Cyflwyniad i Gymunedau Bwriadol
Nod y cwrs hwn yw rhoi dealltwriaeth i gyfranogwyr o gwahanol ffurfiau a strwythurau posib cymunedau bwriadol. Bydd cyfle i archwilio’r gwahanol athroniaethau a all fod yn sail i wahanol gymunedau bwriadol ac i ystyried yr effaith y mae lefelau cymunedolrwydd yn eu cael ar gymunedau bwriadol. Bydd cyfranogwyr yn cael cyfle i ystyried modelau datblygu posibl a sut y gallai hyn effeithio ar ffurfio a datblygu cymuned.
Cynnwys dangosol:
• Hanes cymunedau bwriadol o'r 1960au ymlaen
• Diffiniadau a nodweddion cymunedau bwriadol
• Lefelau a mathau o gymunedau
• Rhannu gweledigaeth - cyfle i gyfranogwyr ddisgrifio eu syniadau am gymuned
• Athroniaethau
• Amgylcheddol ̶ eco-bentrefi e.e. Llamas
• Cyfiawnder cymdeithasol ̶ cwmnïau cydweithredol radical e.e. Cornerstone Leeds
• Ail-gipio cymuned - dewisiadau gwledig eraill e.e. Relay / Dol-lys
• Ysbrydol e.e. Findhorn
• Modelau datblygu
• Sut i ymuno â chymuned bresennol
• Enghreifftiau o'r broses o sefydlu cymuned newydd.
Cymunedau Bwriadol: Modelau ac Arian
Nod y cwrs hwn yw rhoi cyfle i gyfranogwyr ddeall y strwythurau cyfreithiol posibl sydd gan gymunedau ar gael iddynt. Bydd cyfranogwyr yn cael cyfle i werthuso cryfderau a gwendidau gwahanol strwythurau yn systematig ac i allu nodi'r strwythurau cyfreithiol priodol ar gyfer gwahanol fathau o gymunedau. Bydd y cwrs yn archwilio rhai o'r modelau ariannol a ddefnyddir amlaf ar gyfer cymunedau ac yn galluogi cyfranogwyr i nodi modelau ariannol priodol ar gyfer gwahanol fathau o gymunedau.
Cynnwys dangosol:
• Pam mae angen strwythur cyfreithiol
• Y prif fodelau a ddefnyddir i ddatblygu gwahanol fathau o gymunedau bwriadol
• Cydberchnogaeth
• Perchnogaeth gydfuddiannol lwyr v perchnogaeth gydfuddiannol
• Cwmnïau cydweithredol
• Ymddiriedolaethau tir
• Offer ar gyfer cymharu a gwerthuso y modelau cyfreithiol
• Cyfrifoldebau sy'n gynhenid mewn gwahanol strwythurau cyfreithiol
• Codi'r arian i brynu tir neu eiddo
• Prif ffynonellau
• Faint a gan bwy
• Rhent v perchnogaeth a modelau yn y canol rhyngddynt
Cymunedau Bwriadol: Datrys problemau a datrys gwrthdaro.
Nod y cwrs hwn yw galluogi cyfranogwyr i ddod i ddeall deinameg grŵp a sut y gallant effeithio ar iechyd cymuned. Anogir cyfranogwyr i ddeall rhai o'r dulliau allweddol o ddatrys gwrthdaro ac i archwilio gwahanol dduliau o wneud penderfyniadau. Bydd y cwrs yn galluogi cyfranogwyr i ystyried ffyrdd o sicrhau 'iechyd' a chynaliadwyedd cymuned.
Cynnwys dangosol:
• Pam mae cymunedau'n llwyddo neu'n methu. Astudiaethau achos fel LEAF, Old Hall
• Theori rôl a theori systemau - a allan nhw helpu?
• Rheoli disgwyliadau
• Dulliau o achub y blaen a lleihau gwrthdaro
• Pŵer, rolau a chlymbleidiau
• Consensws, mwyafrif a dulliau eraill o wneud penderfyniadau