Grwpiau Ymchwil:
Grŵp Ymchwil y
Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRG)
Diddordebau Ymchwil:
• Theatr Gymunedol
• Perfformio cyfoes wedi'i ddyfeisio
• Ymarfer fel Ymchwil
• Perfformio ar y safle
• Perfformio a lle
• Archifau, hanesion llafar ac ailberfformio
Ymunais
â'r adran yn 2019, ar ôl gweithio’n flaenorol i Brifysgol Caerwrangon, Salford
ac Aberystwyth a Swydd Gaerloyw. Rwyf wedi bod yn ymarferydd theatr ar fy liwt fy
hun ers dros ddeng mlynedd, gan weithio ar draws meysydd gwneuthuriad
perfformiad cyfoes, perfformio gyda phobl ifanc a chreadigrwydd ym maes addysg.
Mae fy ngwaith unigol yn ymwneud â chreu perfformiadau o ddogfennau archifol ac
mae fy ngwaith sy'n cael ei arwain gan bobl ifanc yn archwilio ac yn
rhyngweithio â gwahanol ofodau a dulliau perfformio.
Mae gen
i PhD yn seiliedig ar ymarfer o Brifysgol Aberystwyth (2016) yn ymchwilio i sut
y gellir ystyried dulliau’r gorffennol o wneud perfformiad amgen heddiw, gyda
ffocws ar y lleoliad ac archif Canolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd. Mae gen
i MPhil mewn Perfformio (2013) o Brifysgol Birmingham a Gradd (2007, MDrama)
mewn Ymarfer Perfformio Cyfoes o Brifysgol Caint.
Rwyf
wedi perfformio ac arddangos gwaith perfformio yn y DU mewn amryw o safleoedd,
gan gynnwys: coedwigoedd, trenau, ffatrïoedd a theatrau. Rhwng 2007 a 2012
roeddwn yn berfformiwr cyswllt gyda'r gwneuthurwyr theatr Stan's Cafe, gan fynd
ar daith yn rhyngwladol i wyliau a lleoliadau. Rwyf wedi dyfeisio gweithiau
perfformio newydd gyda Talking Birds, Cyrff Ystwyth ac Ali Matthews.
Mae fy
arfer cyfredol yn ymwneud â defnyddio perfformio ac ymarfer sy'n ymgysylltu'n
gymdeithasol fel platfform i archwilio, lleisiol/corfforol a brwydro yn erbyn
arwahanrwydd cymdeithasol ac unigrwydd.
Fy
modiwlau cyfredol yw:
Persbectifau
Drama (Blwyddyn 1)
Ymarferwyr
Theatr (Blwyddyn1)
Cymhwyso
Drama (Blwyddyn 2)
Theatr
Arall (Blwyddyn 3)
Gwybodaeth
Bellach:
Fy
ngwefan bersonol yw www.kerriereading.com