Ymchwil>Cymunedau Bwriadol>Beth yw Cymunedau Bwriadol?

Beth yw Cymunedau Bwriadol?

​Mae gan gymunedau bwriadol (ICs) hanes hir a sefydledig, yn fwyaf arbennig fel sefydliadau crefyddol, ond nodweddir pob un, i ryw raddau neu'i gilydd gan rai nodweddion cyffredin, yn bennaf:

  • Anesmwythyd neu anfodlonrwydd ynghylch rhai agweddau ar y gymdeithas y maent yn byw ynddi

  • Cred neu system werthoedd a rennir

  • Argyhoeddiad bod ffordd 'well' o fyw

Yn y DU, gwreiddiwyd mudiad Diggers yr 17eg ganrif, fel y nododd Gerrard Winstanley ym 1649 mewn 'cydberthynas ecolegol rhwng bodau dynol a natur, gan gydnabod y cysylltiadau cynhenid rhwng pobl a'u hamgylchedd'. Mae'r ethos hwn wedi bod yn sail i lawer o'r cymunedau bwriadol a sefydlwyd yn y canrifoedd dilynol, ac mae'n amlwg iawn mewn llawer o ddatblygiadau heddiw.

Mae'r 21ain ganrif wedi gweld cynnydd sylweddol mewn diddordeb yn y modd y gallai cymunedau bwriadol gyfrannu at weledigaeth newydd ar gyfer cymdeithas: maent yn ceisio mynd i'r afael â dau bryder cydberthynol sef tai a chymuned, y mae'r ddau ohonynt dan bwysau cynyddol mewn cymdeithas sy'n newid yn gyflym. Mae pryderon amgylcheddol hefyd yn sail i lawer ohonynt, gan adlewyrchu symudiad cymdeithasol tuag at faterion cynaliadwyedd a llai o ddefnydd o adnoddau cyfyngedig.

Nid yw cymunedau bwriadol yn ffenomen arbennig o Brydeinig na hyd yn oed Ewropeaidd; fe'u ceir ym mhob cyfandir ac ar draws ystod o ddiwylliannau. Maent yn amrywio o fentrau cydweithredol, i gyd-drigo, eco-bentrefi, comiwnau, a chymunedau crefyddol / ysbrydol, er bod mathau eraill hefyd yn bodoli nad ydynt yn hawdd eu dosbarthu. Mae rhai wedi para a ffynnu, eraill wedi bod yn fwy byrhoedlog, ac mae eraill eto wedi parhau i fod yn ddelfryd neu'n weledigaeth, heb gael eu gwireddu byth.  

Er bod y gymuned academaidd wedi dechrau ymgysylltu â rhai o'r cwestiynau ymchwil sy'n dod i'r amlwg, nid oes canolfan ymchwil a menter gyffredinol gydlynol wedi'i sefydlu, yn y DU hyd yma. Mae deall cymunedau bwriadol yn peri heriau i ystod o ddisgyblaethau, yn anad dim pensaernïaeth, cymdeithaseg, astudiaethau cymunedol, tai /cynllunio, iechyd/gofal cymdeithasol a seicoleg.

Mae traddodiad cyfoethog o lenyddiaeth Utopaidd sy'n disgrifio ac yn trafod cymdeithasau amgen a 'gwell'.  Mae astudiaethau iwtopaidd yn cysylltu'r gwyddorau cymdeithasol ag athroniaeth, ysgrifennu creadigol, celf a dylunio, hanes a llenyddiaeth Saesneg (ymhlith eraill).  Bydd y grŵp ymchwil arfaethedig yn rhyngddisgyblaethol, gan dynnu ffiniau cymunedau bwriadol mor eang â phosibl.

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd mewn sefyllfa ragorol i fod ar flaen y gad o ran mentrau ymchwil a menter mewn perthynas â cymunedau bwriadol. Mae partneriaeth â Chymdeithas Tai Bron Afon wedi darparu astudiaeth PhD wedi'i hariannu sy'n edrych ar fodelau cyd-drigo ar gyfer tai cymdeithasol yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi’n glir ei chefnogaeth i syniadau newydd sy’n cysylltu tai a’r gymuned, ac mae  Deddf Tai (Cymru) 2014  yn cynnwys darpariaethau sydd wedi’u cynllunio i gynorthwyo i sefydlu Cymdeithasau Tai Cydweithredol.