Amanda Renwick

​ ​ ​ ​ ​ ​Swydd:​Pennaeth yr Adran Datblygiad Proffesiynol
​Ysgol:​ Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd
​E-bost:arenwick@cardiffmet.ac.uk
​ Ffôn:​029 2041 6575
​Rhif Ystafell:C204

 

Ymchwil

Grwpiau Ymchwil:
• Grŵp Ymchwil Addysgeg ac Andragogeg (PARG

Aelodaeth:
• Cyngor Prifysgolion ar gyfer Addysg Athrawon (UCET)

Diddordebau Ymchwil:

• Asesu mewn addysg ôl-16
• Hunaniaethau Eidalo-Gymreig
• Addysg gymharol

Cyhoeddiadau

 Penodau llyfrau:
Armitage, A and Renwick, A (2008) Assessment in FE London: Continuum

Armitage, A, Bryant, R, Dunnill, R, Flanaghan, K, Hayes, D, Hudson, A, Kent, J, Lawes, S and Renwick, M (2007) 3rd edition Teaching and Training in Post- Compulsory Education Open University Press

Hayes, D.(ed) (2000) chapter : ‘The Europeanisation of the Curriculum’ in Debating the Millenium Canterbury Christ Church College

Proffil

Rwyf wedi treulio 30 mlynedd ym myd addysg, yn addysgu yn y sector addysg uwch yn bennaf (ers 1990), ond hefyd mewn ysgolion uwchradd, lleoliadau addysg oedolion ac mewn addysg bellach am gyfnod byr.

Treuliais fy mlynyddoedd cyntaf mewn addysg uwch fel Dirprwy Gyfarwyddwr Swyddfa Ryngwladol fawr yng Ngholeg Eglwys Crist Caergaint, yn datblygu a marchnata rhaglenni addysg athrawon ar gyfer gweithwyr proffesiynol, yn trefnu cyfnewidiadau Erasmus ac yn cydlynu prosiectau rhyngwladol gydag aelodau eraill o staff y brifysgol.

Yna, fel Cyfarwyddwr Addysg Barhaus, dechreuais gymryd rhan yn y gwaith o ddarparu cyrsiau byr a dechreuais addysgu rhaglenni PCET, gan ddod yn gyfrifol yn y pen draw am reoli darpariaeth y rhaglenni hyn mewn masnachfraint gyda nifer o golegau Addysg Bellach yn Swydd Caint a De Llundain.

Symudais i UWIC yn 2006 i barhau i gyflwyno rhaglenni PCET; dyma fy mhrif ddiddordeb addysgu a ffocws hyd heddiw. Cefais fy mhenodi’n Bennaeth yr Adran Datblygiad Proffesiynol ym mis Rhagfyr 2010.

Fel carwr popeth Eidalaidd, sydd wedi byw a gweithio yn yr Eidal, rwyf wedi ymddiddori’n ddiweddar yn y ffyrdd yr effeithiodd diwylliant yr Eidal ar gymunedau yn Ne Cymru yn gynnar yn y ganrif ddiwethaf, ac yn y 'diwylliant caffi' yn enwedig.