Ymchwil>Cymunedau Bwriadol>Symposiwm 2021

Symposiwm 2021

 

Professor Bill Metcalf

Mae Bill yn Athro Cysylltiol (Anrh) ar gyfer yr Ysgol Ymchwiliad Hanesyddol ac Athronyddol, Prifysgol Queensland ac yn ddarlithydd Atodol i Ysgol yr Amgylchedd a Gwyddoniaeth, Prifysgol Griffith. yn ychwanegol at hyn mae'n olygydd ac ymchwilydd hunangyflogedig.  Mae Bill wedi bod yn ymchwilio, ysgrifennu am ac o bryd i'w gilydd yn byw mewn Cymunedau Bwriadol ers dros 30 mlynedd ac yn yr amser hwn mae wedi cynhyrchu 12 llyfr, mwy nag 20 o benodau a dros 40 o erthyglau a adolygwyd gan gymheiriaid.  Yn 2018 dyfarnwyd iddo Wobr Ysgolhaig Nodedig, gan y Gymdeithas Astudiaethau Cymunedol

Mae Bill yn cyfrannu'n rheolaidd at ddadleuon radio a theledu am fyw cymunedol ac iwtopianiaeth ac ar hyn o bryd mae'n ymchwilio ac yn ysgrifennu hanes cyflawn comiwnyddiaeth Utopaidd yn Awstralia.



 

Professor Helen Jarvis

Mae Dr Helen Jarvis yn Ddarllenydd mewn Daearyddiaeth Gymdeithasol Drefol ym Mhrifysgol Newcastle: enillodd ei PhD o Ysgol Economeg Llundain ym 1997.  Mae ei hymchwil gyfredol yn ystyried cymunedau bwriadol o dai cydweithredol, ymgysylltu dinesig, daearyddiaethau anghydraddoldeb o safbwynt yr aelwyd a chysoni bywyd a gwaith.  Mae hi'n uchel ei pharch yn rhyngwladol am hyrwyddo paradeimau newydd dad-dyfu cynaliadwy a phensaernïaeth gymdeithasol sy'n cefnogi economi rhannu gwyrdd.  Mae cymrodoriaethau ymweliadol yn cynnwys cyfnod fel 'ymchwilydd preswyl' yn 'freetown' Christiania, Copenhagen, yn 2010.





Penny Clark

Mae Penny Clark yn ymgeisydd PhD ym Mhrifysgol San Steffan ac mae ganddi gefndir mewn dulliau ymchwil cymdeithasol. Mae ei hymchwil doethuriaeth yn archwilio cynaliadwyedd amgylcheddol mewn cymunedau cyd-drigo a chyd-fyw. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys cymunedau bwriadol, tai cymunedol, arferion amgylcheddol caredig a phontio cynaliadwyedd. 






Dr Jim Hudson

Mae Dr Jim Hudson yn Uwch-gydymaith Ymchwil yn Ysgol Astudiaethau Polisi Prifysgol Birmingham, lle cafodd ei benodi'n ddiweddar i weithio ar brosiect newydd sy'n archwilio potensial tai cydweithredol yng nghyd-destun gofal cymdeithasol i bobl hŷn. Dechreuodd ymwneud â chymunedau bwriadol gyntaf wrth fyw ym Merlin am sawl blwyddyn; dychwelodd i'r ddinas ar gyfer ei PhD, a archwiliodd yr heriau sy'n wynebu prosiectau cyd-drigo a grëwyd gan eu haelodau i gefnogi ei gilydd yn ystod eu henaint. Cyn dechrau yn ei swydd newydd ym Mryste, roedd wedi ei leoli yn Ysgol Economeg Llundain, lle roedd ei ymchwil yn cynnwys astudiaeth blwyddyn o rôl tai dan arweiniad y gymuned mewn lleihau unigrwydd (ar ran y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol), ac astudiaeth gyda'r nod o recordio ymatebion cymunedol cydweithredol i'r pandemig. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bu hefyd yn gweithio fel gwirfoddolwr gyda RUSS CLT, prosiect tai cymunedol ar lawr gwlad yn ne-ddwyrain Llundain.





Professor Peadar Kirby 

Mae'r Athro Peadar Kirby yn Athro Emeritws Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Pholisi Cyhoeddus ym Mhrifysgol Limerick ac mae ganddo PhD o Ysgol Economeg Llundain. Mae wedi cyhoeddi’n eang ar wleidyddiaeth ac economi wleidyddol Iwerddon ac America Ladin, ar globaleiddio, ac ar fregusrwydd/cydnerthedd. Ei lyfr diweddaraf yw, Karl Polanyi and the Contemporary Global Crisis: Transforming Market Society in the Era of Climate Change, and yn 2018 fe gafodd ei lyfr The Political Economy of the Low-Carbon Transition: Pathways Beyond Techno-optimism, ei gyhoedd gan Palgrave Macmillan. Mae'n byw yn ecobentref Cloughjordan, Co. Tipperary lle mae'n cydlynu'r rhaglen addysgol.






Anton Marks

Israeliad a anwyd ym Mhrydain yw Anton Marks ac mae’n un o sylfaenwyr kibbutz trefol mwyaf Israel. Mae wedi bod yn rhan o fyd cymunedau bwriadol ers dros 20 mlynedd. Mae'n rhedeg y Ddesg Cymunedau Bwriadol, y mae'n golygu eu cylchgrawn ar ei chyfer, yn aelod o fwrdd y Gymdeithas Astudiaethau Cymunedol Rhyngwladol ac mae’n eistedd ar fwrdd ymgynghorol Eco Village Voice. Mae angerdd Anton dros gymuned fwriadol, ei brofiad personol o fywyd cymunedol a’i brofiadau o ymweld â chymunedau dirifedi ledled y byd yn ei wneud yn siaradwr gafaelgar a heriol.