Skip to main content

Addysg - MA

Nod y rhaglen MA Addysg hon yw creu addysgwyr sy'n gallu gweithredu ar y lefelau uchaf ym maes addysg, gyda'r gallu i integreiddio theori ag ymarfer a chymhwyso llymder deallusol ac academaidd, wedi'i lywio gan ymchwil addysgol gyfredol, i'w cyd-destun proffesiynol, neu rolau addysg yn y dyfodol.

Rhaglenni cysylltiedig ar gael:

  • MA Addysg - (amser llawn yn unig)

Mae'r MA Addysg wedi'i gynllunio fel paratoad ar gyfer dysgu proffesiynol ym maes addysg. Efallai eich bod eisoes yn addysgwr gyrfa gynnar neu efallai eich bod yn cynllunio gyrfa mewn ymarfer addysgol neu waith polisi. Nid yw'r radd MA Addysg hon yn gofyn am fyfyrio ar arfer proffesiynol.

  • MA Addysg Anghenion Dysgu Ychwanegol – (rhan-amser neu amser llawn)
  • MA Polisi ac Ymarfer Addysg – (rhan-amser neu amser llawn)
  • MA Arweinyddiaeth mewn Addysg – (rhan-amser neu amser llawn)

Mae'r 3 rhaglen hon wedi'u cynllunio ar gyfer y rhai sy'n gweithio mewn lleoliadau addysgu ac addysg, sydd â phrofiad proffesiynol ac sy'n dymuno datblygu eu harferion presennol ym mhynciau Anghenion Dysgu Ychwanegol, Polisi ac Ymarfer ac Arweinyddiaeth.

Datblygwyd y rhaglenni cysylltiedig ar ôl ymgynghori'n helaeth â chyflogwyr, athrawon, gweithwyr addysg proffesiynol a myfyrwyr.

Mae opsiynau astudio hyblyg ar gael, gan gynnwys dysgu ar-lein, ar y campws a dysgu cyfunol, yn ystod sesiynau dydd, cyfnos a gyda'r nos, fel y gallwch ystyried y dull a'r amser cyflwyno. Mae'r holl raglenni cysylltiedig yn cynnig ystod o fodiwlau craidd a dewisol, felly gallwch deilwra'r cynnwys, wrth wneud eich dewisiadau cwricwlwm.

Mae ein tîm addysgu a chefnogaeth yn cynnwys gweithwyr proffesiynol addysg ac ymchwilwyr profiadol a all eich arwain drwy eich dysgu tra hefyd yn eich gwneud yn ymwybodol o lwybrau gyrfa, datblygu rhwydweithiau a chyfleoedd ar gyfer astudiaethau pellach ac ymchwil.


Rydyn ni’n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â’r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu’r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i’r brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae’n cadw’r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o’r fath yn angenrheidiol. Darllenwch ein Telerau ac Amodau i gael y wybodaeth lawn.

Cynnwys y Cwrs

MA Addysg (amser llawn yn unig)

Wedi'i gynllunio i fyfyrwyr nad ydynt eto'n gweithio mewn rolau proffesiynol sylweddol mewn addysg, nid yw'r radd MA Addysg 180 credyd hon yn gofyn am fyfyrio ar arfer proffesiynol.

Mae’r cwrs yn seiliedig ar hyfforddiant sgiliau academaidd i ddangos y ymgodiad i ddysgu ac asesu Lefel 7 (lefel Meistr), mae myfyrwyr yn astudio 40 credyd o fodiwlau craidd (Gwerthusiad Beirniadol o Ddata Addysgol, Addysg, Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Thegwch), Traethawd Hir 60 credyd, ac yn dewis 4 modiwl ychwanegol o ystod eang o opsiynau 20 credyd fel a ganlyn:

Ar-lein

  • Datblygu, Gwerthuso ac Addasu’r Cwricwlwm
  • Datblygiad Cymdeithasol ac Emosiynol


Cyfunol

  • Addysg, Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Thegwch; CRAIDD
  • Gwerthusiad Beirniadol o Ddata Addysgol; CRAIDD
  • Datblygiad Glasoed
  • Pobl Ifanc a'r Rhyngrwyd
  • Addysg Gyfannol ac Ecolegol
  • Ymgyrchu, Protest, a Threfnu Cymunedol
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant


Mae pob myfyriwr yn ymchwilio ar gyfer Traethawd Hir 60 credyd ar bwnc sydd o ddiddordeb iddynt.


MA Polisi ac Ymarfer Addysg (rhan-amser neu amser llawn)

Cynlluniwyd y rhaglen hon fel dysgu proffesiynol ar gyfer y rhai sy'n gweithio ym maes addysgu a phroffesiynau addysg eraill. Dyma ein rhaglen fwyaf generig sy'n cynnig ystod eang o fodiwlau dewisol, llawer ohonynt yn cael eu haddysgu'n rhyngbroffesiynol ar draws ein hystod o raglenni. Ategir y rhaglen gan fodiwl craidd 20 credyd cychwynnol 'Ymchwil Ymarferwyr', ac fe'i cwblheir gyda thraethawd hir 60 credyd. Mae Ymchwil Ymarferwyr wedi'i gynllunio i gynnig y sgiliau sylfaenol ar gyfer dadansoddi myfyriol beirniadol ar ymarfer proffesiynol. Mae hyn yn galluogi myfyrwyr i seilio eu hasesiadau ar ddadansoddiad o'u cyd-destun proffesiynol eu hunain.

Gall myfyrwyr ddewis 5 modiwl ychwanegol o ystod eang o opsiynau 20 credyd fel a ganlyn:

Ar-lein

  • Datblygu, Gwerthuso ac Addasu Cwricwlwm
  • Datblygiad Cymdeithasol ac Emosiynol
  • Addysgeg Dysgu ac Addysgu


Cyfunol

  • Ymchwil Ymarferwyr; CRAIDD
  • Addysg, Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Thegwch
  • Gwerthuso Data Addysgol yn Feirniadol
  • Datblygiad Glasoed
  • Pobl Ifanc a'r Rhyngrwyd
  • Addysg Gyfannol ac Ecolegol
  • Ymgyrchu, Protest, a Threfnu Cymunedol
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant
  • Diwylliant Ieuenctid ac Is-Ddiwylliant
  • Mentora a Hyfforddi
  • Dysgu Saesneg i Ddysgwyr Ifanc
  • Arwain a Rheoli Ymarfer Proffesiynol
  • Ymarfer Amlasiantaeth


Mae pob myfyriwr yn ymchwilio ar gyfer Traethawd Hir 60 credyd ar bwnc sydd o ddiddordeb iddynt.


MA Anghenion Dysgu Ychwanegol Addysg (rhan-amser neu amser llawn)

Cynlluniwyd y rhaglen hon fel dysgu proffesiynol ar gyfer y rhai sy'n gweithio ym maes addysgu a phroffesiynau addysg eraill lle mae anghenion dysgu ychwanegol yn faes ymarfer sylweddol. Yn ddelfrydol, byddech mewn rôl broffesiynol sy'n cynnwys anghenion dysgu ychwanegol, neu'n gallu sicrhau profiad gwaith sylweddol i gynnig y cyfleoedd dysgu sydd eu hangen ar gyfer cwblhau'r rhaglen hon. Efallai y bydd eich addasrwydd ar gyfer y rhaglen arbenigol hon yn cael ei asesu cyn ymgeisio drwy gysylltu â Chyfarwyddwr y Rhaglen, neu drwy'r broses dderbyn.

Cefnogir y rhaglen gan fodiwl craidd 20 credyd cychwynnol 'Ymchwil Ymarferwyr’, a gynlluniwyd i gynnig y sgiliau sylfaenol ar gyfer dadansoddi adfyfyriol beirniadol ar ymarfer proffesiynol. Mae hyn yn galluogi myfyrwyr i seilio eu hasesiadau ar ddadansoddiad o'u cyd-destun proffesiynol eu hunain. Modiwlau craidd ychwanegol yw: Anawsterau Dysgu Penodol; Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth; ac Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant.

Students are able to select two additional modules from a range of options as follows:

Ar-lein

  • Datblygiad Cymdeithasol ac Emosiynol


Cyfunol

  • Anawsterau Dysgu Penodol
  • Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth mewn Plant a Phobl Ifanc; CRAIDD
  • Ymchwil Ymarferydd; CRAIDD
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad; CRAIDD
  • Dysgu Saesneg i Ddysgwyr Ifanc
  • Arwain a Rheoli Ymarfer Proffesiynol
  • Ymarfer Amlasiantaeth


Mae pob myfyriwr yn ymchwilio ar gyfer Traethawd Hir 60 credyd ar bwnc sydd o ddiddordeb iddynt a ddylai fod yn gysylltiedig ag anghenion dysgu ychwanegol.


MA Arweinyddiaeth mewn Addysg (rhan-amser neu amser llawn)

Mae'r rhaglen hon wedi'i chynllunio fel dysgu proffesiynol ar gyfer y rhai sy'n gweithio mewn rolau arwain, neu'n cael eu paratoi ar gyfer rolau arwain, mewn proffesiynau sy'n gysylltiedig ag addysg. Mae llawer o'r modiwlau yn cael eu haddysgu'n rhyngbroffesiynol ar draws ein hystod o raglenni. Mae'r ethos rhyngbroffesiynol hwn yn cydweddu'n fawr â chyd-destun amlasiantaethol arweinyddiaeth mewn lleoliadau addysg gyfoes.

Mae dau fodiwl craidd 20 credyd yn sail i'r rhaglen: Arwain a Rheoli Ymarfer Proffesiynol, ac 'Ymchwil Ymarferwyr. Mae pob un o'r modiwlau hyn wedi'u cynllunio i gynnig y sgiliau sylfaenol ar gyfer dadansoddi mfyfyriol beirniadol ar ymarfer proffesiynol. Mae hyn yn galluogi myfyrwyr i seilio eu hasesiadau ar ddadansoddiad o'u cyd-destun proffesiynol eu hunain.

Gall myfyrwyr ddewis 4 modiwl ychwanegol o ystod o opsiynau 20 credyd fel a ganlyn:

Ar-lein

  • Datblygu, Gwerthuso ac Addasu‘r Cwricwlwm


Cyfunol

  • Ymchwil Ymarferwyr; CRAIDD
  • Gwerthuso Data Addysgol yn Feirniadol
  • Mentora a Hyfforddi;
  • Arwain a Rheoli Ymarfer Proffesiynol; CRAIDD
  • Ymarfer Amlasiantaeth


Mae pob myfyriwr yn ymchwilio ar gyfer Traethawd Hir 60 credyd ar bwnc sy'n gysylltiedig ag arweinyddiaeth sydd o ddiddordeb iddynt.

Dysgu ac Addysgu

Cyflwyno'r Cwrs

Mae'r dysgu’n dechrau gyda chyflwyniad cyn dechrau'r tymor. Yn ystod y cyfnod cynefino byddwch yn clywed am eich amserlen, disgwyliadau o'ch rhaglen astudio, tasgau asesu, ac yn cael cyfle i ofyn cwestiynau er mwyn cael eglurhad cyn dechrau'r addysgu.

Mae ein modiwlau wedi'u hamserlennu i gynnig ystod eang o ddewisiadau i fyfyrwyr sy'n gweithio mewn lleoliadau addysg. Mae ein holl fodiwlau yn cyflwyno cynnwys yn ddychmygus gan ddefnyddio'r ystod o offer cyflwyno ac amgylcheddau dysgu rhithwir sydd ar gael ym Met Caerdydd. Rydym yn osgoi 'Sialc a Siarad'. Er bod angen darparu rhywfaint o wybodaeth, rydym yn gweithio ar yr egwyddor bod oedolion yn dysgu trwy sgwrsio, trafod ac arbrofi.

Gydag ystod o fformatau cyflwyno gan gynnwys ar-lein, ar y campws a chyfunol ar-lein/ar y campws, ac ystod o amseroedd cyflwyno gan gynnwys ysgolion dydd, dysgu mewn bloc, sesiynau cyfnos a gyda'r nos, byddwch yn gallu ystyried dull ac amser cyflwyno yn ogystal â chynnwys eich modiwl, wrth wneud eich dewisiadau cwricwlwm.


Oriau Cyswllt

Mae'r holl fodiwlau 20 credyd yn seiliedig ar ddarparu 24 awr wedi'i amserlennu (ar-lein, ar y campws neu wedi'i gyfuno) wedi'i ychwanegu gan ystod o ddulliau dysgu gan gynnwys tasgau ar-lein, dysgu yn y gweithle, darllen ac astudio preifat, i gyfanswm o 200 awr. Mae'r Traethawd Hir 60 credyd yn cynnwys hyd at 15 awr wedi'i amserlennu a gweithdai ar-lein, ynghyd â 6 awr o diwtorialau gyda goruchwyliwr i gefnogi eich prosiect ymchwil annibynnol.


Cefnogaeth

Neilltuir tiwtor personol i bob myfyriwr a fydd yn trefnu un tiwtorial y tymor yn ogystal ag amser ychwanegol os oes angen. Bydd eich tiwtor personol yn trafod eich cynnydd, yn helpu i ddehongli adborth eich asesiad, yn ystyried unrhyw faterion a allai fod yn effeithio ar eich cynnydd academaidd, ac yn eich gwneud yn ymwybodol o'r ystod o wasanaethau cymorth a gynigir yn y brifysgol.


Technoleg a Chyfleusterau

Mae arweinwyr y modiwlau yn defnyddio ein Hamgylchedd Dysgu Rhithwir, Moodle, i gyflwyno gwybodaeth hanfodol fel llawlyfrau modiwlau a phwyntiau asesu. Defnyddir Moodle hefyd i gyflwyno deunyddiau ac adnoddau ychwanegol, ac i ysgogi deialog a thrafodaeth ar-lein rhwng sesiynau a addysgir.

Mae amrywiaeth o adnoddau gan gynnwys e-lyfrau, erthyglau cyfnodolion academaidd, a chatalog o'n hystod eang o lyfrau llyfrgell ar gael drwy ein hadnodd MetSearch.


Arbenigedd y Staff

Mae ein holl fodiwlau'n cael eu staffio gan weithwyr proffesiynol addysg profiadol, llawer ohonynt hefyd yn ymchwilwyr gweithredol ac yn gallu darparu addysgu sy'n seiliedig ar ymchwil. Mae llawer o'n staff addysgu yn ymwneud ag ymchwil ar gyfer Llywodraeth Cymru, gan roi tîm y rhaglen ar flaen y gad o ran polisi ac ymarfer addysg.

Asesu

Nid oes arholiadau ar unrhyw un o'n rhaglenni astudio. Mae tasgau asesu wedi'u cynllunio i helpu myfyrwyr i ddangos sut maent wedi bodloni’r deilliannau dysgu. Gall myfyrwyr gael eu hasesu trwy ddulliau gan gynnwys cyflwyniadau, adroddiadau, traethodau traddodiadol, gwaith grŵp, a phortffolios seiliedig ar waith. Lle bo'n briodol, bydd myfyrwyr yn cael cyfle i gymhwyso eu tasg asesu i'w cyd-destun ymarfer proffesiynol.

Mae pob modiwl yn cynnwys sesiwn ar baratoi ar gyfer asesiadau. Gall adborth fod yn ysgrifenedig neu'n llafar ar ffurf recordiad a wneir gan arweinydd y modiwl. Byddwch yn cael esboniad o ba mor llwyddiannus yr ydych wedi cyflawni eich canlyniadau asesu, a gwybodaeth am sut y gellid bod wedi gwella'ch marc - a thrwy hynny eich paratoi ar gyfer asesiadau yn y dyfodol.

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Mae llawer o weithwyr addysg proffesiynol yn gwella eu gyrfa o'r sgiliau a'r hyder a ddatblygwyd drwy astudio ein rhaglenni MA. Fel arfer, bydd ymgeiswyr yn cael cynnig trafodaeth gyda chyfarwyddwr y rhaglen – dyma gyfle i drafod dyheadau gyrfa ac i ddewis y llwybr mwyaf addas i gefnogi'r dyheadau hynny

Mae myfyrwyr sy'n dod i'n MA Addysg amser llawn oherwydd eu bod yn anelu at yrfa newydd mewn addysg, yn dweud wrthym eu bod yn ennill sgiliau a gwybodaeth i ddangos eu hymrwymiad a'u cymhwysedd fel paratoad ar gyfer ymarfer proffesiynol, neu ar gyfer rolau polisi.

Bydd myfyrwyr sydd eisoes wedi'u cyflogi mewn rôl addysg broffesiynol yn elwa o ddewis un o'n rhaglenni cymhwysol (MA Addysg: Polisi ac Ymarfer; MA Addysg: Anghenion Dysgu Ychwanegol; MA Arweinyddiaeth mewn Addysg). Mae'r rhaglenni hyn wedi'u cynllunio i gynnig dysgu proffesiynol fel cyfle i ddatblygu arfer presennol.

Mae llawer o'n myfyrwyr yn gweld eu bod yn gallu sicrhau dyrchafiadau neu rolau proffesiynol uwch, yn aml cyn i'r rhaglen astudio ddod i ben. Mae'r pwyslais ar ymarfer myfyriol dadansoddol yn helpu myfyrwyr i fynegi eu meddwl a'u hymarfer proffesiynol mewn sefyllfaoedd cyfweliad.

Mae llawer o'n graddedigion yn mynd ymlaen i astudio ar lefel doethuriaeth, a gall hyn hefyd arwain at rolau addysgu neu ymchwil mewn addysg uwch. Mae ein tiwtoriaid personol a'n goruchwylwyr traethawd hir yn gweithio gyda'n myfyrwyr i drafod opsiynau ar gyfer astudiaeth ddoethurol.

Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais

Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod â gradd gychwynnol berthnasol â dosbarthiad 2:1 neu uwch. Bydd ymgeiswyr â gradd is yn cael eu hystyried os gallant ddangos profiad proffesiynol perthnasol gwiriadwy neu fathau eraill o ddysgu proffesiynol.

Bydd angen i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth o ruglder i safon IELTS 6.5 neu gyfwerth o leiaf. I gael manylion llawn am sut i wneud cais a’r cymwysterau Iaith Saesneg, ewch i’r tudalennau Rhyngwladol ar y wefan.


Sut i Wneud Cais

Dylid gwneud ceisiadau am y cwrs hwn yn uniongyrchol i'r Brifysgol drwy ein cyfleuster hunanwasanaeth. I gael rhagor o wybodaeth ewch i'n tudalennau Sut i Wneud Cais.

Ymgeiswyr Teach First: Dewiswch y llwybr Rhan amser ar y ffurflen gais.


Cydnabod Dysgu Blaenorol

Trosglwyddo Credydau o Brifysgolion Eraill
Os ydych chi eisoes wedi cwblhau cwrs sydd wedi’i achredu ar Lefel 7 (Lefel Meistr), neu gydrannau cwrs o’r fath, mewn sefydliad addysg uwch arall ym Mhrydain neu dramor, mae’n bosib y bydd modd i chi drosglwyddo credydau o’r cwrs tuag at y radd MA mewn Addysg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Dylech drafod hyn gyda Chyfarwyddwr y Rhaglen. Dylech lwytho copi o’r adysgrif gyda’ch cais.


Achrediad CPCP
Os ydych chi wedi cwblhau’r CPCP (y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth), gallwch gyflwyno aseiniad pontio (5,000 gair) i ennill 60 credyd tuag at y radd MA mewn Addysg.

Gwybodaeth Ychwanegol

Ffioedd Dysgu a Chefnogaeth Ariannol:
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd dysgu a’r ​gefnogaeth ariannol a allai fod ar gael, ewch i www.cardiffmet.ac.uk/fees.

Mae gostyngiad ffioedd o 25% ar gael i fyfyrwyr sydd wedi’u cyflogi yn un o ysgolion partner Prifysgol Metropolitan Caerdydd ar gyfer Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon neu gymuned bartneriaeth. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Derbyniadau.

Ffioedd rhan amser:
Mae’r ffioedd ar sail Modiwlau Sengl oni nodir yn wahanol:
Israddedig = 10 Credyd; Ôl-raddedig = 20 Credyd

Cysylltwch ag arweinydd y rhaglen i gael rhagor o wybodaeth am fodiwlau i’w hastudio’n rhan amser, a sut bydd hyn yn effeithio ar ffioedd.

Cysylltu â Ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau drwy ffonio 029 2041 6044 neu anfonwch e-bost at directapplications@cardiffmet.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau penodol i’r cwrs, cysylltwch â chyfarwyddwr y rhaglen, Dr Jan Huyton:
E-bost: jhuyton@cardiffmet.ac.uk.

Gwybodaeth Allweddol Am Y Cwrs

Lleoliad Astudio:
Campws Cyncoed

Ysgol:
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd

Hyd y Cwrs:
Gellir cwblhau pob llwybr mewn 1-2 flynedd amser llawn, neu 2-4 blynedd yn rhan-amser.
Blwyddyn amser llawn (MA Addysg yn unig).