Ymunais â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd fel Uwch Ddarlithydd mewn addysg gwyddoniaeth Uwchradd fel arbenigwr Ffiseg ym mis Medi 2015. Yn athrawes gyda dros 20 mlynedd o brofiad, rwyf wedi dysgu mewn tri Awdurdod Lleol, gan ddal swyddi fel athrawes Cynghori Gwyddoniaeth, Pennaeth Gwyddoniaeth, cydlynydd CASE ac athrawes ffiseg a gwyddoniaeth. Graddiais o Goleg Prifysgol Abertawe ym 1994 gyda PhD mewn Ffiseg a chwblhau fy TAR yn Abertawe yn syth ar ôl hynny.
Yn ogystal â fy ngwaith ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, rwy’n diwtor TAR ar gyfer Gwyddoniaeth yn y Brifysgol Agored, yn fentor allanol ar gyfer Sefydlu ANG a Meistr mewn Ymarfer Addysgol. Rwy'n darparu cyngor fel ymgynghorydd ar addysgeg effeithiol, cwricwlwm gwyddoniaeth a datblygu sgiliau ac rydw i'n gyfforddus yn hyfforddi ac yn gweithio gydag athrawon yn yr ystafell ddosbarth yn ogystal ag arwain HMS. Fel arbenigwr Gwyddoniaeth OFQUAL, rwy'n ymwneud ag adolygu'r cwricwlwm gwyddoniaeth a chymryd rhan mewn astudiaethau cymharol ar gyfer cymwysterau TGAU a Safon Uwch.
Sbardunwyd fy niddordeb mewn Sgiliau Meddwl ac Asesu ar gyfer dysgu trwy CASE (Cyflymiad Gwybyddol trwy Addysg Wyddoniaeth) a fy ngwaith dilynol ar hyn gyda Choleg King's Llundain.