Dr Jan Huyton

​ ​ ​ ​ ​ Swydd:​Uwch Ddarlithydd BA Gwaith Ieuenctid a Chymunedol, ac MA Addysg (Rheoli Ymarfer Cymunedol)
​Ysgol:Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd
E-bos:jhuyton@cardiffmet.ac.uk
​ Ffôn:​029 2041 6499
​Rhif Ystafell:B112a

 

Cyhoeddiadau

Dyfarnwyd gan gymheiriaid:
Dodge, R., Daly, A.P., Huyton, J., and Sanders, L.D. (2012) 'Defining Wellbeing' in International Journal of Wellbeing, 2 (3) : 222-235

Huyton, J (2009) 'Significant Personal Disclosure: exploring the support and development needs of higher education tutors engaged in the emotion work associated with supporting students'. Journal of Learning Development In Higher Education [on-line]

Pennod Llyfr:
Huyton, J. (2013) 'Personal Tutoring in Academic Work' in Gornall, L., Cook, C., Daunton, L., Salisbury, J and Thomas, B (eds) Academic Working Lives: Experience, Practice and Change London: Bloomsbury Academic

Papurau cynhadledd:
Huyton, J. (2013) 'The Personal Tutoring Tradition in UK Universities - prospects for consistency and sustainability of an invisible practice' 15th Biennial EARLI conference for Research on Learning and Instruction, Munich 27-31 August 2013

Huyton, J (2012) 'Helping and Supporting Students: a case for the development of collegiality, dialogue and 'practice'' February 7, 2012 SRHE Academic Practice Network

Huyton, J (2011) 'Reclaiming the back-stage: collegial approaches to professional development for personal tutors' December 7-9, 2011 SRHE Academic Practice Network

Huyton, J., Sanders, L., & Hillier, E (2011) ' Factors affecting the wellbeing of trainee teachers' Higher Education Academy ESCalate funded study. Teacher Education Advancement Network Conference ' Mental Health and the Curriculum; making the connections in Teacher Education' March 2011, University of Cumbria

Huyton, J., Sanders, L., & Hillier, E. (2011)' Wellbeing factors in the vocational preparation of student teachers for the school experience placement' Higher Education Academy ESCalate-funded study ESCalate conference, April 2011, Liverpool Hope University

Huyton, J (2009) 'Toeing a line? Tutors working and the boundary between pedagogy and therapy' April 2009, 3rd International Personal Tutoring Conference (HEA/NACADA)

Huyton, J (2008) 'Doing the Right Thing? Experiences and development needs of academics in student support interactions' December 2008, Society for Research Into Higher Educational Annual Conference

Huyton, J (2008) 'A Question of Time? Perceptions of change in the volume and intensity of student support needs' December 2008, Society for Research Into Higher Education Annual Student Conference

Huyton, J (2008) 'Ethical Issues in Individual Student Support' November 2008, Annual SEDA Conference

Huyton, J (2008) 'Emotional Support: who offers it and who needs it?' March 2008, 5th Learning Development in Higher Education Symposium

Adroddiadau Ymchwil:
Huyton, J. & Sanders, L. (2011) 'Higher Education Academy Subject Centre for Education (ESCalate) Themed funding: Student Well-being Grant Project Final Report 'Trainee teachers' physical and mental wellbeing: a study of university and school experience provision' 26th September 2011

Prosiectau

Prosiect Cyllid Swm Blynyddoedd Partner(iaid)
Adnodd Datblygu Staff Tiwtora PersonolCronfa Datblygu Academaidd LTDU£3,0002012-13Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu Met Caerdydd
​Cynllun Peilot Methodoleg Athroniaeth Gymunedol
Rhaglen Mewnwelediad Strategol ​£2,500​2013-14​Datblygu Cymunedol Cymru
​Community Philosophy Motivations and Outcomes​2014-15​Philosophy in Pubs
​The Thinking Allowed Project​NIACE​£400​2015-15Ymddiriedolaeth St Giles a Thîm Ehangu Mynediad Met Caerdydd

Proffil

Mae Dr. Jan Huyton wedi bod yn Uwch Ddarlithydd yn Ysgol Addysg Met Caerdydd ers 2004 pan ddaeth yn Gyfarwyddwr Rhaglen rhaglen israddedig Addysg Gymunedol, ar ôl treulio 3 blynedd  fel Cyfarwyddwr Rhaglen rhaglen israddedig Astudiaethau Tai Met Caerdydd. Yn ystod yr amser hwn cyflawnodd Jan y TAR (PCET) a chymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch. Bellach mae gan Jan rôl ychwanegol fel deilydd Portffolio Datblygiad Personol (PDP) yr Ysgol Addysg a Chydlynydd Tiwtora Personol. Roedd ei thraethawd doethuriaeth ym Mhrifysgol Caeredin  yn ymdrin a rôl tiwtora personol yn addysg uwch y DU. Roedd yr astudiaeth hon yn cyfuno theori ddeongliadol a beirniadol gan ddefnyddio dulliau ymarfer myfyriol arloesol.

 

Graddiodd Jan gyda BA (Anrh) yn Saesneg o Brifysgol Lancaster ym 1987. Ar ôl blynyddoedd lawer o brofiad yn y sector gwirfoddol, gan gynnwys tai, datblygu cymunedol ac addysg, dychwelodd i'r byd academaidd, gan ennill MSc (rhagoriaeth) mewn Tai o Brifysgol Caerdydd, a phenderfynodd ddewis gyrfa academaidd.

 

Mae Jan wedi cyfuno ei diddordeb ehangach mewn sefydliadau addysg uwch, gan reoli cyflwyno rhaglenni astudio ar gyfer cydweithwyr o Brifysgol King Saud a phrifysgolion eraill o wledydd Arabaidd y Gwlff. Dyluniwyd y rhaglenni o amgylch rheoli a gwella ansawdd mewn addysg uwch.

 

Derbyniodd Jan wobr Absenoldeb Ymchwil Estynedig Caerdydd yn 2008, ac yn ystod yr amser hwnnw cynhaliodd a lledaenodd ganfyddiadau arolwg ar-lein ledled y DU yn ymchwilio i brofiadau tiwtoriaid addysg uwch. Mae canlyniadau'r arolwg hwn, ynghyd â chanfyddiadau ei hymchwil doethuriaeth, yn sail i farn Jan ar gyflwr tiwtora personol yn y DU, a'r angen am ddiwygio radical.

 

Yn 2010 derbyniodd Jan grant ymchwil gan Ganolfan Pwnc Addysg yr Academi Addysg Uwch (ESCalate). Roedd y wobr hon yn hwyluso ymchwil i les emosiynol a chorfforol athrawon dan hyfforddiant, gyda diddordeb arbennig yn effaith arweiniad Fitness to Teach. Gwnaed yr ymchwil gyda chyd-aelodau’r tîm Dr Lalage Sanders (Cydlynydd Astudiaethau Graddedig, Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd) ac Emily Hillier (Cynorthwyydd Ymchwil, Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd).

 

Mae Jan yn dysgu ar draws nifer o raglenni addysg broffesiynol israddedig ac ôl-raddedig ac mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn dysgu yn y gweithle ar raglenni addysg uwch sydd wedi'u hachredu'n broffesiynol. Mae hi hefyd yn arbenigo mewn dysgu dulliau ymchwil ansoddol, gyda ffocws penodol ar ddulliau arloesol ar gyfer ymchwil fyfyriol, ryddfreiniol.

 

Mae Jan wedi dal nifer o swyddi arholwyr allanol. Ar hyn o bryd mae hi'n arholwr allanol ym Mhrifysgol Aberdeen lle mae'n arholi'r rhaglenni BA a MA Datblygiad Proffesiynol, y BA Datblygu Cymunedol a Dysgu, a'r rhaglenni cysylltiedig. Roedd Jan hefyd yn arholwr allanol ar y rhaglen MA Ieuenctid/Iechyd a Datblygu Cymunedol ym Mhrifysgol De Montfort (DMU), ac roedd hefyd yn arholwr allanol yn DMU ar yr MA Theori ac Ymarfer Rhianta. Cyn hynny, roedd hi'n arholwr allanol ar y Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg Gymunedol ym Mhrifysgol Strathclyde. Mae Jan yn gadeirydd ac aelod panel rheolaidd o ddilysiadau academaidd ac adolygiadau cyfnodol ar gyfer rhaglenni israddedig ac ôl-raddedig. Mae hi hefyd yn cyfrannu at baneli dilysu proffesiynol ar gyfer yr Asiantaeth Ieuenctid Genedlaethol.

 

Ar ôl cynnal diddordeb mewn tiwtora personol a lles staff a myfyrwyr, mae Jan hefyd yn gweithio ar y maes newydd o Athroniaeth Gymunedol. Yn athronydd cymunedol gweithredol ei hun, mae Jan hefyd yn gweithio ar nifer o brosiectau ymchwil ac ymarfer sy'n edrych ar bwrpas a manteision athroniaeth gymunedol mewn cyd-destun datblygu cymunedol ac addysg gymunedol, yn ogystal ag edrych ar gymhellion a manteision ar gyfer unigolion a grwpiau. Mae Jan yn gweithio'n agos gyda'r sefydliad cenedlaethol Philosophy in Pubs (PiPS) http://philosophyinpubs.co.uk/ a bydd yn annerch cynhadledd flynyddol PiPs yn 2015 i rannu canlyniadau ei hymchwil a'i harfer.

 

 Mae Jan yn aelod gweithgar o Grŵp Cadwraeth Camlas Pontypridd http://www.pontypriddcanalconservation.com/ a bu'r gwaith hwn yn ysbrydoliaeth i'w gwaith ysgrifennu creadigol yn y traddodiad seicoddaearyddiaeth. Yn ddiweddar, cyhoeddwyd cerdd gan Jan yn y casgliad Behind Many Doors, a ariennir gan Lenyddiaeth Cymru http://www.accentpress.co.uk/behind-many-doors.

 

 Mae Jan yn lywodraethwr ysgol gweithredol, ac ar hyn o bryd mae'n datblygu diddordeb ymchwil ym maes llywodraethiant (ysgolion a'r sector gwirfoddol).

 

Rhagor o wybodaeth

Grwpiau Ymchwil:
• Grŵp Ymchwil Addysgeg ac Andragogeg (PARG)


Aelodaethau:

• Cymdeithas Ymchwil Addysg Prydain (BERA)
• British Education Leadership and Management Association (BELMAS)
•Society for Research into Higher Education (SRHE)
• Cymrawd yr Academi Addysg Uwch (FHEA)

Diddordebau Ymchwil:
• Tiwtora Personol mewn Addysg Uwch
• Dysgu yn y Gweithle a Datblygiad Proffesiynol
• Ffiniau a Moeseg Ymarfer Proffesiynol
• Yr Amgylchedd Adeiledig
• Gwaith Cymunedol
• Athroniaeth Gymunedol
• Llywodraethiant (addysg a sectorau gwirfoddol)

Goruchwyliaeth Ddoethurol:
Ar hyn o bryd mae Jan yn goruchwylio PhDs ac EdDs yn y meysydd canlynol:
Llesiant myfyrwyr
Myfyrwyr fel partneriaid
Myfyrwyr fel gwirfoddolwyr
Ymarfer Myfyriol
Priodoleddau Graddedigion


Byddai Jan yn croesawu’r cyfle i oruchwylio gwaith doethuriaeth ym meysydd llywodraethiant, ac athroniaeth gymunedol.

Mae Jan hefyd yn brofiadol fel arholwr allanol PhD a byddai'n croesawu ymholiadau am waith pellach yn y maes hwn.