Prosiect HEFCW: 'Partneriaeth ar gyfer Dilyniant a Ffyniant' Dyfodol Creadigol, Technolegol a Digidol: Adeiladu Gyda'n Gilydd.

Bridgend College.pngCardiff and vale.pngColeg Gwent.png

Coleg y Cymoedd.pngMerthyr.pngOpen uni.png

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn arwain y llinyn Dylunio ar brosiect newydd sy’n cael ei ariannu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW).

Mae staff y Ganolfan Dysgu Seiliedig ar Waith (CWBL) yn ymgysylltu â phartneriaid prosiect (darparwyr addysg) ac arbenigwyr diwydiant er mwyn adnabod prinder sgiliau yn y diwydiant dylunio yn Ne Ddwyrain Cymru.

Mae trafodaethau yn cael eu cynnal gydag ystod o weithwyr proffesiynol cysylltiedig â dylunio o ddiwydiannau graffig, ffasiwn, tecstilau a dylunio cynnyrch hyd at gwmnïau gwrthrychau wedi’u dylunio, pensaernïaeth a pheirianneg ynghylch defnyddio technolegau digidol newydd yn y llwybrau gyrfa hynny.

Nod y prosiect yw datblygu rhwydwaith dylunio a fydd yn adeiladu cysylltiadau cynaliadwy rhwng darparwyr addysg a'r sector dylunio yn Ne Ddwyrain Cymru gyda'r nod o wella dilyniant dysgwyr i’r diwydiant. Mae'r Prosiect yn cynnwys:


 

Dosbarthiadau meistr

 

 

Rhannu sgiliau trwy raglen o ddosbarthiadau meistr, ac fe gynhaliwyd y cyntaf ym mis Ionawr 2019.

Cynhaliwyd y Dosbarth Meistr Agoriadol o'r enw 'Design Masterclass Innovation & Fabrication' gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd ac roedd yn cynnwys taith dywys o amgylch y FabLab (www.fablabcardiff.com) sydd wedi'i leoli yn Ysgol Gelf Caerdydd. Gwelodd partneriaid prosiect a chynrychiolwyr diwydiant dechnolegau gweithgynhyrchu digidol ar waith a chawsant gyfle pellach i gymryd rhan mewn trafodaeth gyda'r nod o annog rhwydwaith dylunio cynaliadwy.

 

Lleoliadau Mewnwelediad Strategol (SIPs)

Mae Lleoliadau Mewnwelediad Strategol yn lleoliadau tymor byr, wedi’u hariannu, ar gyfer staff prifysgol mewn diwydiant (ac i'r gwrthwyneb). Mae'r lleoliadau'n hyrwyddo ac yn annog cyfnewid gwybodaeth ac arbenigedd. Mae cymeradwyo cyllid yn dibynnu ar syniadau wedi'u diffinio'n dda ar gyfer lleoliadau gyda chanlyniadau clir a fyddai'n creu cysylltiadau strategol â phartneriaid yn y Diwydiant, yn annog ac yn datblygu cydweithrediad ag AU/AB ac yn cyd-fynd â llinyn y rhaglen Ddylunio.

Gwybodaeth Allweddol

  • Gall lleoliad fod hyd at fwyafswm o 50 awr

  • Cyllid hyd at fwyafswm o £2500 (£50 yr awr) - costau heb eu cynnwys


Cymhwysedd:

• Pob aelod o staff a gyflogir ar gontractau llawn neu ffracsiynol mewn sefydliadau AU/AB
• Sefydliadau trydydd sector preifat/cyhoeddus allanol (ag eithrio addysg)
• Nid yw SIPs ar gyfer ariannu ymchwil am ddim, hyfforddiant ymgynghori na darparu gwasanaeth

Proses Ymgeisio:

• Dylai ymgeiswyr lenwi'r ffurflen gais a'i hanfon at yr arweinydd
• Bydd y cais yn cael ei adolygu a rhoddir cadarnhad o gymeradwyaeth maes o law
• Cyflwyno adroddiad cwblhau a thaflenni amser ac yna caiff y cyllid ei brosesu.

Gall SIPs adeiladu perthnasoedd ac ymddiriedaeth gref rhwng partneriaid sector sy'n hyrwyddo ymchwil a menter. Os ydych chi'n fusnes dylunio yn rhanbarth De Ddwyrain Cymru ac â diddordeb mewn cymryd rhan neu os hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch â Liz Price yn y Ganolfan Dysgu Seiliedig ar Waith yn  cwbl@cardiffmet.ac.uk.



 ​​Dychwelwch i dudalen flaen CWBL