Mae Ysgol Reoli Caerdydd yn cyd-gyflwyno gyda darparwyr dysgu seiliedig ar waith ar nifer o fframweithiau Prentisiaeth Uwch i allu darparu'r cymhwyster perthnasol a'r sgiliau a'r wybodaeth addysgu academaidd sydd eu hangen ar y lefel hon o ddysgu. Mae prentisiaethau uwch yn cynnwys:
Mae yna hefyd gyfleoedd i allu darparu cyfleoedd dilyniant i Brentisiaid Uwch gyda rhai rhaglenni'n cynnig llwybr carlam neu gydnabyddiaeth o gyfleoedd dysgu blaenorol i gymwysterau gradd a meistr.
Mae Prentisiaethau Gradd yn cyfuno elfen seiliedig ar waith prentisiaeth â fframwaith academaidd cymhwyster Addysg Uwch, lle cyflogir y prentis gan ddarparu profiad ymarferol.
Nodyn i gyflogwyr: Gellir defnyddio Prentisiaethau Gradd i wella sgiliau gweithwyr presennol lle darperir y cyfle i ddysgu yn y gwaith ac asesu.
Prentisiaethau Gradd sy'n cael eu datblygu yn y dyfodol yw:
• Peirianneg Meddalwedd
• Seiberddiogelwch
Sut i Wneud Cais:
Hysbysebir ac ymdrinnir â swyddi prentisiaeth gan gyflogwyr.
Cysylltwch â'r Ganolfan Dysgu Seiliedig ar Waith:
E: scanning@cardiffmet.ac.uk
F: 029 2020 4902 (ext.5824)