prosiect oedd hyrwyddo arfer dda wrth ddysgu ail iaith gyfathrebol gan ddefnyddio'r bwrdd gwyn rhyngweithiol (http://www.itilt.eu/).

Yn 2013, cynigiwyd swydd ddarlithio amser llawn i Emily ar y cwrs Astudiaethau Addysg BA (Anrh.) yn Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd. 

Ochr yn ochr â’i hymrwymiadau addysgu, mae Emily hefyd yn astudio ar gyfer Ph.D. gan astudio rôl technolegau cynorthwyol ar gyfer disgyblion â nam ar eu golwg. Mae’r ymchwil yn anelu at ddefnyddio ystod o fethodolegau arloesol i archwilio sut mae technoleg gynorthwyol yn cefnogi dysgwyr â nam ar eu golwg mewn lleoliad cynradd prif ffrwd, gan ddefnyddio cysylltiadau a sefydlwyd gyda'r RNIB ac athrawon  arbenigol sy’n ymwneud â disgyblion gyda nam ar eu golwg yn Ne Cymru.