Busnes>Dysgu Seiliedig ar Waith>Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL)

Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL)

Mae Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL) yn broses sy'n caniatáu i ddarparwyr addysg roi gwerth ar wybodaeth, sgiliau a phrofiad unigolion waeth ble y bo’r unigolion hynny wedi eu caffael. Efallai bod y cymwyseddau hyn wedi'u hennill yn ffurfiol trwy sefydliad addysgol neu wedi eu cael yn anffurfiol trwy'r gweithle, hobïau neu ddiddordebau. Trwy gydnabod y dysgu a'r profiad hwn, gall unigolion ennill credyd academaidd a ellir ei ddefnyddio i wella eu taith ddysgu neu eu rhagolygon gyrfa.

I gael mwy o wybodaeth am sut i achredu'ch dysgu, neu i wneud cais am raglen ym Met Caerdydd gan ddefnyddio Cydnabod Dysgu Blaenorol, ewch i’n canllawiau cynhwysfawr ar y wefan Derbyniadau:

Cyngor i Ymgeiswyr> Cydnabod Dysgu Blaenorol