Skip to main content
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd>Cyrsiau>Astudiaethau Tai - Gradd BSc (Anrh)

Astudiaethau Tai - Gradd BSc (Anrh)

Blwyddyn Mynediad

​Oes gennych chi gymhwyster Tai CIH Lefel 4 a Lefel 5? Ydych chi eisiau ennill BSc (Anrh) Astudiaethau Tai?

Mae’r cwrs BSc (Anrh) Astudiaethau Tai Lefel 6 rhan-amser hwn ym Met Caerdydd wedi’i gynllunio i ystyried gofynion y sector a sicrhau bod ein graddedigion yn meddu ar y wybodaeth a’r sgiliau proffesiynol priodol sy’n ofynnol yn y farchnad.

Cynigir y radd atodol hyblyg hon i ymarferwyr tai presennol, neu’r rhai sy’n cael eu cyflogi neu’n gwirfoddoli mewn maes tai neu faes cysylltiedig, i’w galluogi i ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau ymhellach.

Cynigir y rhaglen achrededig hon gan y Sefydliad Tai Siartredig ar sail ran-amser​.


Cynnwys y Cwrs

Efallai y bydd angen newidiadau yn y dyfodol ar gyfer mynediad 2024/2025 oherwydd newidiadau i gymwysterau gorfodol.

Os bydd angen unrhyw newidiadau i gynnwys y cwrs, bydd pob ymgeisydd yn cael gwybod unwaith y bydd y newidiadau wedi’u cadarnhau.


Blwyddyn Tri/Lefel 6 (BSc)

(Fel arfer yn cael ei gwblhau dros 2 flynedd yn rhan-amser)

Mae pob myfyriwr yn ymgymryd â darn o ymchwil (Prosiect Dysgu Seiliedig ar Waith Cymhwysol) ar faes o’ch dewis, wedi’i gefnogi gan diwtorialau. Mae’r modiwl hwn wedi’i gynllunio o gwmpas dysgu seiliedig ar waith a negodir.


Modiwlau Craidd

Blwyddyn 1

Astudiaeth Ymarfer Cymharol (20 credyd)
Bydd myfyrwyr yn gwneud cymhariaeth rhwng eu gweithle a sefydliad tebyg arall, gan ganolbwyntio ar faes polisi a/neu ymarfer y mae’r ddwy asiantaeth yn ymgysylltu ag ef. Y bwriad yw y bydd y myfyriwr yn cynhyrchu darn o ymchwil sy’n seiliedig ar dystiolaeth sydd â gwerth academaidd ac ymarferol.

Polisi a Chyfranogiad (20 credyd)
Mae’r modiwl hwn yn edrych ar sut mae tai yn cael eu creu, eu deall, a’u trin fel ‘problem polisi’ a sut y gall ymgysylltu â thrigolion a chymunedau lywio hyn. Mae’n ofynnol i fyfyrwyr gymryd rhan mewn ‘hacathon’ fel rhan o’u hasesiad.

Entrepreneuriaeth Gymdeithasol (20 credyd)
Mae’r modiwl hwn yn gofyn i fyfyrwyr greu cynllun busnes ar gyfer menter gymdeithasol. Gan ganolbwyntio ar sut mae economeg yn berthnasol i faterion cymdeithasol, bydd myfyrwyr yn cyflwyno hyn i fwrdd o arbenigwyr i gael adborth.

Blwyddyn 2

Prosiect Dysgu Seiliedig ar Waith Cymhwysol (40 credyd)
Mae’n ofynnol i fyfyrwyr ymgymryd â darn o ymchwil sylfaenol i bwnc tai dewisol. Mae’r asesiad yn gofyn iddynt gyflwyno hyn mewn amrywiaeth o fformatau ac adlewyrchu eu datblygiad fel ymchwilydd.

Digartrefedd (20 credyd)
Mae’r modiwl hwn yn gofyn i fyfyrwyr ymgysylltu â seiliau damcaniaethol deall digartrefedd mewn cyd-destun rhyngwladol. Bydd myfyrwyr yn dadansoddi sut y gellir cynllunio ymatebion ymarfer i fynd i’r afael â’r mater hwn yn fwyaf effeithiol.

Dysgu ac Addysgu

Mae’r rhaglenni’n rhoi pwyslais mawr ar ansawdd yr addysgu a phwysigrwydd profiad dysgu sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr. Dros gyfnod eu cwrs anogir myfyrwyr i ddatblygu’r hyder a’r sgiliau i fod yn ddysgwyr cynyddol annibynnol. Cyflwynir y cwrs gan dîm craidd, sy’n cynnwys academyddion sydd i gyd yn dod o gefndiroedd ymarfer sy’n sicrhau bod yr addysgu’n berthnasol i anghenion ymarfer presennol ac yn y dyfodol.

Mae ymarferwyr yn cyfrannu fel darlithwyr gwadd i lawer o’r modiwlau ac yn sicrhau bod yr addysgu’n adlewyrchu arferion tai cyfoes. Rhoddir cyfleoedd hefyd i fyfyrwyr fynychu ymweliadau astudio a chael mynediad at symudweithiau rhyngwladol, yn ogystal â chynadleddau a seminarau proffesiynol.

Mae darlithoedd a thiwtorialau yn fodiwlaidd gyda phwyslais ar gymhwyso theori i ymarfer. Er bod myfyrwyr yn astudio eu hunain mae pwyslais hefyd ar waith grŵp drwy gydol y cwrs. Mae canllawiau i ddysgwyr ar gael gan Diwtoriaid Proffesiynol (personol) a Thiwtoriaid Modiwl.

Mae gan bob myfyriwr fynediad at Diwtor Personol drwy gydol y cwrs. Mae’r Tiwtor Personol yn rhoi cymorth i fyfyrwyr ac ar gael ar gyfer tiwtorialau unigol.

Defnyddir Moodle i gefnogi dysgu ar bob lefel astudio. Yn ogystal, mae gan fyfyrwyr fynediad i lyfrgell helaeth o lyfrau a chyfnodolion (gan gynnwys e-gopïau), sydd ar gael gan Wasanaethau Llyfrgell.

Asesu

Mae’r asesu’n ddiddorol ac yn amrywiol. Mae’r asesiadau’n cynnwys aseiniadau ysgrifenedig, cyflwyniadau grŵp a phosteri academaidd. Dewiswyd nifer o’r dulliau asesu hyn i adlewyrchu prosesau a gofynion sy’n digwydd o fewn gwaith tai.

Mae gan fyfyrwyr lawer o gyfleoedd i gymhwyso eu gwybodaeth a’u sgiliau i astudiaethau achos sy’n seiliedig ar faterion ymarfer cyfredol. Mae asesiadau eraill yn cynnwys, er enghraifft, traethodau traddodiadol, yn ogystal ag adroddiadau, prosiectau ymchwil a datblygu portffolio​.

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Mae’r cwrs yn cael ei gydnabod ar draws y sector tai am fod yn gynhwysfawr ac yn hynod berthnasol.

Cynigir y rhaglen astudio rhan-amser hyblyg hon i ymarferwyr tai presennol, neu’r rhai sy’n cael eu cyflogi neu’n gwirfoddoli mewn maes tai neu faes cysylltiedig, i’w galluogi i ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau ymhellach.

Mae’r rhaglen ran-amser yn cynnwys nifer o flociau dysgu ac fe’i cynlluniwyd i gael ei chyfuno â chyflogaeth o fewn y maes tai, neu gydag ymrwymiadau eraill.

Gall graddedigion o’r rhaglen symud ymlaen i astudio ar lefelau Meistr a PhD ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais

Dylai ymgeiswyr feddu ar naill ai Ddiploma Cenedlaethol Uwch (neu gyfwerth) mewn pwnc perthnasol, gradd Sylfaen, neu gymhwyster cyfatebol sy’n cyfateb i 240 credyd.

Gweithdrefn Ddethol: ​Rhaid i fyfyrwyr sy’n dymuno cymryd rhan yn y cwrs wneud cais yn seiliedig ar RPL. Caiff RPL ei ystyried, a dystiwyd gan bortffolio a chyfweliad byr.

Un o’r prif feini prawf ar gyfer dewis ymgeiswyr yw bod yn rhaid iddynt ddangos eu bod yn gallu llwyddo ar raglen radd​.

Sut i Wneud Cais: Dylid gwneud ceisiadau am y cwrs hwn yn uniongyrchol i’r Brifysgol trwy ein cyfleuster hunanwasanaeth. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n tudalennau Sut i Wneud Cais yn www.metcaerdydd.ac.uk/sutiwneudcais.

Cysylltu â Ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044, e-bostiwch askadmissions@cardiffmet.ac.uk neu anfonwch neges drydar atom ar @CMetAdmissions.

Ar gyfer ymholiadau cwrs-benodol, cysylltwch â’r Uwch Ddarlithydd Helen Taylor:
E-bost: HTaylor@cardiffmet.ac.uk

Rydyn ni’n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â’r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu’r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i’r brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae’n cadw’r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o’r fath yn angenrheidiol. Darllenwch ein Telerau ac Amodau i gael y wybodaeth lawn.

Gwybodaeth Allweddol Am Y Cwrs

Wedi’i achredu gan:
Sefydliad Tai Siartredig

Man Astudio:
Campws Llandaf

Ysgol:
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd

Hyd y Cwrs:
BSc Atodol: Dwy flynedd yn rhan-amser