Ymchwil>Cymunedau Bwriadol>Our Seminar Programme

Ein Rhaglen Seminar

​18 Hydref 2018, 5.00 - 7.00  Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf - Kirsten Stevens-Wood  Ystafell O2.56

Desperately Seeking Utopia: the use of Prefigurative language by communards seeking others to create intentional communities

Mae'r broses o sefydlu cymuned fwriadol newydd yn un hir a chymhleth.  Mae llawer yn dechrau gyda syniad neu weledigaeth o'r hyn 'allai fod' ac yn defnyddio hwn i ddod ag eraill tebyg.   Mae'r gweledigaethau hyn o'r dyfodol yn aml yn hynod fywiog a disgrifiadol, weithiau'n mynd cyn belled â disgrifio ffordd o fyw neu leoliad sydd eto i'w gyflawni.  Pan ddaw grwpiau at ei gilydd, maent yn dechrau cyflawni'r dyfodol trwy ffurf a swyddogaeth y grŵp, mewn iaith a gweithredoedd.  Gan ddefnyddio'r tair prif gronfa ddata ar gyfer pobl sy'n ceisio cychwyn cymunedau newydd, mae'r papur hwn yn archwilio'r ffordd y mae grwpiau ac unigolion yn defnyddio cyfluniad i greu gweledigaethau o'r dyfodol a chymryd rhan mewn disgyrsiau iwtopaidd.

 Chwilio'n daer am Utopia.pptx

 

9fed Tachwedd 2017, 5.00 - 7.00  Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf - Cath Boswell  Ystafell O2.56

Ageing in an intentional Community:
Archwiliad o ffenomen y twf mewn cymunedau bwriadol a sefydlwyd yn benodol ar gyfer pobl hŷn.  Sut mae'r rhain yn wahanol i gymunedau aml-genhedlaeth eraill?  Beth allai fod ganddynt i’w  gynnig i gynllunio prif ffrwd mewn cymdeithas sy'n heneiddio?

7fed Medi 2016, 5.00 - 7.00  Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf - Kirsten Stevens-Wood Ystafell O2.31

Do intentional communities have a role to play in our housing future?
Mae gan gymunedau bwriadol hanes hir ac hybarch, gan ymddangos mewn ystod o feintiau a strwythurau o gomiwnau hipi i'r model llawer mwy ffurfiol o gyd-gartrefu.  Yn eu holl ffurfiau  gwahanol gellir dadlau bod elfen o ddylanwad iwtopaidd (Sargisson 2005) a radicaliaeth amgen lle mae grwpiau o bobl yn cymryd eu tai yn llythrennol yn eu dwylo eu hunain.  Mae llawer o gymunedau bwriadol yn torri tir newydd  ̶  gan brofi’r hyn sy’n bosibl ar gyrion cymdeithas, ac yn aml gellir gweld eu rheswm dros fodoli fel ymateb i natur cymdeithas sy’n newid. Gellir gweld y ffurf y gallent ei gymryd fel ymateb uniongyrchol i bryderon yr oes (Abrams 1976; Halfacree, 2006).

Mae gan gymunedau bwriadol y potensial i ddarparu cyfleoedd lle na all neu na wnaiff tai prif ffrwd. Mae modelau cyd-gartrefu a rhanberchnogaeth wedi bod yn fodelau poblogaidd ar gyfer cymunedau bwriadol cyfoes gan alluogi unigolion i gymryd rhan mewn creu a pherchnogi modelau cyfranogol newydd o dai cydweithredol. Fodd bynnag, mae'r ymchwil gyfyngedig yn awgrymu bod cymunedau bwriadol yn aml yn cael eu ffurfio gan unigolion a grwpiau sydd â mynediad at arian a chyfalaf cymdeithasol (Abrams 1976), felly er nad yw'n ffenomen newydd, efallai nid yn un sydd ar gael ar hyn o bryd i'r llu.  Mae'r papur hwn yn gofyn a yw'n bosibl creu cymunedau bwriadol fel dewis arall prif ffrwd hyfyw? Rydym yn ystyried y dystiolaeth sydd ar gael ac yn awgrymu bod cymunedau bwriadol yn y DU yn annhebygol o symud y tu hwnt i farchnad arbenigol freintiedig heb gefnogaeth wleidyddol ac economaidd sylweddol.

 Housing Futures Presentation.pptx

 

6ed Ebrill 2016, 5.00 - 7.00.  Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf - Liz Hayes:

Exit and Voice: Hirschman’s model revisited as applied to Intentional Communities
Mae Cymunedau Bwriadol yn 'iwtopaidd' ac yn aml fe'u ffurfir yn sgîl anfodlonrwydd â chymdeithas brif ffrwd AC awydd i fyw mewn ffordd well.   Maent wedi'u gwreiddio yn yr amser a'r lle y maent am eu newid, ond, mae rhai o'r materion y mae cymunedau'n ffurfio o'u cwmpas yn hynod gyson dros amser er enghraifft gwrthod y brif ffrwd a dychwelyd i fodelau byw cymdeithasol.  Mae cymunedau o'r fath yn caniatáu inni gael golwg ar gymdeithas ehangach, o safbwynt pobl nad ydynt yn rhan ohoni ond ar yr un pryd yn ymgysylltu'n agos â hi.

Gan ddefnyddio model Exit and Voice Hirschman mae'r papur hwn yn archwilio'r ffordd y mae “… language constitutes or produces the concepts or categories we use to make sense of the world” (Hastings, 1999, p10) ac mae disgwrs yn cyfrannu at greu fframiau sy’n rhoi strwythur sy’n llunio’r ffordd yr ydym yn dirnad rhai agweddau ar y byd (Bloor and Bloor, 2007)

Mae'r canfyddiadau'n awgrymu bod actifiaeth gymdeithasol yn ganolog i lawer o gymunedau bwriadol, er nad i bob un a bod gan actifiaeth gymdeithasol wahanol ystyron i wahanol gymunedau  ̶  gwrth-gyfalafiaeth, gwrth-brynwriaeth, amgylcheddaeth a 'modelu' ffordd well o fyw.

 Exit Voice revisited.pptx

 

3ydd Chwefror 2016, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf - Kirsten Stevens-Wood:

Reality Bites: A discourse analysis of the differences between forming and established intentional communities.
Nod y prosiect hwn yw cymharu'r iaith a'r ddelweddaeth a ddefnyddir gan bobl sydd am ffurfio Cymuned Fwriadol â'r iaith a'r ddelweddaeth a ddefnyddir gan bobl o grwpiau sefydledig.   

Mae cymunedau'n aml yn dechrau gydag unigolion yn dod at ei gilydd i ddychmygu bywyd gwell.  Caiff y bywyd gwell ei ddisgrifio a’i gynrychiol trwy ddefnyddio iaith, a gall yr iaith a ddefnyddir ddylanwadu ar weledigaeth a realiti y bywyd hwnnw.

Tynnwyd data o 'ardaloedd cyhoeddus' gwefannau tair o'r cymunedau bwriadol mwyaf poblogaidd sy'n cynnal grwpiau sy’n ffurfio a grwpiau sy’n bodoli, ac o wefannau'r grwpiau eu hunain. Canfu'r ymchwil ei bod yn ymddangos bod gwahaniaethau rhwng grwpiau sydd wrthi’n ffurfio a chymunedau sefydledig mewn nifer o feysydd pwysig.  Awgrymwn yn betrus y gallai'r ffordd y mae'r gymuned yn cael ei 'dychmygu' cyn ei chreu gael effaith ar ei ffurf derfynol.form.

Reality Bites.pptx