Mae’r Grŵp Ymchwil Cymunedau Bwriadol
Mae’r Grŵp Ymchwil Cymunedau Bwriadol yn cynnal cyfres o seminarau rhyngddisgyblaethol dros y 6 mis nesaf. Grŵp ymchwil traws-brifysgol rhyngwladol yw hwn sy’n cynnwys academyddion, ymchwilwyr a rhai myfyrwyr Doethuriaeth.
Y llinyn cyswllt yw Cymunedau Bwriadol, ond mae’n aml yn croestorri themâu megis lles, yr amgylchedd a ffyrdd gwahanol o fyw (gan gynnwys cyd-drigo, hunangynhaliaeth a heneiddio).
Rydym yn cwrdd bob deufis ac mae gennym gymysgwch o siaradwyr gwadd a chyfleoedd i drafod / cyflwyno.
EST = 12.00 – 2.00 canol dydd
GMT = 5.00 - 7.00yh
GMT+2 = 7.00 - 9.00yh
Dydd Mawrth 12fed Hydref
Yr Athro Silvia Rode, cyfarwyddwr y Ganolfan Astudiaethau Cymunedol, Prifysgol De Indiana, a fydd yn siarad â ni am y broses o greu a rheoli archifau a’r casgliad sydd ynddynt.
Dydd Mawrth 14eg Rhagfyr
Economeg (solidariaeth) Amgen.
Chwefror 15fed
Heneiddio a Chymuned Fwriadol
Ebrill 12fed
I’w gadarnhau
Mehefin 14eg
I’w gadarnhau
Os oes diddordeb gennych mewn mynychu, ymuno, neu gyflwyno, cysylltwch â ni: kstevens-woood@cardiffmet.ac.uk