Dyluniwyd Cronfa Sbarduno EntAct ar gyfer myfyrwyr a graddedigion sydd â syniad datblygedig ar gyfer busnes neu fenter gymdeithasol. Fe fyddwch yn barod i gychwyn neu dyfu eich busnes neu fenter gymdeithasol. Er efallai na fyddwch yn cynhyrchu refeniw sylweddol eto, byddwch naill ai wedi masnachu prawf, wedi gwneud rhai gwerthiannau cychwynnol neu byddwch wedi datblygu MVP ac wedi dechrau dilysu'ch syniad.
Rydyn ni wedi dylunio'r broses ymgeisio i ddynwared y broses o wneud cais am gyllid mwy difrifol, felly bydd yn cymryd peth gwaith, ond bydd pob dogfen rydyn ni'n gofyn amdani yn ddefnyddiol i chi. Os oes angen cefnogaeth arnoch gyda'ch cais, hoffem glywed gennych - ein gwaith ni yw eich cefnogi chi! (entrepreneuriaeth@cardiffmet.ac.uk)
Ymgeisiwch yma.
Mae Cronfa Sbarduno EntAct am swm penodedig o £500. Gallwch wneud cais fwy nag unwaith, ond dyfernir uchafswm o ddwy gronfa i unrhyw fusnes/unigolyn.
Pwy all wneud cais?
Ar gyfer beth allwch chi wneud
cais?
Rhaid nodi'r defnydd o'r cronfeydd yn y cais. Gallwch wneud cais am wariant penodol a fydd yn eich helpu i symud ymlaen gyda'ch busnes. Gall hyn gynnwys cofrestru Eiddo Deallusol, costau marchnata, costau masnachu profion, offer arbenigol ac ati. Rydym yn annhebygol o ariannu offer TG generig neu gyrsiau hyfforddi.
Dyfernir grantiau ar sail y cyntaf i'r felin, a chânt eu barnu yn ôl ansawdd y cais. Mae nifer gyfyngedig o ddyfarniadau ar gael a bydd ceisiadau'n cau unwaith y bydd yr holl arian wedi'i ddyrannu. I gystadlu bydd angen i chi ddarparu'r ddogfennaeth ganlynol.
Crynodeb Busnes Un Tudalen (1 Ochr A4)
Cynfas Model Busnes -.
Fideo Syml i Cyflwyno'ch Syniad yn Gryno - (Gall hyn fod chi yn sôn am eich busnes am 60 eiliad)
Manylion y gwariant arfaethedig, gyda dyfynbrisiau a chyfiawnhad (1 Ochr A4)
Ymgeisiwch yma.
Os oes angen cymorth pellach arnoch gyda'ch cais, e-bostiwch entrepreneuriaeth@cardiffmet.ac.uk
Ddim yn barod am y Gronfa Sbarduno eto? Rhowch gynnig ar Y Gronfa Fflach.
Ydi'r Gronfa Sbarduno'n rhy fach, neu ydych wedi'i dderbyn yn barod? Rhowch gynnig ar Gronfa Cychwyn CF5.